Dymchwel simnai enwog ym Môn yn 'chwerw felys'

Disgrifiad,

Cafodd y simnai - sydd wedi dod yn dirnod amlwg yng ngogledd Ynys Môn - ei dymchwel bnawn Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae'r olygfa yng Nghaergybi wedi cael ei thrawsnewid wrth i simnai adnabyddus hen safle Alwminiwm Môn gael ei dymchwel.

Cafodd y tŵr - sydd wedi dod yn dirnod amlwg yng ngogledd Ynys Môn - ei ddymchwel brynhawn Mercher.

Mae’r safle, sy’n eiddo i gwmni Stena Line, wedi’i ddynodi fel un o’r safleoedd treth a thollau o fewn Porthladd Rhydd y dref.

Daeth cadarnhad y llynedd gan lywodraethau’r DU a Chymru y bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn un o ddau borthladd rhydd i’w sefydlu yng Nghymru.

Dymchwel y simnai yw cam cyntaf ail-ddatblygu’r safle ar gyfer y dyfodol, er mwyn ceisio cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer buddsoddiad newydd.

Roedd cwmni Alwminiwm Môn dan berchnogaeth Rio Tinto Alcan a Kaiser Aluminium, ac fe ddechreuodd weithredu yn 1971.

Roedd y cwmni, ar un cyfnod, yn un o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn, ond fe gaeodd y gwaith yng Nghaergybi yn 2009 gan arwain at golli bron i 400 o swyddi.

Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn rhagweld y bydd dymchwel y simnai a pharatoi hen safle Alwminiwm Môn yn arwain at fuddsoddiad all gyflwyno hyd at 13,000 o swyddi ledled gogledd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'n well "adeiladu rhywbeth newydd i gael gwaith i bobl ifanc yr ynys", meddai Gary Wyn Williams, un o'r cyn-weithwyr

Wrth siarad â rhaglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru, dywedodd Gary Wyn Williams, un o gyn-weithwyr Alwminiwm Môn: "Mae'n well iddo ddod lawr i gael adeiladu rhywbeth newydd i gael gwaith i bobl ifanc yr ynys.

"Ges i lawer o hwyl yma, mi oedd 'na gang dda o ddynion a merched yn gweithio yma...

"Lle da iawn i weithio, cyflog da ac yn cael bob peth oeddach chi isio yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yma wedi bod yn "gyflogwr da dros y blynyddoedd", meddai Alun Roberts o Fforwm Busnes Cybi

Mae Alun Roberts yn aelod o bwyllgor Fforwm Busnes Cybi, a dywedodd: "Mae'n ddiwrnod hanesyddol, beth yda ni'n ei obeithio ydi y bydd lot o waith yn dod ar y safle yma - mi yda ni wir angen hynny ar yr ynys.

"Mae'r safle yma wedi bod yn gyflogwr da dros y blynyddoedd... dyna 'da ni isio ei groesawu nôl i Gaergybi gan fod wir ei angen ar hyn o bryd.

"Mae 'na wir angen am unedau busnes i fusnesau cynhenid yr ynys i ehangu a gobeithio creu swyddi.

"Y gobaith ydi y bydd y datblygwyr yma yn creu unedau ar gyfer busnesau mawr ond hefyd busnesau'r ynys sy'n ein cynnal yn economaidd ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tŵr enwog ei ddymchwel brynhawn Mercher

Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie: "Does dim yn dangos faint o gynnydd mae Ynys Môn yn ei wneud nawr bod gan yr ynys statws porthladd rhydd na dymchwel yr hen i wneud lle i'r newydd.

"Bydd llawer yn gweld hi'n anodd gweld y simnai'n cael ei dymchwel, ond mae dyfodol newydd yn cael ei adeiladu a dyna pam y dylai’r diwrnod fod yn achos dathlu wrth i ni fachu ar y cyfleoedd newydd hyn ar yr ynys rwy’n ei charu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: “Mae dymchwel hen simdde Alwminiwm Môn yn rhywbeth chwerw felys i’r gymuned leol ac i Ynys Môn yn ehangach.

"Dan gysgod y simdde, roedd cannoedd yn gweithio mewn swyddi da, ac mae’n cael ei dymchwel gan fod y swyddi hynny wedi mynd," meddai.

"Ond rhaid i ni weld hyn fel dechrau ar gyfnod o adfywio i’r safle, sy’n un o safleoedd datblygu pwysicaf Cymru.

"Rhaid edrych eto i greu bwrlwm economaidd yno, ac mae dymchwel y simdde yn rhan o hynny.

“Bu’r tŵr yn rhan o dirwedd Môn ers cenedlaethau, a bydd yn cymryd amser dod i arfer heb ei weld yn edrych allan dros Gaergybi a’r cyffiniau.”

Pynciau cysylltiedig