Gerard Coutain yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Gerard Coutain yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Fe gipiodd y Fedal Gyfansoddi gyda "darn rhythmig ac egnïol" dan y teitl ‘Triawd o Llannerch y goedwig’ ar gyfer ffliwt, fiola a thelyn.
Mae'r cyfansoddwr 16 oed - sy'n dod yn wreiddiol o Wlad Pwyl - yn byw yn Rhydaman ers wyth mlynedd ac yn dysgu Cymraeg.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Rafik Harrington o Gaerdydd, a David John Ingham o Abertawe oedd yn drydydd.
- Cyhoeddwyd31 Mai 2024
- Cyhoeddwyd30 Mai 2024
- Cyhoeddwyd29 Mai 2024
Dywedodd Gerard ei fod wedi dechrau chwarae’r piano yn chwech oed, ac wedi dechrau cyfansoddi yn 14 oed, ond nad yw erioed wedi derbyn unrhyw hyfforddiant cyfansoddi ffurfiol.
"Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o gyfansoddwyr, gan gynnwys Bach, Stravinsky, Debussy, Lili Boulanger, ac yn fwy diweddar Walter Leigh," meddai.
“Cyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni, cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu darn ar gyfer telyn unigol ('Barbarica') ar gyfer Cerddorion Ifanc Dyfed, ac ym mis Tachwedd diwethaf cefais fy nerbyn i Ysgol Purcell i astudio cyfansoddi, piano a ffidil, gan ddechrau ym mis Medi.
“Mae’r darn rydw i wedi’i gyfansoddi wedi’i sgorio ar gyfer triawd o ffliwt, fiola a thelyn. Ei nod yw archwilio elfennau mympwyol byd natur a llên gwerin, a’r gwahanol seiniau y byddech chi’n eu disgwyl o lannerch goedwig gudd.”
'Ein cadw ar flaenau’n sedd'
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Gareth Glyn a Guto Pryderi Puw, a daeth 14 ymgais i law.
Dywedodd y beirniaid eu bod wedi cael "cryn foddhad yn pori drwy’r amrywiaeth o ddarnau difyr".
“Mae’r enillydd yn llwyddo i arddangos medr dechnegol hyderus a dawn naturiol i ysgrifennu ar gyfer offerynnau’r ensemble," meddai'r ddau.
"Dyma ddarn afieithus, llawn egni a oedd yn ein cadw ar flaenau’n sedd o’r bar cyntaf i’r bar olaf.
“Roeddem o’r farn, y gellid fod wedi cynnig y wobr i unrhyw un o’r pedwar yn y dosbarth cyntaf ac fe’i hanogir ynghyd â’r holl gystadleuwyr eraill i barhau i gyfansoddi – daliwch ati.”