Ymchwilio i farwolaeth dyn yn y ddalfa yn Abertawe

Gorsaf Heddlu AbertaweFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei arestio a'i gludo i Orsaf Heddlu Abertawe wedi digwyddiad ar 26 Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i farwolaeth dyn yn fuan wedi iddo gael ei roi yn y ddalfa yn Abertawe.

Cafodd y dyn 55 oed ei arestio gan swyddogion Heddlu’r De ar ôl iddyn nhw ymateb i ddigwyddiad mewn eiddo yn ardal Brynmill y ddinas am tua 10:30 ar 26 Mawrth.

Cafodd yr unigolyn ei gludo i Orsaf Heddlu Abertawe, ond yn fuan wedi iddo gael ei roi yn y ddalfa fe wnaeth ei gyflwr ddirywio.

Fe gafodd gymorth cyntaf gan weithiwr iechyd proffesiynol wedi iddo fynd yn anymwybodol, a cafodd ei gludo wedyn i Ysbyty Treforys lle bu farw yn ddiweddarach.

Cafodd yr achos ei gyfeirio at yr IOPC gan Heddlu'r De.

Mae'r IOPC wedi cadarnhau eu bod yn edrych yn benodol ar gyswllt y dyn gyda swyddogion, y penderfyniadau a wnaed wrth ei arestio, ac a wnaeth y gwasanaethau brys ddilyn y prosesau yn gywir.

Mae archwiliad post mortem eisoes wedi ei gynnal, tra bod profion eraill yn dal i fynd rhagddo.

Dywedodd cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Ry'n ni'n cydymdeimlo'n arw gyda theulu a ffrindiau'r dyn, a phawb sydd wedi eu heffeithio gan ei farwolaeth.

"Mae hi'n bwysig bod ymchwiliad annibynnol llawn yn cael ei gynnal i farwolaeth unrhyw unigolyn sydd dan oruchwyliaeth yr heddlu.

"Ry'n ni eisoes wedi cwrdd â theulu'r dyn er mwyn esbonio'r broses, a byddwn yn eu diweddaru yn gyson yn ystod yr ymchwiliad."

Pynciau cysylltiedig