Apêl teuluoedd tri bachgen sydd heb gael addysg ers 7 wythnos

Joshua, Tom a Evan
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Joshua, Tom ac Evan heb gael addysg ers rhyw saith wythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd tri bachgen yn eu harddegau yn rhybuddio nad oes dyfodol i'w plant os nad yw'r cyngor sir yn ailystyried eu polisïau trafnidiaeth.

Tan fis Gorffennaf roedd Joshua, Tom ac Evan - sydd ag anghenion dysgu ychwanegol - yn ddisgyblion yn Ysgol Maes y Dderwen, Ystradgynlais.

Gyda'r bechgyn erbyn hyn yn 16 ac 17 oed, eu bwriad oedd dechrau yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ym mis Medi - ond dyw hynny ddim wedi digwydd.

Mae’r coleg rhyw 30 milltir i ffwrdd o gartrefi'r bechgyn, ond does dim dyletswydd statudol ar y cyngor i ddarparu trafnidiaeth i’r plant.

Er hynny, maen nhw wedi cynnig tocynnau am ddim i’r bechgyn ac i chaperone ddal bws cyhoeddus.

Dywedodd Cyngor Powys eu bod yn ystyried anghenion pob disgybl yn unigol gan ddilyn canllawiau trafnidiaeth.

Dywed hen fodryb Joshua, Sue Davies, mai safon addysg a safon darllen plentyn "pum i chwe mlwydd oed sydd gyda fe".

Mae hi'n cwestiynu pa mor ddiogel yw hi i adael iddo deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

"A fasech chi’n dodi crwt ar y bws hefo myfyrwyr eraill sydd â dealltwriath 5 i 6 mlwydd oed, a fyse chi? Mae’n beryglus ofnadwy i finne.

"Mae’n hala colled arna'i bod e ddim yn gallu mynd [ar fws ysgol].

"Ma'n nhw wedi cydnabod bod cognitive complexities efo’r bois 'ma...

"Ond yr unig be' allan nhw wneud yw rhoi'r concessionary passes 'ma, achos 'sdim statutory obligation efo nhw a so nhw mo'yn creu precedent. 'Sa i'n deall y peth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam-gu Tom, Cath Shannon yn poeni na fyddai ei hŵyr yn saff ar y bws

Ychwanegodd mam-gu Tom, Cath Shannon: "Bydden i'n bryderus iawn biti rhoi Tom ar y bws achos bydde fe ddim yn saff ar y bws.

"A nage dim ond diogelwch Tom ond diogelwch rhywun arall achos ma' fe’n gallu, ambell waith os yw e’n teimlo’n anxious, bwrw mas ar bobl."

'Peidiwch edrych arnyn nhw fel rhif'

Erbyn hyn dyw’r bechgyn heb gael addysg ers rhyw saith wythnos.

Mae’r teuluoedd yn gofyn i'r cyngor ailystyried, ac i edrych ar opsiynau fel bod modd iddyn nhw gyrraedd y coleg a pharhau â'u haddysg. 

Os nad yw hynny’n diwydd maen nhw’n poeni na fydd dyfodol i'r plant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys Owen, mam Evan yn poeni am ddyfodol ei mab

Dywedodd Cerys Owen, mam Evan: "Mae awtistiaeth gyda fe, ADHD, dau gyflwr genetig ac fe 'nath e ddatblygu epilepsi y llynedd, felly mae gyda fe lot i ddelio ag e, heb hyn.

"Plîs newch chi edrych arnyn nhw fel plant - peidiwch edrych arnyn nhw fel enw a rhif ar ddarn o bapur."

Ychwanegodd Sue Davies: "Mae pobl yn dweud chi’n gorfod cael gwared ar y benefit culture 'ma - wel, be ma'n nhw’n 'neud, te, os nad ydyn nhw’n fodlon rhoi help iddyn nhw i fynd i goleg?

"Be ma'n nhw’n 'neud i'r bois 'ma? Mae hawl 'da nhw i 'neud rhywbeth efo'u bywydau, i gael dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tom, Evan a Joshua pan yn iau

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw ar achosion unigol.

Ond fe ddywedodd eu bod yn ystyried anghenion pob disgybl yn unigol pan fo angen trefnu trafnidiaeth i ysgol neu goleg, a bod unrhyw gynnig sy'n cael ei wneud yn cyd-fynd â'u canllawiau trafnidiaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan bob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol, beth bynnag y bo lefel eu hanghenion, hawl i gynllun statudol a elwir yn Gynllun Datblygu Unigol (CDU) lle gellir nodi eu gofynion o ran cludiant."

Pynciau cysylltiedig