Cynghorydd wnaeth 'ysgwyd seiliau' Gwynedd yn ymddeol wedi 40 mlynedd

Fe ddaeth Linda 'Pengwern' yn gynghorydd dros ward Teigl, Ffestiniog pan roedd yn "llawn dynion" yn yr 80au
- Cyhoeddwyd
Ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth fel cynghorydd yn ardal Ffestiniog, mae Linda Ann Jones yn rhoi'r gorau iddi.
Roedd Linda 'Pengwern' fel mae'n cael ei hadnabod yn lleol, yn gynghorydd dros ward Teigl, Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd.
Fe ddaeth yn gynghorydd ar adeg pan nad oedd llawer o ferched ym myd gwleidyddiaeth ac mae wedi cael ei disgrifio fel "dynes ysbrydoledig" ac yn "arloeswraig".
Pan safodd Linda fel cynrychiolydd lleol yn 1986, mae'n dweud bod aelodau hŷn y cyngor yn Nolgellau - y mwyafrif yn ddynion - "braidd yn syfrdan" i weld mam ifanc yn cnoi gwm ac yn gwisgo shell suit yn eistedd yng nghyfarfodydd y cyngor.
Mentergarwch yn y gwaed
Mae gwreiddiau amaethyddol teulu Linda yn dyddio'n ôl i'r 1500au yng Nghwm Cynfal, Llan Ffestiniog, ac roedd dwy ochr ei theulu yn cynnig esiamplau cryf iddi o sut i weithio'n galed, mentro a helpu eraill yn eich cymuned.
"Roedd un nain a taid yn rhedeg Gwesty'r Grapes ym Maentwrog, tra roedd fy nhaid yn gweithio yn y Setts yn y Blaenau a fy nain yn rhedeg siop ddillad," esboniodd Linda, sy'n 76 oed.
"Heb os, pan oedd fy rhieni yn rhedeg nifer o fusnesau, gan gynnwys siop ddillad, y Pengwern Arms a'r Black Rock Club ym Morfa Bychan, roedd eu dylanwad arna i yn fawr."
Wedi gadael yr ysgol a hyfforddi mewn gwallt a harddwch yn Lerpwl, fe ddaeth Linda yn ôl, yn 19 oed, i sefydlu ei salon gwallt ei hun yn y Blaenau.
Fe gafodd bedwar o blant, Tracey, Anthony, Cai a'r canwr, Ywain Gwynedd, ac mae bywyd teuluol wastad wedi bod yn bwysig iawn iddi.
Ar ôl i'w phriodas gyntaf chwalu, fe ailgynnodd perthynas cyfaill plentyndod gyda'r diweddar Dafydd Wyn Jones, a phriododd y ddau.

Y diweddar Dafydd Wyn Jones gyda'r AS Liz Saville Roberts ar Y Traeth - cartref CPD Porthmadog
"Dafydd oedd yr un a'm hysbrydolodd i ystyried sefyll fel cynghorydd sir," eglurodd Linda.
"Roedd o'n cael ei nabod yn lleol fel Stan, roedd o'n wladgarwr, yn genedlaetholwr ac yn ddyn ei gymuned," meddai.
"Dwi'n credu mai dyna'r rheswm roedden ni'n gyrru 'mlaen cystal, roedd Dafydd yn graig gan fy nghefnogi i gyflawni popeth roedden ni fel teulu yn ei gyflawni."
Cyngor i 'wrando a dysgu'
Pan safodd Linda fel cynrychiolydd lleol ar Gyngor Dosbarth Meirionnydd yn 1986, enillodd o dair pleidlais.
Roedd aelodau gwrywaidd, hŷn y cyngor sir yn Nolgellau "braidd yn syfrdan", esboniodd Linda, i weld mam ifanc yn cnoi gwm ac yn gwisgo shell suit yn eistedd yng nghyfarfodydd y cyngor, ond buan iawn y gwnaethon nhw dderbyn Linda, fel un gre, ddylanwadol.
Arhosodd un gair o gyngor gyda hi yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny; "am y chwe mis cyntaf, gwranda a dysga, a gwna'n siŵr dy fod yn darllen papurau bob pwyllgor ymlaen llaw".
Cadwodd Linda'n driw at y cyngor hwnnw yn ystod ei 39 mlynedd ac mae wedi trosglwyddo'r un cyngor i gyd-gynghorwyr newydd dros y blynyddoedd.

Datblygodd ei gyrfa pan ddechreuodd weithio fel gweithiwr cymdeithasol cymunedol yng Ngwynedd, ac yn fuan cynigiwyd symud ymlaen ac arbenigo mewn cefnogaeth anableddau corfforol a dysgu.
"Sylwais i ein bod ni'n arfer cludo pobl ag anableddau corfforol a dysgu yn gynnar yn y bore i ganolfannau ac ro'n i'n eu gweld nhw'n dychwelyd yn hwyr yn y dydd i'w cartrefi, ac roedd y gefnogaeth yn dod i ben wedyn gyda'r nos."
"Felly, penderfynais i geisio cael cyllid i gefnogi'r unigolion yma yn eu cymuned eu hunain, a dyna lle y dechreuodd gwaith Seren."
Mae Seren erbyn hyn yn un o fentrau cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru, a sefydlwyd yn 1996 gan Linda i gynnig cefnogaeth broffesiynol i bobl ag anableddau dysgu yn ne Gwynedd.
Colli dau fab a gŵr
Ond "dydi bywyd ddim wedi bod yn hawdd bob amser" i'r cynghorydd, sydd wedi profi cyfnodau anodd pan gollodd dau o'i meibion a'i gŵr.
"Fe gollon ni Ant, fy mab hynaf, mewn gwrthdrawiad ffordd pan oedd yn 27 oed."
"Bu farw Cai, 45, ar ôl brwydro'n ddewr yn erbyn salwch yn 2019, ac fe gollon ni Dafydd [ei gŵr] yn yr un flwyddyn."
"Mae fy iechyd fy hun wedi bod yn heriol dros y blynyddoedd, ond drwy'r cyfan, mae dau beth wedi aros yn gyson, cymuned Ffestiniog a fy ngwaith fel cynghorydd sir."
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
Mae edmygedd a diolch am ei blynyddoedd ymroddedig o wasanaeth wedi dod gan arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys.
"Roedd Linda yn arloeswraig yng Ngwynedd," meddai.

Cafodd Geraint Wyn Parry ei ethol yn gynghorydd dros ward Teigl mewn isetholiad
"Fe ysgydwodd seiliau cyngor oedd yn cael ei reoli gan ddynion yn ôl yng nghanol yr 1980au.
"Diolch i Linda am bopeth mae hi wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd ac am fod yn fodel rôl nid yn unig i mi, ond i'r holl gynghorwyr benywaidd sydd bellach yn cael y fraint o weithio, yma yng Ngwynedd."
Geraint Wyn Parry sydd wedi ei ethol yn ddiweddar i sedd ward Teigl, Ffestiniog.