Estyn: 'Ysgolion yn cwtogi'r cwricwlwm yn sgil prinder staff'

Mae cadw staff yn broblem gynyddol i ysgolion hefyd, meddai Owen Evans
- Cyhoeddwyd
Mae her recriwtio athrawon yn sefyllfa "enbyd" ac mae rhai ysgolion uwchradd yn gorfod cwtogi'r cwricwlwm oherwydd prinder staff i ddysgu rhai pynciau, yn ôl y prif arolygydd addysg.
Dywedodd Owen Evans o gorff arolygu ysgolion Estyn, fod ysgolion hefyd yn dweud bod "pobl allweddol" yn gadael y proffesiwn.
Yn ogystal, mewn tystiolaeth i bwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg y Senedd, dywedodd penaethiaid Estyn fod safonau mathemateg yn rhy isel ac mai ansawdd addysgu oedd wrth wraidd y broblem.
Nododd Estyn yn eu hadroddiad blynyddol hefyd fod prinder staff yn effeithio ar ansawdd yr addysg y mae disgyblion yn ei dderbyn.
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
Yn ôl Owen Evans, mae problemau recriwtio yn "gwanhau safon y dysgu ond hefyd y dewis sydd ar gael i blant".
"'Da ni yn gweld ysgolion uwchradd nawr sydd yn gorfod cwtogi'r cwricwlwm achos dy'n nhw ddim yn gallu recriwtio athrawon yn y pynciau yna," meddai.
Mae cadw staff yn dechrau dod yn fwy o broblem hefyd, meddai, gan gyfeirio at adborth gan benaethiaid bod mwy o staff yn gadael - nifer o'r rheiny â sgiliau pwysig.
Er bod y Cyngor Gweithlu Addysg yn dweud bod y sefyllfa'n sefydlog o ran cadw staff, dywedodd Mr Evans nad oedd yn disgwyl i hynny barhau.
'Safonau mathemateg yn rhy isel'
Wrth drafod pryderon am safonau rhifedd dywedodd Claire Morgan, cyfarwyddwr strategol Estyn, fod angen grŵp cenedlaethol i arwain gwelliannau ym maes mathemateg.
Awgrymodd fod "pocedi o ragoriaeth" ond bod yna anghysondeb a gwendidau hefyd.
I wella rhifedd "mae'n rhaid i ni gael ansawdd dysgu mathemateg yn iawn yn gyntaf achos mae safonau mathemateg yn rhy isel", meddai.
Ychwanegodd y prif arolygydd Owen Evans fod penaethiaid ysgolion uwchradd wedi dweud eu bod ond yn cael "un ymgeisydd os maen nhw'n lwcus" pan yn hysbysebu am athro mathemateg ac weithiau bod dim modd penodi'r person.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai'n darparu £20m yn ychwanegol i ysgolion i gefnogi safonau addysg yn 2024-25.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle: "Drwy ddeialog barhaus gyda phartneriaid addysg, rwy'n deall maint yr anawsterau maen nhw'n eu hwynebu bob dydd ac rwy'n ddiolchgar am waith caled y gweithlu addysg ledled Cymru.
"I gydnabod y pwysau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu, rwyf am ddarparu cymaint o gyllid â phosibl i godi safonau ysgolion a chefnogi ein dysgwyr i ffynnu."
Dywedodd Mr Evans y byddai Estyn yn cyhoeddi adroddiad ar ymddygiad disgyblion yn fuan ond bod ymddygiad yn llai o broblem pan mae ysgolion wedi datblygu polisïau cryf ar y cyd gyda disgyblion a rhieni.
Ychwanegodd bod "disgwyliadau clir iawn" a chysondeb wrth weithredu polisïau ymddygiad fel bod "pawb yn gwybod ble mae'r ffiniau" hefyd yn bwysig.