Agor cwest i farwolaeth bachgen pedwar mis oed yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth bachgen pedwar mis oed yn Sir Benfro.
Bu farw Kali Creed Green yng Nghlunderwen ar 18 Hydref.
Cafodd dynes 19 oed a dyn 23 oed eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn wedi'r digwyddiad a'u ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Fe agorodd crwner cynorthwyol Sir Benfro, Gareth Lewis gwest i farwolaeth Kali ddydd Mercher.
Wrth roi ei hadroddiad, dywedodd swyddog y crwner PC Carrie Sheridan: "Er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys yn y fan a’r lle, cafodd y farwolaeth ei chyhoeddi gan y parafeddygon a oedd yn bresennol.
"Cafodd post-mortem ei gynnal; nid yw'r canlyniadau'n hysbys ar hyn o bryd."
Cynigiodd Mr Lewis ei gydymdeimlad â theulu Kali a gohiriodd y cwest er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.
Gosododd ddyddiad dros dro o 11 Ebrill 2025 ar gyfer y gwrandawiad nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref
- Cyhoeddwyd18 Hydref