Fy ngwlad sy'n dod gyntaf a'm mhlaid yn ail, meddai'r Prif Weinidog

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Mawrth bydd Eluned Morgan yn cyflwyno ei gweledigaeth ger bron y Senedd

  • Cyhoeddwyd

Bydd Prif Weinidog Cymru yn “cwympo mas” yn ddi-os gyda Llywodraeth Lafur y DU, meddai Eluned Morgan.

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales dywedodd mai ei "gwlad fyddai'n dod yn gyntaf a'i phlaid yn ail".

Pan ofynnwyd iddi a fyddai’n barod i gael sgyrsiau anodd gyda’i chydweithwyr Llafur yn San Steffan pan ddaw’n fater o ofyn am fwy o gyllid i Gymru, dywedodd Eluned Morgan y byddai’n “sefyll dros Gymru”.

Mae bod mewn grym yng Nghaerdydd a Llundain yn cael ei weld fel "dechreuad newydd" yn y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a'r DU wedi cyfnod o lywodraeth Geidwadol.

Dywedodd fod "newid eisoes wedi bod yn ein perthynas gyda Llywodraeth y DU a bod y berthynas yn un gadarnhaol".

'Rhoi pwysau ar bobl ar gyflogau mawr'

Wedi haf o "wrando", mae'n amser i Eluned Morgan ddechrau gosod ei stondin a gwireddu ei gweledigaeth fel prif weinidog.

Mae hi eisoes wedi pwysleisio y bydd hi'n rhoi blaenoriaeth i restrau aros hir.

Dywedodd na fyddai ei huchelgais yn cael ei gwireddu cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026 ond byddai’n ceisio rhoi mwy o bwysau ar benaethiaid y GIG sy’n cael eu talu’n dda.

"Gadewch i ni fod yn glir. Nid ydym yn mynd i drwsio’r GIG yn yr 20 mis nesaf," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Awst roedd amseroedd aros ysbytai yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed

Ond dywedodd y "bydd rhestrau aros yn gostwng" ac mai dyma un o'r pynciau sy'n poeni pobl fwyaf.

“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig inni roi’r pwysau ar y bobl hynny sy’n rheoli’r GIG, y bobl yna sy’n derbyn cyflog sylweddol.

“Mae prif weithredwyr ein byrddau iechyd yn cael eu talu chwarter miliwn o bunnoedd y flwyddyn. Gadewch i ni sicrhau eu bod yn fwy atebol am yr arian y mae'r trethdalwyr yn ei roi iddynt.

“Mae yna enghreifftiau mewn rhai mannau lle mae pobl wedi gostwng y niferoedd sydd ar y rhestrau aros ond dyw eraill ddim yn cyflawni yr hyn ddylen nhw," ychwanegodd.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru wedi cael cais am sylw.

Gwasanaethau eraill i ddioddef?

Yn ei chyfweliad dywedodd ei bod yn anochel y bydd gwasanaethau eraill yn dioddef yn sgil blaenoriaethu iechyd.

Ddydd Mawrth fe fydd hi'n cyflwyno ei gweledigaeth ger bron y Senedd ac awgrymodd y gallai rhai o'r penderfyniadau fod yn heriol.

Doedd hi ddim am fanylu ar ei chynlluniau cyn ei chyhoeddiad.

Ond roedd yna awgrym y gallai fod yna docio ar y camau i ddelio â newid hinsawdd ond bod yn rhaid ufuddhau i'r hyn sy'n ofynnol yn gyfreithiol.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod "dim arwydd y bydd y llywodraeth hon yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am eu record - nac yn hollbwysig yn mynnu cyllid teg gan eu penaethiaid yn Llundain".

Yn ôl Andrew RT Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Dylai’r Farwnes Morgan fod ar y ffôn i Starmer nos a dydd yn cwestiynu ei benderfyniad cywilyddus i wrthod Taliad Tanwydd Gaeaf i dros hanner miliwn o bensiynwyr Cymreig."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llafur Cymru yn gobeithio y bydd hi'n haws cyflawni gan mai Llafur sydd bellach mewn grym yn San Steffan

Yr wythnos hon fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr y sector gyhoeddus ac mae Eluned Morgan yn awgrymu y gallai hynny arwain at well perfformiad.

Drwy fynd i’r afael â’r problemau yn y gwasanaeth iechyd a meysydd eraill yn uniongyrchol mae'r Prif Weinidog yn gobeithio y bydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn dod yn fwy poblogaidd cyn etholiadau'r Senedd ym Mai 2026.

Mae Llafur Cymru yn gobeithio y bydd hi'n haws cyflawni gan mai Llafur sydd bellach mewn grym yn San Steffan.

Ond dywed Ms Morgan na fydd hi'n caniatáu i’w theyrngarwch gwleidyddol rwystro gofyn i Syr Keir Starmer a’r Canghellor am fwy o gyllid.

"Fy ngwlad sy'n dod gyntaf a'r blaid yn ail," meddai ac fe fydd yna adegau pan fydd yna ddadlau 'cwrtais'."

Wrth i blaid Lafur y DU baratoi ar gyfer eu cynhadledd yr wythnos nesaf, bydd Llafur Cymru yn mynnu bod eu perfformiad yn etholiadau’r Senedd yn allweddol i dymor Syr Keir Starmer yn y swydd.

Ond a fydd y pwysau gwleidyddol hwnnw’n ddigon i sicrhau cyllid digonol gan y Trysorlys?