Carcharu dyn am yrru 100mya ar ffordd 20mya yn y gogledd

Dale BroomeFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dale Broome ddedfryd o 16 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei anfon i garchar ar ôl gyrru 100mya ar ffordd 20mya yn y gogledd, tra bod ganddo ddwywaith y lefel gyfreithiol o alcohol yn ei waed.

Cafodd Dale Broome, 29 oed o Wolverhampton, ei arestio ar 10 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau bod person yn gyrru'n beryglus ar yr A55 ger Abergele.

Wrth gael ei erlid gan swyddogion o uned troseddau gyrru Heddlu'r Gogledd, bu Broome yn gyrru dros y terfyn cyflymder, gan gynnwys 100mya ar ffordd 20mya.

Cafodd ei arestio ar ôl mynd yn sownd mewn mwd ar lôn wledig.

Cafodd Broome ei arestio a'i gyhuddo'n ddiweddarach o yfed a gyrru a throseddau eraill, gan gynnwys gyrru tra'r oedd wedi ei wahardd rhag gwneud hynny, peidio stopio, gyrru'n beryglus a gyrru heb yswiriant.

Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd ddedfryd o 16 mis yn y carchar.

Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd ac wyth mis.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lefel yr alcohol yng ngwaed Aaron Kerr ymhlith yr uchaf sydd erioed wedi ei gofnodi gan Heddlu'r Gogledd

Yn y cyfamser, cafodd dyn o Ynys Môn ei ddedfrydu i 18 wythnos yn y carchar a'i wahardd rhag gyrru am chwe blynedd mewn llys yng Nghaernarfon, am yfed a gyrru.

Mae'n ymddangos bod lefel yr alcohol yng ngwaed Aaron Kerr, 27 oed o Gaergybi, ymhlith yr uchaf sydd erioed wedi ei gofnodi gan Heddlu'r Gogledd.

Roedd 358 miligram o alcohol mewn 100 miligram o waed. Y lefel cyfreithlon er mwyn gyrru ydi 80 miligram o alcohol.

Cafodd Kerr ei arestio ger Llanfaelog ym mis Gorffennaf 2024.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mewn mis, mae Heddlu'r Gogledd wedi stopio bron i 200 o bobl oedd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod nhw wedi stopio bron i 200 o bobl oedd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau mewn cyfnod o fis, fel rhan o ymgyrch i geisio atal gwrthdrawiadau angheuol a digwyddiadau peryglus ar y ffyrdd.

Rhwng 1 Rhagfyr 2024 a Chalan 2025, cafodd 66 o bobl eu harestio am yfed a gyrru, a 108 eu harestio am yrru o dan ddylanwad cyffuriau.

'Does unman i guddio'

Dywedodd y Sarjant Emma Birrell, oedd yn arwain yr ymgyrch: "Dydi ein gwaith ni ddim ar ben gan fod y Nadolig drosodd.

"Mae'n gwaith o gadw pobl yn ddiogel mewn ceir yn y gogledd yn parhau 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 o ddyddiau'r flwyddyn.

"Does unman i guddio."

Apeliodd hefyd ar y cyhoedd i'w helpu nhw wrth geisio delio â'r broblem.

"Os ydych chi'n nabod rhywun neu'n amau bod rhywun yn yfed a gyrru neu'n cymryd cyffuriau a gyrru, gadewch i ni wybod," meddai.

"Mae'n siomedig iawn fod gormod o bobl yn dal i roi eu bywydau nhw ac eraill mewn peryg ac rydyn ni'n parhau i weithio'n galed i dynnu'r bobl hynny oddi ar y ffyrdd".

Pynciau cysylltiedig