Achub chwech o blant o'r môr ar draeth yn Aberafan

Cafodd y tîm achub eu galw i'r digwyddiad am tua 20:30 nos Sul
- Cyhoeddwyd
Mae Gwylwyr y Glannau Port Talbot yn dweud bod chwech o blant wedi cael eu hachub o'r môr ar ôl mynd i drafferthion ar draeth yn Aberafan.
Cafodd y tîm achub eu galw i'r "digwyddiad difrifol" am tua 20:30 nos Sul yn dilyn adroddiadau fod nifer o blant yn nofio yn y dŵr.
Fe lwyddodd swyddogion Gwylwyr y Glannau i dynnu tri o'r plant i'r lan yn defnyddio rhaff.
Er mwyn achub y tri phlentyn oedd dal yn y môr, fe aeth swyddogion i mewn i'r dŵr er mwyn eu casglu.

Cafodd dau o'r plant eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad
Roedd timau achub o wasanaeth Gwylwyr y Glannau Porthcawl hefyd yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad, yn ogystal â Heddlu'r De a'r Gwasanaeth Ambiwlans.
Cafodd y plant wedyn eu cludo i'r orsaf Gwylwyr y Glannau gerllaw, ble gawson nhw eu hasesu a'u monitro - cyn iddyn nhw gael eu hasesu yn ddiweddarach gan barafeddygon.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans fod "dau glaf wedi cael eu cludo i'r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth, tra bod y pedwar arall wedi gwneud eu ffordd ei hunain i'r ysbyty".
Nid oes unrhyw adroddiadau fod unrhyw un wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf