Dylan Thomas a chriw amryddawn y Kardomah

Llun o griw y Kardomah ar flaen cylchgrawn y Radio Times yn 1949
- Cyhoeddwyd
Yn yr 1930au roedd Dylan Thomas yn prysur gwneud enw iddo'i hun yn Abertawe.
Yn y ddinas hefyd roedd dynion o'r un cefndir celfyddydol yn ysu i ddatblygu eu gyrfaoedd a'u statws.
Roedd rhain yn cynnwys arlunwyr, cerddorion, ysgrifenwyr a dramodwyr.
Daeth un lleoliad penodol yn Abertawe yn fan cyfarfod i'r criw yma o ddynion, ble roeddent yn trin a thrafod gwaith, gwleidyddiaeth, bywyd a'u breuddwydion.
Daeth y criw yma i'w hadnabod dros amser fel The Kardomah Gang neu'r Kardomah boys.
Bryd hynny, roedd Caffi Kardomah wedi'i leoli ar Stryd y Castell yn Abertawe. Dyma ble y byddai The Kardomah Gang yn aml yn cwrdd.
Ond pwy oedd aelodau o'r criw egsglwsif yma a pham oedd y clwb mor arbennig?
Dyma ddod i adnabod rhai o Fechgyn y Kardomah.

Safle gwreiddiol caffi Kardomah ar Stryd y Castell, Abertawe cyn iddo symud ar ôl cael ei ddinistrio yn ystod Blitz Abertawe
Dylan Thomas

Dylan Thomas
Bardd, awdur ac un o ddisgynyddion enwocaf Abertawe.
Ganwyd Dylan Thomas yn 1914 a daeth yn ohebydd bro i'r South Wales Daily Post yn 1932.
Roedd Caffi'r Kardomah yn sefyll gyferbyn ag adeilad y Daily Post, felly roedd yn gyfleus i nifer o'r newyddiadurwyr gyfarfod yno.
Dyma ble y gwnaeth Dylan Thomas gyfarfod sawl un a ddaeth yn aelod o'r clwb chwedlonol.
Disgrifiodd Dylan Thomas y Kardomah fel lle iddo allu trafod "Einstein, Epstein, Stravinsky a Greta Garbo, marwolaeth, crefydd, Picasso a menywod".
Fe aeth ymlaen i ysgrifennu clasuron fel A Child's Christmas in Wales ac Under Milk Wood, a caiff ei ystyried yn un o'r beirdd mwyaf dylanwadol erioed.
Bu farw Dylan Thomas yn 39 oed yn Efrog Newydd yn 1953.
Charles Fisher

Charles Fisher ar ôl iddo symud i Ganada
Fel Dylan Thomas roedd Charles Fisher yn fardd ac hefyd yn gweithio i'r South Wales Daily Post, ble roedd ei dad yn bennaeth argraffu.
Fe gydweithiodd gyda Thomas ar ddrafftiau cynnar o ddrama ddychanol The Kings Canary. Fe orffennwyd y ddrama hon gan John Davenport a Dylan Thomas ond chafodd hi ddim ei chyhoeddi nes 1976.
Roedd Dylan Thomas yn ddylanwad mawr ar ei farddoniaeth. Mewn cyfweliad dywedodd Fisher am gaffi'r Kardomah:
"Roedd y Kardomah yn lle pwysig i ni fel lle i adrodd ar straeon ac i wybod beth oedd yn mynd ymlaen. Roedd o'n lle da i siarad gyda choffi da... wel, cyffredin iawn oedd y coffi," cyfaddefodd.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe weithiodd Fisher i'r gwasanaethau cudd. Wedi'r rhyfel aeth i ysgrifennu ar gyfer y BBC a Reuters.
Yn dilyn marwolaeth Dylan Thomas yn 1953, fe symudodd Fisher i Ganada.
Yno bu'n byw nes iddo ddod yr aelod olaf o'r criw Kardomah i farw yn 2006.
Daniel Jenkyn Jones

Daniel Jenkyn Jones
Cyfansoddwr oedd Daniel Jones. Ganwyd ef ym Mhenfro yn 1912 ac roedd yn mynychu'r un ysgol â Dylan Thomas yn Abertawe.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiodd ei ddoniau ieithyddol ym mharc cudd-wybodaeth Bletchley er mwyn ddatrys negeseuon cudd o Rwsia, Romania a Siapan.
Ar ôl y rhyfel fe ganolbwyntiodd Jones ar gyfansoddi a dyna pryd ddaeth i amlygrwydd.
Rhwng 1945 a 1985 fe gyfansoddodd 12 symffoni ac ymysg ei waith oedd cerddoriaeth ar gyfer drama Under Milk Wood gan Dylan Thomas.
Fe wnaeth Jones dalu teyrnged i Dylan Thomas drwy ei bedwaredd Symffoni yn 1954, blwyddyn ar ôl marwolaeth Thomas.
Alfred Janes

Alfred Janes
Roedd Alfred Janes yn arlunydd a roedd dair blynedd yn hŷn na Dylan Thomas yn yr ysgol.
Y cyfansoddwr Daniel Jones gyflwynodd y ddau yn 1932, a gyda diddordebau tebyg fe ddaeth yn gyfeillion agos.
Fe baentiodd Janes dri phortread o Dylan Thomas, y cyntaf wedi'i ddylunio'n gelfydd gyda phaent olew a chyllell finiog ar gynfas.

