Bachgen fu farw ar ôl neidio i'r môr 'ddim yn gallu nofio' - cwest

David EjimoforFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu David Ejimofor bod ganddo "wên heintus, natur ofalgar a brwdfrydedd diddiwedd"

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod bachgen fu farw ar ôl neidio i'r môr wrth ddathlu diwedd ei arholiadau wedi dweud wrth ffrindiau nad oedd yn gallu nofio.

Bu farw David Ejimofor, 15, ar ôl mynd i drafferthion ger traeth Aberafan ar 19 Mehefin 2023.

Clywodd y cwest yn Abertawe fod pysgotwr wedi clywed David yn dweud wrth bobl ifanc eraill "nad oedd yn gallu nofio".

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen gan y crwner, dywedodd Ethan Clarke - oedd yn pysgota ar y pier yn Aberafan - fod dau berson ifanc oedd eisoes yn y môr yn annog trydydd pherson i neidio i'r dŵr.

Clywodd y cwest fod y bobl ifanc oedd yn y dŵr yn dweud wrth David y byddai "popeth yn iawn".

Dywedodd Mr Clarke fod y bachgen wedi neidio i'r dŵr ac wedi dechrau cynhyrfu cyn diflannu o dan yr wyneb tra bod y bobl ifanc eraill yn galw am gymorth.

Clywodd y cwest hefyd gan swyddog heddlu oedd yn padlfyrddio yn yr ardal gyda'i bartner ar y pryd.

Yn ôl Tyler Rowland, roedd saith o bobl yn eu harddegau ar y pier tua 19:00, gyda rhai i mewn yn y dŵr.

Fe welodd tri yn nofio yn ôl at y lan, ac fe ddywedodd wrth y cwest ei fod wedi clywed un yn dweud: "Mae o wedi mynd".

Dywedodd Mr Rowland fod un person ifanc wedi dweud wrtho fod ei ffrind "wedi mynd dan y dŵr a heb ddod yn ôl fyny".

Fe nofiodd Mr Rowland draw at y grŵp wrth iddyn nhw chwilio am David.

Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi deifio sawl tro, ac ar ôl dod o hyd i gorff David fe gafodd gymorth i'w gario i'r lan.

blodau ar draeth Aberafan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd David ar y traeth gyda'i ffrindiau fel rhan o ddathliadau diwedd arholiadau TGAU a Safon Uwch

Mewn datganiad arall a gafodd ei ddarllen yn y cwest, dywedodd Amy Saunders - oedd yn padlfyrddio yn yr ardal y pryd - nad oedd hi "erioed wedi profi trawma tebyg" i'r profiad o wylio'r ymdrechion i achub David.

Cafodd sylwadau gan fam David, Maria Ejimofor ei ddarllen yn y llys hefyd.

Dywedodd bod ei mab yn "fachgen ifanc hyfryd" oedd yn "alluog ac wrth ei ffodd gyda chwaraeon" a'i fod wedi "cyflawni cymaint yn ei 15 mlynedd".

Yn ôl ei fam, roedd David yn gallu nofio wedi iddo gael gwersi fel plentyn, ond nad oedd yn nofiwr cryf.

Ychwanegodd nad oedd hi'n arferol i David neidio i'r dŵr, gan nad oedd yn un oedd yn hoff o gymryd risg ac "na fyddai wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa mor beryglus".

Mae'r cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig