Plant 'wedi anghofio' sut i ymddwyn yn yr ysgol, wrth i arweinwyr drafod

Dyn mewn crys gwyn a thei gwyrdd, gyda'i freichiau wedi croesi, yn gwenu ac yn sefyll o flaen adeilad ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae creu perthnasau rhwng disgyblion a staff Ysgol Bryn Tawe wedi bod yn hollbwysig i wella ymddygiad, meddai Mark Bridgens

  • Cyhoeddwyd

Ymddygiad mewn ysgolion fydd dan sylw arweinwyr addysg mewn cynhadledd arbennig yn ddiweddarach, yn sgil pryderon bod y sefyllfa wedi gwaethygu.

Dywedodd adroddiad diweddar gan arolygwyr addysg bod angen ymgyrch genedlaethol i wella ymddygiad disgyblion.

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn Abertawe wedi rhoi pwyslais ar adeiladu perthnasoedd rhwng staff a disgyblion, ond mae angen adnoddau i ymateb i'r rhesymau dros gamymddwyn, meddai'r pennaeth cynorthwyol.

Mae'r uwchgynhadledd yn dilyn galwadau am fwy o gefnogaeth i ysgolion, yn enwedig ar ôl achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman y llynedd.

Dywedodd Mark Bridgens, pennaeth cynorthwyol Ysgol Bryn Tawe bod ymddygiad y "mwyafrif helaeth yn arbennig o dda" ond bod yr ysgol yn nwyrain Abertawe, fel eraill ar draws Cymru, wedi gweld newid.

"Fi'n credu bod agwedd pobl wedi newid – cymdeithas, teuluoedd, disgyblion - a mae pethau ar draws bob ysgol o be' fi 'di clywed yn fwy anodd, yn fwy heriol ers y pandemig, yn bendant."

Wrth esbonio natur yr heriau, dywedodd mai "trafferth canolbwyntio yw un, disgyblion yn rheoleiddio [tymer] yw un arall ac agwedd at addysg ac at ddod mewn i'r ysgol".

Ychwanegodd Mr Bridgens: "Mae'n rhaid bo' ni'n gadarn wrth gwrs ac mae dysgwyr yn hoffi gwybod ble ydyn nhw a beth yw'r ffiniau.

"Ond ni 'di cael pwyslais enfawr ar berthnasoedd a trio datblygu perthnasoedd rhwng staff a dysgwyr.

"Mae nifer o ddysgwyr yn dweud os mae nhw'n hoffi aelodau staff, os oes rhywun yn yr ysgol gyda nhw i siarad gyda, mae nhw'n fwy hapus i ddod i'r ysgol.

"Mae nhw'n fwy tebygol o weithio, o ymgysylltu gyda'r ysgol."

Merch gyda gwallt hir brown mewn gwisg ysgol yn gwenu ar y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr ysgol ardal lle all disgyblion fel Abi fynd i siarad gyda staff

Un sydd wedi elwa o'r pwyslais yna yw Abi, sydd wedi bod yn mynd i'r Ystafell Perthyn i siarad gyda staff.

Yno mae cyfle i blant gael cefnogaeth i ymdopi gyda bywyd ysgol.

"Fi wastad wedi actio lan mewn gwersi", meddai Abi.

"Fi wedi bod yn rhywun oedd ddim yn dda. Fi byth wedi bod yn mynd i gwersi, fi wastad yn mitchio.... ti byth yn gwybod beth mae rhywun yn mynd trwyddo."

Weithiau mae hi'n mwynhau'r ysgol ond dro arall, pan mae'n cael trafferth, mae Abi'n mynd i'r Ystafell Perthyn a siarad gyda Miss Evans.

"Perthyn yw lle i bobl sy'n drist neu'n grac neu angen pum munud mas o gwers.

"Mae Miss Evans wedi helpu fi lot a Miss Evans yw'r reason pam fi'n dod i'r ysgol nawr a mynd i gwersi fi."

