S4C wedi gwario £564,000 ar yr ymchwiliad i fwlio
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth S4C wario dros hanner miliwn o bunnau yn ymchwilio “i honiadau o fwlio a diwylliant gwenwynig”, medd yr adroddiad blynyddol.
Mae’r cyfrifon diweddaraf yn nodi bod £564,000 wedi ei wario ar “yr ymarfer canfod ffeithiau” a gafodd ei gynnal gan gwmni cyfreithwyr Capital Law o Gaerdydd.
Cafodd y cwmni cyfreithwyr eu cyflogi yn ystod Mai 2023 wedi i undeb BECTU godi “pryderon difrifol” am yr amgylchedd waith yn S4C.
Dywedodd llefarydd eu bod wedi cyflogi cwmni Capital Law er mwyn “galluogi staff i deimlo’n ddiogel tra’n rhannu eu profiadau”.
Yn yr adroddiad nodir bod y £564,000 a gafodd ei wario ar “ymarfer canfod ffeithiau” a chyngor cyfreithiol arall wedi dod o gronfeydd wrth gefn y sianel ac felly nad oedd y gwariant ychwanegol wedi effeithio ar “wariant cynhyrchu cynnwys na chyflawni blaenoriaethau strategol S4C”.
Mae'r adroddiad, dolen allanol yn nodi hefyd bod S4C wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed i'w oriau ffrydio y flwyddyn ddiwethaf.
Fe wnaeth oriau gwylio ar-alw S4C godi 31% yn 2023-24 o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.
Roedd cynnydd o 12% yn yr oriau gwylio ar S4C Clic, a 35% ar BBC iPlayer.
"Does dim dwywaith y bu 2023-24 yn flwyddyn anodd dros ben i S4C," medd Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C.
"Ond mae gennym gynllun gweithredu beiddgar eisoes ar waith ac yn dwyn ffrwyth."
'Y cynnwys gorau i'n holl gynulleidfaoedd'
Roedd hefyd twf o 53% yn nifer yr oriau gwylio ar YouTube.
Ar deledu llinol, fe wnaeth cyrhaeddiad blynyddol S4C godi 5% - i dros 1,700,000 o wylwyr.
A bu cynnydd o 9% yn nifer y Cymry Cymraeg sy'n gwylio'r sianel o wythnos i wythnos, sef y ffigwr uchaf ers chwe blynedd.
“Braf gweld bod y gwerthfawrogiad o’r sianel a’i chynnwys yn parhau’n gryf gyda’n gwylwyr," medd Ms Wiliam.
"Gallwn edrych ymlaen nawr yn hyderus i barhau i ddarparu’r cynnwys gorau i’n holl gynulleidfaoedd – sut bynnag y maen nhw’n dewis ein gwylio.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2024