'Yr un camgymeriadau yn dal i ddigwydd mewn gofal mamolaeth'

Doctor yn sganio bol merch feichiogFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r un camgymeriadau yn digwydd o fewn gofal mamolaeth a dim llawer o arwyddion fod gwersi'n cael eu dysgu, yn ôl rhai sy'n cefnogi teuluoedd sy'n profi trawma geni.

Dydd Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd adolygiad annibynnol o'r holl wasanaethau mamolaeth yn y wlad, yn dilyn adroddiad beirniadol am Fwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Mae teulu bachgen a brofodd fethiannau gofal yn ystod ei enedigaeth yn dweud bod wedi eu hanwybyddu ar sawl achlysur.

Ac yn ôl y Gymdeithas Trawma Geni yng Nghymru, mae angen cadw "golwg drylwyr ar ddiwylliant unedau mamolaeth".

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe a Llywodraeth Cymru ymddiheuro am y methiannau ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad diweddaraf.

'Pryderon sylweddol am ansawdd gofal'

Dywedodd Julia Reynolds o gwmni cyfreithiol Leigh Day, sy'n arbenigwr ar esgeulustod meddygol, nad ydy'r problemau mae hi'n eu gweld wedi newid ers blynyddoedd.

"Dwi'n gweld achosion o bob un o'r byrddau iechyd ledled Cymru ac mae'r problemau rydyn ni'n eu gweld yn debyg," meddai.

"Mae gennyf bryderon sylweddol o ran ansawdd gofal mamolaeth ledled Cymru."

Julia Reynolds
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julia Reynolds fod llawer o deuluoedd, ar ôl colli babi, yn cael rhywun yn dweud wrthyn nhw "fod y pethau yma'n digwydd"

Daeth yr adolygiad o ofal yn Abertawe i'r casgliad fod diffyg tosturi yn y sesiynau dadfriffio gyda theuluoedd, ac mewn ymatebion i gwynion.

Dywedodd Ms Reynolds fod llawer o deuluoedd, ar ôl colli babi, yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda rhywun yn dweud wrthyn nhw "fod y pethau yma'n digwydd".

"Er y gallai aelodau staff deimlo eu bod nhw'n gwneud y peth iawn trwy gynnig cysur i deuluoedd - yr hyn y mae hynny'n ei wneud mewn gwirionedd ydy gadael y rhieni hynny heb atebion, a gydag amheuon mawr."

"Dwi'n credu fod hyn yn cam-wasanaethu teuluoedd ac mae hi'n bwysig iawn i deuluoedd gael atebion, deall beth aeth o'i le ac yn bwysicach - i'r plant hynny gael triniaeth gynnar i gael canlyniad gwell."

Sian a Rob Channon
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian a Rob Channon eu bod wedi teimlo bod y bwrdd yn eu hanwybyddu ar adegau

Cafodd mab Sian a Rob Channon, Gethin, anableddau yn sgil methiannau gofal yn ystod ei enedigaeth yn 2019 yn Abertawe.

Dywedodd Sian bod y siwrne i gael "cydnabyddiaeth am beth sydd wedi bod yn digwydd yn Abertawe" wedi bod yn hir, a'u bod wedi gorfod ymladd am yr hyn ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad ddydd Mawrth.

Dywedodd y ddau eu bod wedi teimlo bod y bwrdd yn eu hanwybyddu dros y blynyddoedd, ond bellach yn fwy hyderus am newid.

Ychwanegodd Sian bod yr ymddiheuriad yn sgil yr adroddiad yn "mynd yn bell wrth ail-adeiladu perthynas gyda theuluoedd".

Dweud wrth ferched eu bod yn 'rhy ddramatig'

Thema fawr o'r adroddiad ar ofal ym Mae Abertawe oedd nad oedd menywod yn teimlo bod staff yn gwrando arnynt.

"Mae'n hawdd iawn weithiau i staff ddiystyru menyw sydd dan straen, fel rhywun sy'n or-ddramatig," medd Kim Thomas o'r Gymdeithas Trawma Geni.

"Rydyn ni'n clywed cryn dipyn o sôn fod pobl yn dweud wrth ferched eu bod nhw'n bod yn rhy ddramatig.

"Ond pan maen nhw'n ceisio aros yn dawel mae pobl yn cymryd nad oes unrhyw beth o'i le, mae'n debyg," meddai.

Kim ThomasFfynhonnell y llun, Kim Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n hawdd iawn weithiau i staff ddiystyru menyw sydd o dan straen, fel rhywun sy'n or-ddramatig," medd Kim Thomas

Mae'r polisïau a datganiadau gan Lywodraeth Cymru yn nodi bwriad cadarnhaol, meddai Julie Richards o Goleg Brenhinol y Bydwragedd.

Ond dywedodd na fyddan nhw'n llwyddo heb fuddsoddiad.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae adroddiadau ac adolygiadau i wasanaethau mamolaeth yng Nghymru, yn anffodus, yn tynnu sylw at yr un materion allweddol sy'n effeithio ar ddarparu gofal diogel, diffyg staff, diffyg cyllid, diwylliant gwaith a dim digon o bwyslais nac amser ar gyfer hyfforddiant aml-ddisgyblaethol hanfodol."

Wrth ymateb i'r adolygiad ym Mae Abertawe, fe wnaeth y bwrdd iechyd ymddiheuro'n llwyr i unrhyw deulu na chafodd ofal o safon dderbyniol.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn derbyn yr holl argymhellion ar sut i wella gwasanaethau dros y wlad, yn ogystal â chyhoeddi'r asesiad annibynnol fydd "yn dechrau'r mis hwn".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.