Achub dafad gafodd ei hel oddi ar glogwyn gan gi ym Môn

Er gwaethaf apêl am gymorth, y teulu Bown eu hunain a lwyddodd i achub y ddafad yn y pendraw
- Cyhoeddwyd
Mae dafad wedi cael ei hachub ar ôl bod yn sownd ar graig ar arfordir Ynys Môn am dridiau.
Dros y penwythnos, cafodd Emlyn Bown o fferm Llwydiarth Esgob, Llannerchymedd alwad ffôn i ddweud fod ci wedi cornelu pedair o'i ddefaid, a bod un wedi syrthio oddi ar glogwyn ger Llaneilian.
Roedd y ddafad yn sownd ar graig yn y môr am dridiau am fod Emlyn methu dod o hyd i rywun a oedd yn gallu helpu i'w hachub, gyda'r un gwasanaeth achub yn gymwys i ddelio gyda'r fath sefyllfa.
Roedd hyd yn oed apêl am help wedi'i gwneud ar Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru brynhawn Mawrth.
Ond yn y diwedd, y teulu Bown eu hunain a lwyddodd i achub yn aelod colledig o'u praidd.

Y smotyn gwyn yw'r ddafad, oedd yn sownd am dridiau nes iddi gael ei hachub
"'Naethon ni feddwl am Megan - merch fy mrawd i," eglurodd Emlyn.
"Mae hi'n dringo dipyn.
"A dyna mae ei chariad hi, Cameron, yn ei wneud; mynd o gwmpas arfordir Sir Fôn a mynd â phobl allan i coasteering, felly mae ganddo fo raffau.
"A chwarae teg, ddaeth o ar ei union."

Rhai o'r tîm achub: Un o nithod Emlyn, Martha gyda'i thad, William Bown, a Cameron Lawler
Nos Fawrth, cafodd y ddafad ei chodi mewn sach, gyda help rhaffau Cameron, i fyny'r clogwyn.
Yn ôl Emlyn "mae hi'n champion", ac er bod ganddi ychydig o frathiadau ci, mae hi'n saff.
Mae hyn yn brawf pellach i Emlyn o'r angen i gadw cŵn ar dennyn.
"'Sa fo ddim 'di digwydd 'sa'r ci ar gortyn.
"Aeth o wedyn, felly does gen i ddim clem ci pwy oedd o."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024