Pwy yw Panathinaikos?
- Cyhoeddwyd
Bydd pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd, yn wynebu'r cewri o Wlad Groeg, Panathinaikos, yn Yr Amwythig ym mhumed rownd Cyngres Europa nos Iau.
Mae Panathinaikos yn un o'r timau mwyaf yng Ngwlad Groeg, gyda nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn rhan o'r garfan.
Ond pwy yw Panathinaikos? Yma mae Luca Muzzupappa yn trafod rhywfaint o hanes y clwb.
Mae disgwyl i dros 4,000 o gefnogwyr Panathinaikos deithio o Athen i Sir Amwythig i weld y gêm yn erbyn Y Seintiau Newydd. Bydd hyn yn awyrgylch anghyfarwydd i chwaraewyr Y Seintiau, sydd fel arfer yn gweld torf agosach i 300 yn Stadiwm Park Hall.
Sefydlwyd Panathinaikos yn 1908, ac maent yn cael eu hystyried fel un o'r 'tri mawr' yn Groeg, ynghyd â Olympiacos ac AEK Athens. Mae Panathinaikos wedi ennill pencampwriaeth Gwlad Groeg 20 o weithiau, gydag un ymgyrch gofiadwy yn 1963-64 pan aethon nhw drwy'r tymor yn ddiguro.
Nid dyma fydd y tro gyntaf i Panathinaikos chwarae tîm o Gymru. Yn 1989 fe wnaeth Abertawe gwrdd â'r tîm o Athen yng Nghwpan enillwyr UEFA.
Mae'r gêm yn un nodedig i gefnogwyr Abertawe. Ar ôl colli 3-2 ym mhrifddinas Groeg arestiwyd 16 o gefnogwyr Abertawe ar ôl brwydro efo cefnogwyr Panathinaikos, ond mae'r ail gymal nôl ar y Vetch Field hyd yn oed yn fwy cofiadwy.
Llwyddodd Abertawe i gadw'r Groegwyr i gêm gyfartal, 3-3. Roedd tîm Abertawe yn cynnwys chwaraewyr fel Chris Coleman, a aeth 'mlaen i reoli ein tîm cenedlaethol, a chwaraewr rhyngwladol Lloegr, John Salako.
Tydi ymddygiad cefnogwyr Panathinaikos heb wella rhyw lawer ers 1989. Mae gweithredoedd y grŵp ultras 'Gat 13' yn golygu bod nifer o gemau'r clwb yn cael eu gohirio, gan gynnwys gêm ddarbi yn erbyn AEK Athens bum mlynedd yn ôl wedi i'r cefnogwyr ymladd â'r heddlu ar y cae.
Mae Panathinaikos wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yng nghystadlaethau Ewrop dros y blynyddoedd.
Yn 1970-71 fe gyrhaeddodd Panathinaikos rownd derfynol Cwpan Ewrop, gan golli 2-0 i Ajax o'r Iseldiroedd.
Panathinaikos ydy'r unig dîm o Groeg i lwyddo cyrraedd y rownd derfynol o'r gwpan honno.
Yn dilyn eu llwyddiant yn 1971, fe wnaeth Panathinaikos gyrraedd y rownd gyn-derfynol eto yn 1984-85 ac yn 1995-96, gan golli allan i Lerpwl ac Ajax.
Er eu llwyddiant hanesyddol, tydi Panathinaikos heb ennill y gynghrair Groegaidd ers 2010, sef y cyfnod hiraf heb deitl ers 1948.
Mae dechreuad Panathinaikos i Gyngres Europa eleni wedi bod yn un siomedig. Dim ond pedwar pwynt mae'r tîm wedi ei gasglu yn y pedair gêm gyntaf; un pwynt yn unig yn fwy na'r Seintiau. Mae Panathinaikos wedi colli dau o'u pedwar gêm, gan gynnwys colli 4-1 yn erbyn Chelsea ym mis Hydref.
Os bydd y Seintiau'n llwyddo i guro Panathinaikos, bydden nhw mewn sefyllfa ffafriol i gyrraedd y gemau ail-gyfle.
O'r 11 chwaraewr a ddechreuodd y gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth i Panathinaikos mae 10 yn chwaraewyr rhyngwladol, gan gynnwys y chwaraewr canol-cae Tasos Bakasetas, sydd wedi ennill 73 gap dros Wlad Groeg, a Willian Arao sydd wedi cynrychioli Brasil.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2024