20 wedi cystadlu am y Fedal Ddrama ar ei newydd wedd

Eisteddfod 2025
  • Cyhoeddwyd

Mae yna ambell newid i'r brifwyl eleni.

  • 'Hwyrnos' - y maes gwersylla newydd i'r rhai heb garafan ond sy'n teimlo ella'n rhy hen i aros yn Maes B!;

  • Y Stiwdio - gofod newydd sbon ar gyfer rhagbrofion a chyngherddau gydol yr wythnos;

  • a'r Fedal Ddrama ar ei newydd wedd.

Mi fydd seremoni Medal y Dramodydd yn cael ei chynnal ddydd Iau - a hynny o dan drefn gystadlu newydd ond un sydd wedi'i datblygu ers cyn Eisteddfod 2024.

Mae'r panel beirniad yn cynnwys wyth o bobl o sefydliadau theatr Cymru a'r dasg oedd cynnig braslun stori a deialog neu ddrafft o ddrama gyflawn.

Mae'r gystadleuaeth wedi'i datblygu'n sylweddol ers cyn Eisteddfod 2024 a hynny wedi ei amlinellu yn Rhestr Testunau Eisteddfod Wrecsam.

Mi gafwyd ugain cais eleni, sy'n fwy na'r arfer, ac yn dystiolaeth yn ôl y Steddfod bod y newid yn gweithio.

Mae Kallum Wayman o Sir Conwy yn croesawu'r newid a oedd wedi'i benderfynu cyn  yr hyn ddigwyddodd yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kallum Wayman o Sir Conwy yn croesawu'r newid a oedd wedi'i benderfynu cyn yr hyn ddigwyddodd yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Un sy'n falch fod y gystadleuaeth wedi ei haddasu ydy'r dramodydd a'r cyfarwyddwr Kallum Wayman o Sir Conwy.

"Mae o'n agor y drws i fwy o bobol allu rhoi drama ymlaen wrth sgwennu outline na sgwennu drama llawn," meddai.

"Mae'r pres (i'r enillydd) wedi mynd i fyny, a hefyd mae cael cydweithio efo theatrau i ddatblygu'r script a'r awdur - wel does dim pris ar hynny!

"Mae hi'n fwy realstig i ofyn i awdur roi outline yn lle gorfod sgwennu drama llawn a gneud dim byd efo fo os ti'n colli."

Sharon Morgan

Mae'r Eisteddfod, fel gymaint o sefydliadau yn gorfod gwneud dewisiadau a newidiadau yn gyson.

Y llynedd, mi drodd sefyllfa atal y Fedal Ddrama yn ddrama yn ei hun.

Mae'r drafodaeth am y dirgelwch yn dal i fudferwi ar wefannau cymdeithasol ac ar lawr gwlad, ac ymgyrchwyr yn dal i ofyn i'r Eisteddfod gynnig eglurhad pellach.

Un o'r rheiny ydi'r actores a'r awdur Sharon Morgan - mae hi'n gyn-feirniad y Fedal Ddrama.

"Mae'n anhygoel i feddwl fod dal dim eglurhad.

"A dweud y gwir mae'r ffordd y gwneth yr Eisteddfod ddelio gyda'r sefyllfa ar y pryd - mor ddisymwth, heb esboniad.

"Does dal dim esboniad wedi bod ar waetha'r ffaith bod cannoedd wedi arwyddo'r ddeiseb ac mae'n teimlo 'chydig bach yn sarhaus ac amharchus a'i fod e wedi newid perthynas eisteddfodwyr, efallai, gyda'r Eisteddfod," meddai.

Roedd hi'n fore braf ar y maes ddydd Sadwrn a dim golwg o'r un storm
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n fore braf ar y maes ddydd Sadwrn a dim golwg o'r un storm

Mae'r Eisteddfod wedi pwysleisio dro ar ôl tro fod popeth o fewn eu gallu wedi cael ei ryddhau, a'r broses wedi'i hegluro eisoes.

Gyda blwyddyn wedi mynd heibio ydi hi'n deg ail godi'r pwnc? Mi fydd llawer yn teimlo nad oes angen agor hen grachen, ond bydd eraill mae'n siwr yn dal ati i dyrchu.

'Pryder' am statws y theatr ar y maes

Mae'r drafodaeth o gwmpas "helynt y fedal" yn rhan o gyd-destun ehangach.

Mae nifer wedi sôn wrtha i am y "pryder cyffredinol" am statws y theatr ar faes yr Eisteddfod.

Mae yna hiraeth hefyd am Theatr Fach y Maes a'r ddrama gomisiwn.

"Mae'n wych cael theatr ar draws y maes ayb ond dyw hynny ddim yn gallu cymryd lle perfformiadau mewn lle arbennig lle mae pobl yn gallu eistedd a gwylio," ychwanegodd Sharon Morgan.

"Ewch chi ar hyd y maes ac fe welwch chi celf, gwerin, gwyddoniaeth - pob math o bethau ond welwch chi ddim mo'r gair theatr ac mae e fel petai bod y theatr yn cael ei ddiddymu yn gyfangwbl, ei ddiraddio yn llwyr gan yr Eisteddfod.

"Gyda'r celfyddydau mewn sefyllfa argyfyngus ry'n ni angen pob help ellwn ni gael o bob cyfeiriad.

"A dweud y gwir mae'r gymuned theatraidd yn teimlo fod y Steddfod wedi gadael ni lawr.

"Y neges gyda fi i'r steddfod fyddai - rhowch gyfle i'r theatr, rhowch hawl a lle i'r theatr ar faes yr Eisteddfod

"Parchwch y ffaith bod y theatr yn wirioneddol bwysig i ni fel cenedl.

"Ac wrth ei ddiddymu fel hyn a'i ddiraddio a diystyrru barn y byd theatraidd i chi'n neud cam mawr iawn a ni, mae'n dorcalonnus."

Yn ôl yr Eisteddfod mae'r gwaith theatr sydd wedi'i gyflwyno ar y maes dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llawn "amrywiaeth" a "dychymyg" – ac yn dangos nad ydi drama yn "gyfyngedig i un ffurf nac un llwyfan".

Mae Kallum Wayman yn cytuno.

"Dwi'n hoffi ma' rhywun yn gallu cerdded drwy y Steddfod a ffendio theatr yn digwydd. Ma' hwnna'n brilliant. Mae o'n fantastic, ond mae o yn rhoi limitations ar pa math o theatr sy'n cael ei greu yn y Steddfod.

"Mae genno ni limitations ar tech, limitations ar lleoliad.

"Os oes gen ti rwla arbennig ar gyfer y theatr yna ni'n gallu rhoi high quality theatr lwyfan yn yr Eisteddfod."

Mae swyddogion yr Eisteddfod wedi tanlinellu unwaith yn rhagor wrtha i na fyddan nhw'n trafod atal y fedal ymhellach. Atalnod llawn pendant.

Fel newyddiadurwr dwi wedi dod i ddallt ers tro fod pynciau trafod sy'n gysylltiedig â'r Eisteddfod Genedlaethol yn straeon sy'n aml yn emosiynol ac yn hollti barn.

Mae pobol YN malio a dyna gryfder yr Eisteddfod yn y bôn.

Beth bynnag am y Fedal a'r ddrama mae'r llwyfan yn barod a'r llenni wedi agor yn Eisteddfod Wrecsam ac yng nghanol yr holl gystadlu mi gawn wybod yn ystod yr wythnos pwy fydd y prif gymeriadau eleni.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.