Cyhuddo dynes o lofruddio ei mab a cheisio llofruddio ei thad
- Cyhoeddwyd
Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd Alexander Zurawski ei ddarganfod yn farw mewn eiddo ar Glos Cwm Du yn Gendros ar 29 Awst.
Mae Karolina Zurawska, 41, hefyd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio ei thad, Krzysztof Siwy, 67, yn gynharach ar yr un dyddiad.
Mewn gwrandawiad fore Mawrth, fe siaradodd Ms Zurawska drwy gyswllt fideo o garchar Eastwood Park i gadarnhau ei henw.
Cafodd ei chadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn parhau yno tan y gwrandawiad nesaf ar 26 Medi.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glos Cwm Du tua 20:30 nos Iau.
Cafodd ei ddisgrifio gan yr heddlu ar y pryd fel "digwyddiad ingol" a fyddai'n "sioc i'r gymuned leol".
Mae swyddogion wedi cadarnhau nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae teulu Alexander wedi dweud ei fod yn blentyn "anhygoel" oedd "bob amser yn barod i helpu".
Dywedodd Bethan Peterson, pennaeth Ysgol Gynradd y Garreg Wen ble'r oedd Alexander yn ddisgybl, eu bod wedi eu "syfrdanu" o glywed am farwolaeth y bachgen "hoffus" a "phenderfynol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi
- Cyhoeddwyd2 Medi
- Cyhoeddwyd30 Awst