Fe wnaeth Alfred Janes baentio'r llun yma o Dylan Thomas
Prynwyd y llun yma gan Amgueddfa Caerdydd yn 1935.
Cafodd Janes waith mewn coleg celf yn Abertawe, a throdd ei law at bortreadau o aelodau eraill y clwb Kardomah hefyd, sef Daniel Jones a Vernon Watkins.
Symudodd i Lundain yn 1963 i weithio a bu farw yn 1993.
Vernon Watkins

Byddai Dylan Thomas yn gofyn i Vernon Watkins brawf ddarllen ei farddoniaeth
Bardd a chyfieithydd oedd Vernon Watkins. Fe ddisgrifiodd Dylan Thomas ef fel "y Cymro mwyaf dwys i allu sgwennu barddoniaeth yn y Saesneg".
Fe symudodd i Abertawe yn ifanc iawn ac yno cafodd ei fagu ar ôl iddo dreulio blynyddoedd cynnar ei fywyd ym Mro Morgannwg.
Pan oedd Thomas yn sgwennu ei farddoniaeth, roedd wastad yn troi at Vernon Watkins yn gyntaf i ddarllen ei waith ac i roi sêl bendith ar y drafft olaf.
Fe ofynnodd Watkins i Dylan Thomas fod yn was priodas iddo yn 1944, ond fe anghofiodd Thomas droi fyny. Serch hynny, roedd Watkins yn dad bedydd i Llywelyn, mab Dylan Thomas.
Mervyn Levy

Mervyn Levy y tu allan i Balas Buckingham
Arlunydd o Abertawe oedd Levy. Bu'n mynychu'r un ysgol â Dylan Thomas yn saith oed.
Roedd yn aelod o'r criw Kardomah tra hefyd yn gweithio fel athro celf.
Treuliodd amser yn ysgrifennu am gelf mewn cylchgronau a serennu mewn ambell i gyfres deledu am dechnegau arlunio.
Roedd yn gyfaill agos i'r arlunydd L.S Lowry.
Fe wnaeth cyd-aelod o'r grŵp Kardomah, Alfred Janes hefyd baentio llun o Levy i gyd-fynd a'i gasgliad o'r rhai baentiodd o Dylan Thomas.
Bert Trick

Fe aeth Bert Trick a Dylan Thomas i rali gwrth ffasgiaeth yn adeilad y Plaza yn 1934
Roedd Bert Trick yn gyfaill agos iawn i Dylan Thomas.
Fe ddylanwadodd Trick ar ei safbwyntiau gwleidyddol ac mae'n cael ei alw'n fentor bywyd i Dylan Thomas.
Roedd Trick yn Farcsydd ac roedd yn ymweld â chartref teuluol Dylan Thomas yn aml.
Fe ysgrifennodd nad oedd yn synnu fod Dylan Thomas wedi troi at farddoniaeth a dramâu, gan fod cartref y teulu yn llawn llyfrau.
"Roedd llyfrau hyd yn oed yn cael eu cadw o dan fyrddau yn y gegin ac ar hyd waliau'r tŷ," cofiodd.
Roedd Trick yn Gadeirydd ar Gyngor Heddwch Abertawe ac yn ysgrifennydd ar Glwb Llyfrau asgell chwith y ddinas.
Mae cofnodion yn dangos fod Dylan Thomas pan yn 19 oed wedi mynychu rali gwrth ffasgiaeth gyda Trick yn hen adeilad Sinema'r Plaza yn Abertawe yn 1934.
Dyfodol y caffi
Rhwng 19-21 Chwefror 1941, fe ddinistriwyd yr adeilad ble oedd Caffi'r Kardomah ar stryd y castell yn ystod ymosodiad y Blitz gan yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dyna i raddau oedd diwedd y man cyfarfod, wrth i'r aelodau i gyd symud ymlaen gyda'u bywydau a'u gyrfaoedd.
Mae'r caffi yn parhau ar agor yn Abertawe ond ar safle arall.
Ond mae'r cysylltiad â Dylan Thomas a'i griw o ffrindiau bohemaidd yn parhau i fod yn rhan o hanes Abertawe.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd10 Chwefror