Degawd o erthyglau Cylchgrawn

Degawd o Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Cafodd gwasanaeth Cymru Fyw ei lansio ar 22 Mai 2014, ac ers hynny, mae miloedd o erthyglau wedi eu cyhoeddi ar amryw o bynciau - o'r gwych i'r gwallgo'.

Dyma gipolwg ar rai o uchafbwyntiau Cylchgrawn dros y 10 mlynedd.

2014

Yn y newyddion

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llanelli

  • Cymru yn ennill 234 medal yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow

  • Bu farw'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen ar 15 Gorffennaf yn 69 oed

2015

Yn y newyddion

  • Gwenno yn ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am yr albwm Y Dydd Olaf

  • Dathliadau i nodi 150 o flynyddoedd ers i deithwyr hwylio draw o Gymru i Batagonia ar y Mimosa

  • Rhai o gemau Cwpan Rygbi'r Byd Lloegr yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd

2016

Yn y newyddion

  • Cymru yn cystadlu yn Euro 2016 - y twrnamaint mawr cyntaf ers 1958 - ac yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol

  • 52.5% o Gymry yn pleidleisio mewn refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd

  • Croesawu'r Archdderwydd Geraint Llifon a ffarwelio â'r Pafiliwn Pinc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni

2017

Ffynhonnell y llun, ITV

Yn y newyddion

  • Bu farw'r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, y dramodydd, Meic Povey a'r actores, Iola Gregory

  • Yr Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mhen-y-bont

  • Chris Coleman yn ymddiswyddo fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru

2018

Yn y newyddion

  • Geraint Thomas yw'r Cymro cyntaf i ennill y Tour de France

  • Mark Drakeford yn olynu Carwyn Jones fel Prif Weinidog

  • Gwenwyn gan Alffa yw'r gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio miliwn o weithiau ar Spotify

2019

Yn y newyddion

  • Tywydd drwg yn effeithio ar yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, gyda Maes B yn gorfod cau ddeuddydd yn gynnar, er diogelwch

  • Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros yn ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddi cynlluniau i godi cerflun o Betty Campbell - pennaeth ysgol du cyntaf Cymru - yn dilyn pleidlais gyhoeddus

2020

Ffynhonnell y llun, Lleuwen Steffan

Yn y newyddion

  • Y byd yn dod i stop o ganlyniad i bandemig COVID-19, gyda'r gorchymyn i aros adref

  • Yma o Hyd gan Dafydd Iwan yn cyrraedd brig siart iTunes

  • Stormydd Ciara a Dennis yn achosi trafferthion a difrod mawr ledled Cymru, ddechrau'r flwyddyn

2021

Ffynhonnell y llun, Welsh of the West End

Yn y newyddion

  • Sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn prynu clwb pêl-droed Wrecsam

  • Morgan Elwy yn ennill Cân i Gymru gyda'r gân gofiadwy, Bach o Hwne

  • Tîm rygbi Cymru yn ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

2022

Ffynhonnell y llun, Wynne Evans

Yn y newyddion

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal - o'r diwedd - yn Nhregaron, ar ôl cael ei gohirio am ddwy flynedd

  • Y Frenhines Elizabeth II yn marw, gyda'i mab, Charles, yn ei olynu

  • Bu farw'r cyflwynydd, Dai Jones, y gohebydd chwaraeon, Eddie Butler a'r actores Ruth Madoc

2023

Yn y newyddion

  • Terfyn cyflymder newydd 20mya yn dod i rym

  • Alan Llwyd yn ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a hynny am y trydydd tro

  • Gareth Bale yn cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed

2024

Yn y newyddion

  • Vaughan Gething yw'r person du cyntaf i arwain gwlad Ewropeaidd, pan mae'n olynu Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru

  • Lauren Price yn dod yn Bencampwr Bocsio'r Byd - y ferch gyntaf o Gymru i ennill y teitl

  • Bu farw'r gantores, Leah Owen, y chwaraewyr rygbi, JPR Williams a Barry John, a'r gwleidydd Owen John Thomas

Pynciau cysylltiedig