Pobl leol yn symud miloedd o bysgod ym Mhowys yn dilyn tywydd sych

Dywedodd Dave Lister nad oedd erioed wedi gweld lefelau dŵr mor isel â hyn yn nant Aberhafesp o'r blaen
- Cyhoeddwyd
Mae pobl mewn tref ym Mhowys wedi symud miloedd o bysgod ar ôl i bryderon gael eu codi ynghylch y lefelau dŵr sy'n gostwng yn dilyn haf o dywydd sych.
Dywedodd Dave Lister, o'r Drenewydd, ei fod wedi gweld pysgod yn "brwydro am aer" a sylweddolodd bod y dŵr yn Nant Aberhafesp wedi diflannu'n llwyr.
Cyhuddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o fethu â helpu'r trigolion ar ôl iddo roi gwybod iddyn nhw am y digwyddiad.
Ond, dywedodd CNC y gall symud pysgod yn ystod llifau isel a thymheredd uchel "achosi mwy o ddrwg nag o les".

Dywedodd Mr Lister bod "miloedd" o bysgod yn arnofio mewn pyllau o ddŵr
Mae'r haf hwn wedi gweld sawl cyfnod anarferol o doeth mewn rhannau o Gymru.
Ddydd Gwener symudodd gogledd Cymru i statws sychder ar ôl y cyfnod chwe mis sychaf ers 1976, tra bod y Deyrnas Unedig "bron yn sicr" wedi cael ei haf poethaf erioed, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Dywedodd Mr Lister ei fod yn aml yn ymweld â'r nant gan ei fod yn lle da ar gyfer cymryd lluniau o fywyd gwyllt.
"Pan stopiais a dod allan o'r fan gwelais fod y nant gyfan wedi diflannu'n llwyr.
"Dydw i erioed wedi'i gweld fel 'na," meddai.
Ar ôl cerdded tuag at yr afon, gwelodd Mr Lister bwll mawr o ddŵr yn "llawn i'r top" gyda miloedd o bysgod meddai.
Roedd rhai eisoes wedi marw felly penderfynodd ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru i weld a allen nhw ddarparu unrhyw gymorth.
"Roedd y pysgod mewn trafferth mawr erbyn hyn. Yn gyfreithiol, doeddwn i ddim yn gwybod a oeddwn i'n cael dechrau eu tynnu allan" meddai Mr Lister.

Nant Aberhafesp yn gwbl sych
Dywedodd Mr Lister ei fod wedi cael gwybod y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn cysylltu ag ef gydag ymateb.
"Dywedais iddyn nhw ffonio'n ôl ar frys oherwydd os nad oedden nhw am wneud unrhyw beth roedd angen i mi ddechrau gwneud rhywbeth" meddai.
Ar ôl hanner awr a dim ateb dywedodd Mr Lister mai "dyna pryd y ffoniais ffrindiau a dechreuon ni ddefnyddio rhaw i symud y pysgod i gyd i lawr at yr afon."
Fe ddaethon nhw o hyd i rywogaethau gan gynnwys eog, brithyll a chrethyll.
"Fe wnaethon ni barhau i ddod o hyd i fwy a mwy ac eto chafon ni ddim ateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru," meddai.
Mewn datganiad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru nad oedd llawer o'r pysgod, gan gynnwys rhywogaethau llai, wedi llwyddo i "oroesi'r straen o gael eu trin a'u hadleoli".
Ond dywedodd Mr Lister ei fod yn credu bod yr hyn a wnaeth y grŵp yn well na'u "gadael i farw a cherdded i ffwrdd".

Nant Aberhafesp pan roedd y lefelau dŵr llawer gwell
Yn ôl cyfarwyddwr Glandŵr Cymru, Ben Cottam, sy'n gofalu am gamlesi a dyfrffyrdd, mae'n "gyfnod anodd iawn, iawn" i'r ecosystem ddyfrol.
"Rydym yn wynebu cyfnod hir, arwyddocaol iawn o amodau tebyg i sychder," meddai.
"Mae hynny'n effeithio ar fywyd gwyllt a lle mae hynny'n digwydd byddwn yn ceisio gwneud yr hyn a allwn i amddiffyn y bywyd gwyllt hwnnw."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru fod timau'n gweithio'n galed i "fonitro" ac "ymateb" i bwysau amgylcheddol ledled y wlad.
"Rydym yn ymwybodol o adroddiadau am bysgod yn ei chael hi'n anodd yn Aberhafesb ac rydym yn deall pryder y cyhoedd am yr effaith ar boblogaethau pysgod yn yr ardal hon ac ar draws y rhanbarth."
Ond fe bwysleision nhw y gall symud pysgod "achosi mwy o ddrwg nag o les".
"Gall hyd yn oed pysgod mwy, sy'n fwy gwydn, ei chael hi'n anodd os cawn nhw eu symud i systemau afonydd sydd eisoes dan straen, gan orfod cystadlu yno o bosibl a rhoi straen pellach ar y poblogaethau presennol."
- Cyhoeddwyd29 Awst
- Cyhoeddwyd31 Awst
- Cyhoeddwyd15 Awst
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.