Gweinidog: 'Anodd' gosod trydedd lôn ar Bont Britannia

  • Cyhoeddwyd
BBC
Disgrifiad o’r llun,

Pont Britannia yw'r unig ran o'r A55 sydd ddim yn ffordd ddeuol ymhob cyfeiriad

Mae cyflwyno system tair lôn ar y brif bont sy'n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr yn edrych yn llai tebygol, yn ôl y gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth.

Pont Britannia yw'r unig ran o'r A55 sydd ddim yn ffordd ddeuol, ac ers blynyddoedd mae galwadau i newid y system bresennol.

Drwy rannu'r ddwy lon bresennol yn dair, byddai system 'zipio' yn cynnig dwy lôn o draffig yn gadael yr ynys yn y bore, ac un o'r tir mawr, a'r gwrthwyneb yn y prynhawn.

Ond yn y Senedd cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd nad oedd peirianwyr wedi'u bodloni, er ei fod yn gefnogol o'r fath drefniant.

Mewn ymateb, dywedodd AS yr ynys, Rhun ap Iorwerth fod "gwneud dim byd ddim yn opsiwn".

'Cefnogi'r hyn mae'n ceisio ei wneud'

Fel rhan o gynllun dwy flynedd i'w hatgyweirio, mae mesurau rheoli traffig mewn lle ar y bont arall sy'n croesi'r Fenai, sef Pont y Borth.

Yn sgil pryderon fod y gwaith - sydd i bara tan Awst 2025 - am greu pwysau ychwanegol ar Bont Britannia, yn gynharach eleni fe ail godwyd galwadau hanesyddol i ychwanegu lôn i'r prif groesiad.

Disgrifiad o’r llun,

Lee Waters: "Roeddwn yn cydymdeimlo'n fawr â cheisio rhoi'r system 'zipio' i mewn"

Fis Chwefror eleni cyhoeddwyd adolygiad o gynlluniau adeiladu ffyrdd mawr yng Nghymru, oedd yn awgrymu na fyddai croesfan newydd i'r tir mawr yn cael ei hadeiladu.

Ym mis Gorffennaf gofynnodd AS Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i weinidogion Llywodraeth Cymru gyflwyno system llif brig ar y Britannia, fel "mesur interim" tra'n parhau i bwyso am drydedd pont.

Ond yn y Senedd brynhawn Mercher - yr un diwrnod a wynebodd bleidlais o ddiffyg hyder yn sgil y ffrae am gyflwyno terfyn cyflymder 20mya - nid oedd Lee Waters yn obeithiol o fabwysiadu cynllun o'r fath.

'Ddim yn syml'

Gan nodi "nad yw'r pethau hyn yn syml," fe wfftiodd honiadau nad oedd y llywodraeth o ddifrif ynghylch darparu ateb hirdymor.

"Fy mhryder yw, ar ôl ymgysylltu'n agos â'r peirianwyr ar hyn - ac mae'r aelod wedi cyfarfod â nhw ei hun ar sawl achlysur - nid yw mor syml ag y mae'n ei wneud allan, yn anffodus," medd Mr Waters.

"Fe hoffwn y bydde fe, oherwydd rwy'n cefnogi'r hyn y mae'n ceisio ei wneud.

"Roeddwn yn cydymdeimlo'n fawr â cheisio rhoi'r system 'zipio' a'i awgrymodd i mewn, ond mae'r peirianwyr yn ofalus iawn ynglŷn â hynny."

Ffynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw ers tro am gael pont arall rhwng Gwynedd a Môn er mwyn lleddfu tagfeydd

"Deallaf fod yr adroddiad yr ydym wedi'i gael yn ôl - yn gweithio gyda Chomisiwn Burns a sicrhau bod peirianwyr ar gael iddynt - yn dangos ei bod yn mynd i fod yn anodd iawn rhoi hynny i mewn fel ateb parhaol, sy'n siomedig iawn.

"Nid ydym yn rhoi'r gorau iddi, ac rwy'n sicr yn gofyn iddynt wneud pob ymdrech i geisio gwneud hwnnw'n ateb pragmatig.

"Byddwn yn hapus iawn iddo, eto, gyfarfod â nhw i fynd dros y manylion hynny."

'Diffyg gwytnwch'

Fe ddywedodd AS yr ynys, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "siomedig dros ben" gyda'r ymateb hyd yma, ac bod "angen clir i edrych eto ar y penderfyniad i ddileu trydedd pont".

"Mae cau Pont y Borth yn gyfan gwbl y llynedd, a'i chau'n rhannol am y 18 mis nesaf, yn amlygu'r diffyg gwytnwch yn ein croesfannau dros y Fenai," meddai.

"Fel mesur dros dro defnydd cyflym, rydw i wedi bod yn galw am weithredu system llif traffig tair lôn ar Bont Britannia.

"Does gennyf ddim amheuaeth y byddai gwella llif traffig dros y Britannia yn gam i'r cyfeiriad cywir yn y tymor byr.

"Lle mae'r bwriad i geisio taclo'r problemau rydym yn eu hwynebu rŵan?"

Pynciau cysylltiedig