'Siom' dros oedi pellach i waith cynnal a chadw Pont y Borth

Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yn wreiddiol oedd y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn Awst 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gwaith cynnal a chadw yn parhau i ddigwydd ar Bont y Borth tan y Gwanwyn flwyddyn nesaf.

Roedd gobaith y byddai'r gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau erbyn mis Awst 2025, cyn i hynny newid i fis Rhagfyr eleni.

Ond mewn datganiad ddydd Gwener, dywedon nhw eu bod yn "hynod siomedig" o weld fod 'na "oedi o ran y rhaglen wreiddiol".

Mae'r datganiad yn dweud fod Cam 2 o'r gwaith yn wynebu oedi oherwydd "materion caffael, gofynion ychwanegol a materion o ran cael trwyddedau angenrheidiol".

Maen nhw'n cydnabod "y bydd y newyddion hyn yn siomedig iawn i'r gymuned ac eraill".

"Bydd hyn yn arwain at y gwaith yn parhau yn ystod dyddiad 200 mlwyddiant y bont" yn Ionawr 2026, meddai Llywodraeth Cymru.

Maen nhw'n dweud bod y cwmni UK Highways A55 Ltd wedi "ymrwymo i sicrhau y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar gyfer cyfnod yr haf" fel bod modd i'r dathliadau barhau.

'Ergyd enfawr'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth - arweinydd Plaid Cymru ac aelod Ynys Môn yn y Senedd - fod y newyddion yn "ergyd enfawr i'r gymuned leol, i'r economi ac i Ynys Môn yn ehangach".

"Fe wnaeth Llywodraeth Cymru addo y byddai'r gwaith wedi ei gwblhau cyn y 200 mlwyddiant fis Ionawr 2026, ond rŵan bydd rhaid gohirio rhai o'r dathliadau sydd wedi'u cynllunio gan grwpiau cymunedol."

Dywedodd ei fod eisoes wedi codi pryderon gyda chorff UK Highways nad oedd llawer o waith yn digwydd ar y bont.

"Maen nhw wedi cadw trigolion yn y tywyllwch ac mai'r ffaith fod y llywodraeth yn cyhoeddi'r newyddion yma ar brynhawn Gwener yn golygu nad oes cyfle i holi'r cwestiynau fydd gan y trigolion," meddai.

Ychwanegodd y bydd yn codi'r mater ar lawr y Senedd "ar y cyfle cyntaf posib".

Pynciau cysylltiedig