Tri disgybl - merch, bachgen yn y canol a merch arall - mewn gwisg ysgol yn eistedd ar bwys bwrdd gyda posteri am lyfrau yn ycefndir
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ella, Osian a Keira mae tarfu gan rai disgyblion yn gallu cael effaith ar bawb

Ym marn Osian, mae "ymddygiad yn dda ar y cyfan".

"Dwi'n credu bod bod yn llym a rheolau yn beth da er mwyn helpu'r disgyblion achos mae'n helpu'r plant eraill i ddysgu ac mae'n gwneud i bethau eraill i redeg yn well", meddai.

Mae Keira, sydd yn y chweched ddosbarth, wedi gweld newid ers iddi ddechrau yn yr ysgol.

"Ers dod nôl ers Covid, mae lot o ddisgyblion bron wedi anghofio fel i ymddwyn yn ysgol", meddai.

"Doedden nhw ddim wedi cael yr amser yna yn yr ysgol gyda fwy o bobl er mwyn dysgu sut i gydweithio a gwrando ac eistedd lawr a gwneud gwaith."

Yn ôl Ella, mae tarfu gan ychydig ddisgyblion mewn gwersi yn gallu effeithio ar bawb ac yn "gallu stopio disgyblion dysgu" gan fod athrawon yn gorfod ymateb i'r camymddwyn.

Arolwg ymddygiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal arolwg, dolen allanol o staff addysg fel rhan o'r ymchwil ar gyfer yr uwchgynhadledd ymddygiad.

Fe wnaeth bron pawb o'r 7,744 wnaeth ymateb ddweud bod ymddygiad wedi mynd yn waeth.

Roedd y pryder yn bennaf am darfu lefel isel, ond dywedodd dros hanner y rhai wnaeth ymateb mewn ysgolion uwchradd eu bod yn poeni am ddisgyblion yn dod ag arfau i'r ysgol.

Dywedodd bron i hanner y rhai oedd yn gweithio mewn ysgolion cynradd bod ymosodiadau corfforol ar athrawon yn bryder difrifol.

Mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd yr uwchgynhadledd yn myfyrio ar gyfarfod sydd eisoes wedi ei gynnal ar ddiogelwch staff addysg.

Dywedodd Mark Bridgens ei fod yn gobeithio y bydd yr uwchgynhadledd ymddygiad yn helpu gyda "deall yr heriau sydd yn yr ysgolion ac yn cefnogi o ran ymddygiad".

Dywedodd bod ysgolion yn gwneud eu gorau i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei angen ar ddisgyblion.

I un disgybl, Liam, mae gwneud profiad gwaith gyda gofalwr yr ysgol bob dydd Gwener wedi bod yn brofiad positif, ac yn golygu ei fod yn ymgysylltu'n well gyda gwersi Cymraeg a Saesneg.

Bachgen yn ei arddegau gyda gwallt golau byr yn gwisgo crys gwyn a thei ysgol yn edrych ar y camera gyda silff lyfrau tu ol iddo
Disgrifiad o’r llun,

Gwneud profiad gwaith ar ddydd Gwener sydd wedi helpu Liam i ymdopi'n well gyda bywyd ysgol

"Dwi mwy hapus blwyddyn yma na dau flwyddyn yn ôl", meddai.

"Dau blwyddyn yn ôl, o'n i ddim eisiau bod yn yr ysgol so o'n i'n cael diwrnodau off", meddai.

"Fi'n fwy hapus nawr bo' fi'n gwneud profiad gwaith ar y dydd Gwener.

Dywedodd Mark Bridgens: "Mae'n cymryd amser i fynd o dan yr arwyneb, i ddod i 'nabod y dysgwyr, i ffeindio mas beth yw'r problemau, i geisio helpu nhw.

"Mae'r pethau yna'n cymryd lot fawr o amser ac wrth gwrs mae isie'r adnoddau, sydd yn brin iawn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wastad yn edrych yn ofalus ar alwadau am fwy o gyllid fel rhan o'r ystyriaethau ehangach, sy'n cael eu hystyried yng nghyd-destun y sector cyhoeddus drwyddi draw".