Merch o Fôn yn ceisio cyrraedd y brig yn nhabl DEKA y byd

Mae Cerian yn gobeithio gallu denu mwy o noddwyr i'w chefnogi wrth gystadlu yn Florida
- Cyhoeddwyd
Mae merch 23 oed o Langefni yn paratoi i deithio i'r Unol Daleithiau i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffitrwydd, cyflymder a chryfder.
Eisoes mae Cerian Harries yn wythfed yn y byd yng nghystadleuaeth DEKA ar gyfer ei hoedran – a'i nod ydi ceisio cyrraedd y brig.
I wneud hynny mae hi'n chwilio am fwy o noddwyr ar gyfer y daith.
Mi fydd Cerian yn cychwyn i Florida ddechrau Rhagfyr i gystadlu yn erbyn 14 o ferched eraill.
Dim ond y 15 uchaf yn nhabl DEKA sy'n cael gwahoddiad i fynd yno.

Cerian yn ymarfer ar y beic
"Y DEKA mile dwi'n cystadlu ynddo fo. DEKA am fod na ddeg exercise gwahanol. Mae'n gyfuniad o ymarferion cryfder a rhai ffitrwydd hefyd.
"Rhwng pob ymarferiad mae'n rhaid rhedeg 160 metr – cyfanswm o filltir i gyd," meddai Cerian wrth siarad ar y Post Prynhawn ddydd Llun.
"Am y saith wsnos nesa mi fyddai'n hyfforddi saith gwaith yr wythnos – cyfuniad o sesiynau ar y beic, rhedeg a chodi pwysau er mwyn cryfhau y corff hefyd."
Dros yr wythnosau nesaf mi fydd Cerian yn parhau i ddefnyddio campfa Ffitrwydd Môn yn Llangefni a champfa Hardcore Fitness yng Ngaerwen sydd yn un o'r cwmnïau sydd wedi ei noddi.
"Mae pob dim yn help i mi baratoi i fynd," meddai Cerian.
'Does dim byd tebyg'
Mae Cerian yn dweud ei bod hi wastad wedi bod yn rhan o'r byd chwaraeon ac roedd hi'n arfer nofio ar lefel rhyngwladol.
Ond ers rhoi'r gorau i'r nofio mae hi wedi bod yn chwilio am rhywbeth arall sydd yn rhoi'r un wefr iddi hi - a dyna mae'r gystadleuaeth DEKA wedi ei wneud.
"Mi oedd o'n rhoi'r teimlad nôl imi o hyfforddi tuag at rhywbeth eto ac am rhyw reswm dwi'n licio rhoi fy hun drwy boen. Y teimlad o anelu am rhywbeth a hitio hynny - does dim byd tebyg. "

Cerian yn ymarfer codi pwysau er mwyn cryfhau'r corff hefyd
Mae ei chydweithwyr yn adran triniaethau llygaid Ysbyty Gwynedd a'i theulu yn hynod o gefnogol.
"Mae pawb yn gweiddi gawn ni ddod hefo chdi fel cheerleaders. Mae'r teulu hefyd yn gefnogol iawn – faswn i ddim wedi medru cyrraedd lle ydw i hebddyn nhw."
Rhannu 'obsesiwn' â bod yn denau i 'chwalu tabŵ' athletwyr
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2024
Cefnogaeth a chymuned - sut mae newid ffitrwydd i fenywod?
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.