Bridiau Cymreig sydd mewn perygl o ddiflannu

- Cyhoeddwyd
Mae brîd o wartheg Cymreig sydd dros 1,000 oed wedi ei ychwanegu i restr o fridiau sydd mewn perygl o ddiflannu.
Mae Brîd Gwartheg Hynafol Cymru wedi ei ychwanegu i gategori blaenoriaeth rhestr ymddiriedolaeth y Rare Breeds Survival Trust (RSBT) sy'n golygu bod angen gweithredu ar frys i sicrhau nad yw'n diflannu.
Un sy'n cadw'r brîd yma yw Teifi Davies o ardal Aberporth ac fe bwysleisiodd bwysigrwydd y brîd a'i hanes hynafol ar raglen Dros Frecwast.
"Roedd sôn amdanyn nhw ganrifoedd yn ôl yn oes Hywel Dda ac yn dod lan trwy'r canrifoedd yng nghanoldir Cymru, a nawr maen nhw wedi mynd ar y rhestr rare breeds - fi'n falch iawn bo' nhw wedi cymryd sylw o hyn," eglurodd.
Yn ôl yr RBST mae gan yr anifail nodweddion gwerthfawr gan gynnwys bod yn frîd cig eidion economaidd sydd yn cynhyrchu bwyd o flas da.
Mae'n frîd "rhagorol" ar gyfer cadw a gwella bioamrywiaeth tir pori mynyddig hefyd, ond mae eu hedrychiad hefyd yn unigryw fel eglurodd Teifi:
"Maen nhw i gyd mwy neu lai yr un maint a'r un siap ond be' sy'n bwysig ambutu nhw yw'r lliwie, mae'n frîd sydd gyda rhyw chwe lliw i gyd. Mae'n arbennig fod y brid yn mynd yn ôl i'r canol oesoedd."
Gobaith Teifi yw y bydd mwy o fridio pur yn digwydd er mwyn sicrhau dyfodol Gwartheg Hynafol Cymru. Ond oes yna fridiau Cymreig eraill dan fygythiad?
Er fod Gwartheg Hynafol Cymru yn newydd ar y rhestr, mae rhai bridiau Cymreig eisoes dan fygythiad yn ôl rhestr llynedd RBST. Dyma olwg arnyn nhw.
Dafad Fynydd Gymreig
Categori RSBT: blaenoriaeth
Er bod y Ddafad Fynydd yn un o fridiau defaid hynaf y wlad gyda chyfeiriadau ati i'w darganfod yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol hyd yn oed, "mae'n dal mor berthnasol i amaethyddiaeth heddiw ac unrhyw frid arall," yn ôl gwefan Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig.
Mae'r gymdeithas sy'n eu gwarchod yn ychwanegu: "Maent yn ddefaid darbodus, llaethog a chaled, yn famau rhagorol ac yn borwyr arbennig; yn rhad i'w prynu a hawdd eu cadw, yn wyna yn rhywdd ac angen ond ychydig o borthiant ychwanegol. Mewnbwn isel – Allbwn Uchel."

Dafad Llanwenog
Categori RSBT: dan fygythiad
Cafodd Dafad Llanwenog ei ddatblygu yn y 19eg ganrif drwy groesi dafad sir Amwythig gydag amryw o ddefaid mynydd lleol â wynebau duon gan gynnwys dafad Llanllwni (sydd bellach wedi diflannu), y ddafad fynydd Gymreig, a dafad Coedwig Clun.

Dafad Torwen
Categori RSBT: dan fygythiad
Wyneb du a bol gwyn sydd gan ddafad Torwen tra bod gan ddafad Torddu fol du.
Mae'r Torwen yn gymharol fychan gyda mamog yn pwyso tua 40-50kg. Maent yn cynhyrchu cig o ansawdd uchel ac yn hawdd i'w hwyna.

Gwartheg Y Faenol
Categori RSBT: blaenoriaeth
Gwartheg Y Faenol yw un o'r bridiau gwartheg prinaf yng Nghymru a gweddil y DU.
Sefydlwyd y brîd ym Mharc Y Faenol ger Bangor yn 1872. RSBT sydd berchen ar y rhan fwyaf o boblogaeth y brîd yma erbyn hyn - mae mor brin â hynny.
Mae'r rhan fwyaf o wartheg Y Faenol yn led-wyllt ac nid ydynt angen llawer o ofal. Maent yn fychan ac yn fain, eu clustiau a'u trwyn yn ddu a'u cyrff yn wyn. Maent yn wych am bori er lles cadwraeth.

Merlen Gymreig Adran B
Categori RSBT: dan fygythiad
Yn ddisgynydd o'r Felen Fynydd Gymreig a gyda gwaed Arabaidd a brîd, cafodd y ferlen Gymreig Adran B ei bridio am ei gallu i gario gan ei gwneud yn ferlen addas i fugeiliaid y mynydd.

Mochyn Cymreig
Categori RSBT: dan fygythiad
Daeth brîd y mochyn Cymreig yn boblogaidd yn yr ugeinfed ganrif, ac erbyn y 1980au ef oedd y trydydd mwyaf niferus yng ngwledydd Prydain. Roedd yn wyn ei liw, gellid ei fagu dan do neu allan, ac roedd ei gig o'r safon uchaf heb lawer o fraster.
Erbyn hyn, dyw hi ddim mor boblogaidd i gadw'r mochyn Cymreig fel brîd pur felly mae dan fygythiad.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2024
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024