'O'dd e'n dorcalonnus peidio gafael yn dy fabi'

  • Cyhoeddwyd
Mari GlynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y tro cyntaf i Bethan a Carwyn gael gafael yn eu merch, Mari, yn bum wythnos oed

Mae Mari Glyn yn ferch fach ddwy oed o Sir Gâr, sy'n byw bywyd iach a llawn.

Ond roedd ei thaith hi i'r byd yma yn "rollercoster", yn ôl ei thad.

Ar un adeg, fe glywodd ei rhieni mai 10% o siawns oedd ganddi i fyw.

"Mae'n ganran frawychus iawn ond ti ddim yn colli gobaith", meddai ei thad, Carwyn.

Dywedodd ei mam, Bethan: "O'dd e'n rhyfedd peidio gallu gafael yn dy fabi di am y pump wythnos cyntaf... o'dd e'n dorcalonnus."

Er mwyn diolch i'r bobl achubodd ei bywyd, mae Carwyn yn paratoi i godi arian trwy redeg pedwar marathon ultra mewn pedwar diwrnod gan redeg i'r holl lefydd lle cafodd Mari ofal.

'Odd y diagnosis yn ddifrifol'

Tra'r oedd hi'n feichiog, cafodd Bethan Wyn sgan ychwanegol yn 28 wythnos gan fod ei lefel siwgr ychydig yn uchel ac mae'n dweud mai "dyna le ffindion ni bod problemau gyda'r beichiogrwydd.

"Nathon nhw ffeindio hylif dros ei hymennydd hi, yn llenwi ei hysgyfaint hi, lawr ei chefn hi ac yn ei bola."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Rhieni Mari yn ei gweld hi am y tro cyntaf o bell

Cafodd Bethan a Carwyn wybod bod gan eu merch congenital chylothorax, sy'n gyflwr difrifol.

Dywedodd Bethan wrth Araglen Bore Sul Radio Cymru : "Gethon ni'n anfon i Ysbyty St Michael's ym Mryste oherwydd bo nhw'n arbenigo mwy yn y llawdriniaeth o'dd Mari angen i drin y cyflwr.

"Gethon ni wybod bo hi'n ddifrifol wael a gethon ni wybod bo mwy neu lai 10% o siawns bo hi'n mynd i oroesi ar y pwynt yna so o'n i'n gwbod bydde'r genedigaeth yn heriol."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Ond doedd y rhieni ddim eisiau colli gobaith.

Mae Bethan yn egluro sut y gwnaeth doctoriaid "osod drains i fewn yn ysgyfaint Mari tra odd hi dal yn y groth... o'n i ddim yn gwbod bod e'n bosib."

'O'dd hi mewn lle tywyll iawn'

Roedd yn rhaid geni Mari yn 31 wythnos ac roedd yn gyfnod anodd iawn i'r teulu.

Dywedodd ei thad: "Buon nhw'n gweithio ar Mari am orie maith ac es i lawr atyn nhw'n gynnar y bore wedyn ac odd hi mewn lle tywyll iawn... o'dd e'n heriol iawn eu gweld hi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan bod "y teimlad yna o allu dal hi am y tro cynta', does dim teimlad tebyg"

"Nathon nhw orfod neud resuscitation yn syth ac o'dd hi ar y peiriant anadlu mwyaf dwys chi'n gallu cael. Nathon nhw achub hi ar y pwynt 'na a ni mor ddiolchgar," meddai ei mam.

"3 pwys 10 owns odd y pwysau swyddogol ond oherwydd ei bod wedi chwyddo gyda'r hylif, dywedon nhw taw rhyw bwys a hanner fydde hi go iawn heb yr hylif."

'Odd e'n dorcalonnus peidio gafael yn dy fabi di'

Mae Bethan yn cofio'r diwrnod pan gafodd hi afael yn Mari am y tro cyntaf, yn bum wythnos oed.

"Odd e'n meddwl y byd i allu cael y cwtsh yna.. o'dd e'n rhyfedd peidio gallu gafael yn dy fabi di am y pump wythnos cyntaf... o'dd e'n dorcalonnus."

"Wedi dweud 'na, o'dd hi dal ar y ventilator, o'dd dal llwyth o wifre yn sownd iddi ac odd dal chest drains yn sownd iddi, felly o'dd e'n rhyfedd o beth ond o'dd y teimlad yna o allu dal hi am y tro cynta', does dim teimlad tebyg."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn a Bethan yn canmol y gofal gawson nhw ym Mryste, Abertawe a Chaerfyrddin

Mae Bethan a Carwyn yn dweud eu bod nhw'n ddiolchgar iawn i'r staff ym Mryste am ofalu am Mari am chwe wythnos.

"Gethon ni fydwraig o Gaerfyrddin yn edrych ar ein holau ni ym Mryste nath neud cymaint o wahaniaeth... Cymraes odd yn siarad Cymraeg... odd y teimlad rhyfedd yna ma fynna o'n i fod," meddai Bethan.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mari yn gadael Ysbyty Singleton gyda'i rhieni

"Ym Mryste gathon ni sgyrsie mwyaf anodd... gathon ni'r sgwrs am ofal diwedd oes ond o'n nhw'n taflu popeth fewn i'w hachub hi."

Maen nhw hefyd ddiolchgar am y gofal gafodd y teulu wedyn yn Ysbyty Singleton, Abertawe ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Rhedeg 110 milltir

Ym mis Awst, bydd Carwyn yn rhedeg pedwar marathon ultra mewn pedwar diwrnod, i godi arian ac i ddiolch am y gofal gawson nhw.

Bydd yn rhedeg o Ysbyty St Michael's ym Mryste i Gymru, cyn pasio Ysbyty Singleton, Abertawe, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin a gorffen yng nghartref y teulu yn Llangynnwr. Mae hynny'n daith o rhyw 110 milltir.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn wedi rhedeg sawl ras i godi arian i'r rhai helpodd ei ferch Mari

Dywedodd Carwyn: "Ma' be mae'r NHS wedi gwneud i ni a theuluoedd eraill sy'n mynd trwy deithiau tebyg yn arbennig o dda... mae'n rhaid clodfori staff ym Mryste, Abertawe a Chaerfyrddin.

"O'n i ar rollercoaster trwy'r amser gyda'r pethe positif a negyddol ond ma' nhw yna i'ch cefnogi chi... nid dim ond eich plentyn chi ond y teulu cyfan."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari yn ddwy oed ac mae ei rhieni'n dweud ei bod hi'n "rhyfeddol"

Mae Mari bellach yn ddwy oed ac yn ôl ei mam: "Mae'n rhyfeddol, mae'n wyrth ac mae'n blentyn hapus... ni newydd dderbyn llythyr wythnos 'ma i ddweud bod dim problemau datblygiad a'i bod hi'n gyfartal â chyfoedion dwy oed eraill.

"Mae'n rhyfeddu ni bob dydd a 'diolchgar' yw'r prif air i ddefnyddio."

Pynciau cysylltiedig