Pennaeth Heddlu'r De: 'Blwyddyn heriol ond dwi yma i aros'
- Cyhoeddwyd
Wedi blwyddyn hynod heriol i Heddlu De Cymru, dywed y Prif Gwnstabl, Jeremy Vaughan, ei fod yn barod i amddiffyn eu gwaith i'r carn a'i fod ef ei hun "yma i aros".
Ymhlith yr heriau roedd terfysg yn Nhrelái Caerdydd, damwain car laddodd dri pherson ifanc yn Llaneirwg a charcharu'r plismon, Lewis Edwards, am oes am droseddau rhyw ar dros 200 o ferched ifanc.
Ar hyn o bryd mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn cynnal dau ymchwiliad unigol i waith Heddlu'r De.
Wrth siarad â BBC Cymru, mae Mr Vaughan yn barod i gydnabod bod ymddiriedaeth yn ei lu dan y chwyddwydr.
"Yn sicr mae pobl yn cwestiynu ymddiriedaeth yn yr heddlu, ydyn maen nhw, ond fy ngwaith i fel pennaeth Heddlu De Cymru ydy sicrhau bod y gwasanaeth 'dan ni'n cynnig ymysg y gorau ledled prydain.
"Mae'n bwysig i fi [ein bod ni'n] gweithio'n galed fel bod pobl yn ymddiried ynddom ni, bod nhw'n cael hyder yn y gwasanaeth ni'n cynnig iddyn nhw.
"Dwi'n setio safonau uchel, mae'n bwysig bod pobl yn gwneud eu gwaith, ymchwilo tu allan i ni fel bod nhw'n gallu commento ar y gwaith ry'n ni wedi gwneud yn y gorffennol ac ar rai materion rwy'n aros i weld beth sy' ganddyn nhw i'w ddweud cyn i fi ddweud rhywbeth amdanyn nhw," meddai.
Fe aeth bron i ddeuddydd heibio cyn i Heddlu'r De ddarganfod car oedd wedi gadael y briffordd yn Llaneirwg, Caerdydd ddechrau Mawrth.
Bu tri o bobl ifanc farw yn y ddamwain.
Ym mis Mai ffrwydrodd rhan o gymuned Trelái Caerdydd ar ôl i ddau fachgen ifanc farw ar ôl disgyn o feic modur trydan. Aeth si ar led bod Heddlu'r De'n eu dilyn.
"Wrth gwrs ry'n ni wedi bod yn delio â phethau heriol iawn ac yn aml iawn 'dyn ni ddim yn gallu siarad amdanyn nhw - tan mae pobl wedi gorffen eu hymchwiliad ac mae pobl tu allan i'r llu yn ymchwilio i bethau 'da ni wedi eu gwneud.
"Ond dwi'n falch o'r ymdrech a'r staff - ni ar ben ein gwaith gyda lot o bethau, ry'ch chi'n cael gwasanaeth arbennig gyda Heddlu'r De i gymharu â lot."
Gofynnais i Jeremy Vaughan a oedd achosion fel un Lewis Edwards, cyn-blismon o Ben-y-bont, yn achosi niwed i Heddlu'r De.
Cafodd Lewis ei garcharu am oes ar ôl defnyddio Snapchat i feithrin dros ddau gant o ferched ifanc i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw.
"Mae'n ofnadwy pan 'dan ni'n clywed am storis fel'na a'r eiliad dw i'n clywed amdanyn nhw tydi traed pobl ddim yn twtsiad y ddaear - dwi'n cael gwared arnyn nhw, sicrhau bod nhw ddim yn gweithio gyda plismona byth eto ac wrth gwrs mae'n beth ofnadwy.
"Beth dwi i'n gorfod sicrhau yw bod safonau yn uchel o fewn Heddlu De Cymru, bod pobl yn deall fy safonau i fel pennaeth y llu.
"Os yw pobl yn torri rheoliadau mewnol neu os yw pobl yn torri'r gyfraith, bo fi'n delio â nhw, a delio â nhw yn eithaf caled fel bo fi'n setio safon uchel."
Yn gynharach ym mis Rhagfyr cafodd tri o ddynion ifanc eu lladd ar ôl i'w car daro bws yng Nghoedelái, Rhondda Cynnon Taf. Mae ymchwiliad Heddlu'r De i'r gwrthdrawiad yn parhau.
"Mae o'n drist iawn i weld hynna," meddai'r prif gwnstabl, "mae wastad yn drist ac mae'n gadael stamp enfawr ar gymunedau a theuluoedd ond tydi?
"O gwmpas y Nadolig 'dan ni'n stopio pobl wrth gwrs - mae pobl yn dueddol o yfed mwy yn ystod yr Ŵyl, y ffigyrau d'wetha welon ni - un o bob ugain o stop gwnaethon ni - pobl wedi goryfed neu gymryd cyffuriau - so gwaith ni ydy sicrhau bod ni ar y ffyrdd yn gwneud yn siŵr bod pobl ddim yn gallu cael ffwrdd efo gwneud y troseddau maen nhw'n gwneud ar y ffyrdd.
"Ond wrth gwrs mae lawr i bobl yrru yn ddiogel ac edrych ar ôl ei gilydd - yn enwedig ar adegau pan mae pobl ifanc yn meddwl eu bod nhw y tu hwnt i ofn mewn ffordd."
Er gwaetha'r heriau a'r ddau ymchwiliad annibynnol i waith ei lu mae Jeremy Vaughan yn mynnu ei fod wedi ymrwymo i Heddlu'r De a'i fod yma i aros.
"Dwi yma i aros fel pennaeth Heddlu De Cymru. Dwi'n falch iawn o ngwaith i - dwi'n falch iawn o'r gwaith mae pobl yn gwneud bob dydd.
"Ar sawl trosedd ry'n ni ymhlith y gorau drwy Brydain yn beth 'dan ni'n 'neud. Na, dwi yma i aros."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023