Warren Gatland i aros fel rheolwr Cymru i'r Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Bydd Warren Gatland yn parhau fel prif hyfforddwr rygbi Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2025.
Mae'r cyhoeddiad yn dod er gwaethaf sylwadau Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru (URC), Abi Tierney, yn cyfaddef fod ei safle wedi bod "yn y fantol".
Gatland, sy'n 61 oed, sydd yng ngofal Cymru yn eu cyfnod gwaethaf yn ystadegol yn hanes rygbi rhyngwladol Cymru - cyfnod o 143 mlynedd.
Ar hyn o bryd mae'r tîm wedi colli 12 gêm yn olynol, sy'n record i dîm dynion Cymru.
Mae cyfarwyddwr rygbi URC Nigel Walker wedi ymddiswyddo, ond mae cytundeb Gatland yn parhau tan 2027.
Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc ym Mharis nos Wener, 31 Ionawr, cyn teithio i herio'r Eidal wyth diwrnod yn ddiweddarach.
'Ei safle wedi ei ystyried'
Ar ôl i Gymru golli eu gemau'n erbyn Fiji, Awstralia a De Affrica, mi wnaeth URC gynnal ymchwiliad i berfformiadau'r tîm, gyda Tierney yn ei arwain.
Cyflwynwyd canfyddiadau'r ymchwiliad o flaen bwrdd URC yr wythnos hon.
Tra bod Gatland yn parhau yn ei swydd am y tro, mi gafodd ei rybuddio y bydd ymchwiliad pellach i'r perfformiadau wedi'r gystadleuaeth.
Dywedodd Abi Tierney: "Dwi wedi cael nifer o sgyrsiau gonest gyda Warren, a dwi ddim am gadw'r ffaith bod ei safle wedi bod yn y fantol yn gyfrinach wrth i ni gynnal ein hymchwiliad.
"Mae sialens galed o'n blaenau, ond mae Warren yn barod am y sialens honno. Rydyn hefyd yn credu ei fod yn gallu delio â'r her."
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
Ychwanegodd Tierney bod bwrdd URC wedi ystyried newidiadau eraill, ond eu bod wedi dod i'r canlyniad mai'r penderfyniad gorau oedd herio Gatland i wella'r sefyllfa ar y cae.
"Rydym wedi asesu mewn manylder y cynllunio a'r paratoi, y ffactorau sy'n gyfrifoldeb i'r hyfforddwyr yn ogystal â'r diwylliant o fewn y tîm, cryfder meddyliol y chwaraewyr, eu profiadau hyd yn hyn, a'u teimladau ynglŷn â'r cyfeiriad mae'r garfan yn mynd."
"Rydym wedi cynnwys arbenigedd a barn o ystod eang o ffynonellau gwybodus ac uchel eu parch, ac rydym wedi gweld beth mae cefnogwyr a sylwebyddion wedi dweud, nad ydym yn perfformio i'n potensial ar hyn o bryd."
Bydd rhai argymhellion allweddol o'r ymchwiliad yn cael eu gweithredu yn syth, gan gynnwys ailystyried rhai o'r staff o amgylch Gatland cyn i'r Chwe Gwlad gychwyn.
Hefyd, bydd Tierney yn ymchwilio i'r strwythur o fewn URC, ac yn gwneud newidiadau ar ôl i Walker ymddiswyddo.
Bydd Geraint John yn cymryd dyletswyddau Walker am y tymor byr, a bwriad i benodi cyfarwyddwr rygbi newydd yn 2025.
Bydd panel cynghori newydd yn cael ei benodi, a bydd yn weithredol yn 2025 gyda chyn-chwaraewyr yn rhan ohono.