Strade: RT Davies yn 'bryderus' am fyw yn lleol

Gwesty'r Strade
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd dros 200 o geiswyr lloches yn aros mewn 77 o ystafelloedd yng Ngwesty'r Strade

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddai’n pryderu petai’n byw mewn rhan o Sir Gaerfyrddin ble mae bwriad i gartrefu cannoedd o geiswyr lloches.

Bwriad y Swyddfa Gartref yw cartrefu hyd at 207 o geiswyr lloches yng Ngwesty'r Strade yn ardal Ffwrnais, Llanelli o ddechrau Gorffennaf.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Andrew RT Davies, dolen allanol y byddai'r diffyg gwybodaeth swyddogol gan ei blaid ei hun yn ei bryderu pe bai'n byw yna.

Mae’r Aelod o'r Senedd dros Lanelli, Lee Waters, dolen allanol hefyd wedi dweud ei fod yn bryderus o’r diffyg gwybodaeth sydd ar gael, a'i fod hefyd yn poeni am bresenoldeb grwpiau asgell dde eithafol, sydd yn creu tensiwn yn Llanelli.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew RT Davies yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

'Wrth gwrs y byddwn i’n poeni'

Wrth siarad ar raglen Wales Live, dywedodd Andrew RT Davies: "Wrth gwrs byddwn i'n poeni os oes rhywbeth yn digwydd yn fy nghymuned leol, pe bawn i'n byw yn Ffwrnais, ac nad ydw i wedi cael gwybodaeth amdano...

"Ac yn y pen draw, fydden i ddim am weld hyn yn digwydd mewn gwesty sy’n darparu cyflogaeth a chyfleusterau lleol.

"Ond allwch chi ddim ysgaru oddi wrth y darlun cenedlaethol sef y cynnydd amlwg yn nifer y bobl sy'n croesi’r sianel.

“Rhaid i ni wneud yn siŵr, cyn lleoli pobl, fod caniatâd trigolion lleol wedi ei geisio, bod gwybodaeth yn cael ei darparu i drigolion lleol, ac nad yw pobl yn cael eu gorfodi ar gymunedau oherwydd mae hynny’n annerbyniol.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Waters, AS Llanelli wedi mynegi pryder am bresenoldeb grwpiau asgell dde eithafol yn yr ardal

Yn ogystal â’r cynllun i gartrefu 207 o geiswyr lloches yn Ffwrnais, mae cynlluniau hefyd i gartrefu 400 o geiswyr lloches ar safle yn Sir y Fflint.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae’r cynlluniau yn angenrheidiol gan fod mwy na 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ar gost o £6m y diwrnod i drethdalwyr.