Rheolau toiledau ysgolion 'hurt' yn achos 'embaras' i ddisgyblion

Roedd rheolau o ran defnydd o'r toiledau "wedi cyfrannu'n fawr" at benderfyniad Holly i droi at gael ei haddysg gartref
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion ysgol yn dweud eu bod nhw wedi teimlo embaras a phryder o ganlyniad i reolau "hurt" o ran defnyddio toiledau mewn ysgolion.
Dywedodd Holly o Gaerdydd y byddai hi'n aml yn cael ei hatal rhag mynd i'r toiled yn ystod gwersi, a bod hynny wedi cyfrannu at ei phenderfyniad i droi at gael ei haddysgu adref.
Daw wrth i arolwg newydd ddangos bod 65% o ddisgyblion ar hyd y DU ddim yn cael mynd i'r toiled pryd bynnag maen nhw eisiau yn eu hysgolion.
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu ysgolion a'u bod wedi ymroi i'w helpu gyda'r gwaith o ddod o hyd i ddatrysiadau fel bod modd i ddisgyblion fynd i'r toiled pan sydd angen.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd17 Ebrill
Mae Holly, 15, yn byw gydag awtistiaeth, ADHD a chyflwr prosesu synhwyrau.
Roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Radyr cyn iddi ddechrau derbyn ei haddysg adref gyda thiwtor ar-lein yn Ionawr 2024.
Mae'n dweud bod y rheolau o ran defnydd o'r toiledau "wedi cyfrannu'n fawr" at ei phenderfyniad.
"Weithiau byddai'n rhaid i ni ofyn o flaen yr holl ddosbarth a bydden ni'n cael ein gwrthod, neu byddai'n rhaid i ni egluro pam ein bod ni angen mynd i'r toiled," meddai.
"Ro'dd e'n rili embarassing, a byddech chi'n mynd nôl a 'mlaen yn eich meddwl yn poeni am gael eich barnu os ydych chi'n gofyn.
"Dwi ddim yn deall pam - mae o'n rhywbeth cwbl normal, cwbl naturiol."
'Cosbi disgyblion da'
Ychwanegodd Holly fod yna "anghydraddoldeb enfawr" yn effeithio ar ddisgyblion sy'n profi mislif hefyd, a bod angen mynd i swyddfa'r ysgol i nôl nwyddau mislif ar adegau.
"Mae hyd yn oed y menywod yn yr ysgol yn ymddwyn fel nad ydyn nhw'n deall sut beth ydy mynd drwy hyn. Pam na allai'r nwyddau mislif fod yn y toiled?"
Roedd Holly yn derbyn fod cam-ymddwyn, fandaliaeth ac ysmygu yn bryder i staff yr ysgol, ond hoffai weld sefydliadau yn "mynd i'r afael â'r problemau hynny" yn hytrach na "chosbi disgyblion da".
Yn y pendraw fe gafodd Holly gerdyn oedd yn golygu fod rhaid i athrawon ganiatáu iddi fynd i'r toiled pan roedd hi'n gofyn.
"Mae gen i awtistiaeth felly roedd y toiledau yn rhywle i fynd i fi gael tawelu'r meddwl," meddai.
Ond dywedodd, os oedd hi'n cymryd sbel, yna byddai rhywun yn dod i "guro ar y drws", gan feddwl ei bod hi'n ceisio osgoi'r wers.

Mae arolwg newydd yn awgrymu bod 65% o ddysgwyr ddim yn cael mynd i'r toiled pryd bynnag maen nhw eisiau
Mae arolwg newydd gan gwmni o Gaerffili - phs Group - yn nodi nad yw 65% o ddisgyblion ysgol yn rhydd i ddefnyddio'r toiledau pryd bynnag maen nhw eisiau.
Roedd 29% o'r rhain angen caniatâd gan athro i adael yr ystafell ddosbarth, ac roedd 15% angen cerdyn arbennig i allu mynd.
Awgrymodd mam Holly, Jo Wallace fod y rheolau yn "hurt" a bod "pwysau ar bobl ifanc i fod yn aeddfed a gwneud penderfyniadau mawr" ond eto dyw ysgolion "ddim yn ymddiried ynddyn nhw" i ddefnyddio'r toiled.
"Dwi'n meddwl mai diogi yw hyn, a bod 'na ffyrdd gallen nhw fynd i'r afael â phroblemau heb gau'r toiledau," meddai.
"Mae'n anodd pan mae person ifanc yn cael mislif yn yr ysgol, ac mae cymaint o bwysau arnyn nhw yn barod."
Ychwanegodd ei bod yn deall fod rhaid i athrawon ddilyn polisïau, ond fe gwestiynodd gwerth y rheolau ar blant "sydd ond yn ceisio cael trwy'r diwrnod".

Mae Erin yn dweud ei bod hi wedi gorfod cerdded allan o wers heb ganiatâd i fynd i'r toiled yn y gorffennol
Dywedodd Erin - disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Bedwas yn Sir Caerffili - fod toiledau yno wedi eu dynodi ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, ond nad oes cydraddoldeb o ran y nwyddau mislif sydd ar gael.
Esboniodd fod toiledau yn cael eu cloi yn ystod amser gwersi a bod ceisiadau i fynd fel arfer yn cael eu gwrthod oni bai ei bod hi'n "argyfwng".
"Dwi wedi bod angen newid nwyddau mislif o'r blaen, ac mae athro wedi fy ngwrthod," meddai.
"Nes i benderfynu dweud o flaen y dosbarth bod angen i fi fynd, a nes i gerdded allan a chael cerydd am hynny."
Fel Holly, mae Erin yn deall bod staff yn poeni am broblemau ymddygiad, ond mae'n teimlo bod rheolau fel hyn yn annheg.
'Wedi ymroi i weithio gydag ysgolion'
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod dros £1m wedi cael ei fuddsoddi drwy gynllun sy'n ceisio gwella adnoddau ysgolion er mwyn "sicrhau urddas i ddysgwyr".
"Mae detholiad o nwyddau mislif yn cael eu darparu i ysgolion uwchradd, ac mae peiriannau dosbarthu wedi cael eu rhoi mewn toiledau i sicrhau bod modd i ddysgwyr gael mynediad at nwyddau heb orfod gofyn i staff.
"Rydyn ni'n cydnabod yr heriau mae rhai ysgolion yn eu hwynebu o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a sicrhau lles disgyblion mewn toiledau, a bod hynny'n gallu arwain at gyfyngu ar ddefnydd yn ystod y dydd.
"Ond rydyn ni wedi ymroi i weithio gydag ysgolion i ddod o hyd i ddatrysiadau all sicrhau fod modd i ddysgwyr gael mynediad at doiledau pan fo angen."
Yn ôl Cyngor Caerffili, mae rheolau o ran defnydd toiledau yn cael eu gosod gan ysgolion ac maen nhw'n cynghori i rieni drafod unrhyw bryderon gyda'r ysgol.