Tri newid ymhlith y blaenwyr wrth i Gymru geisio osgoi llwy bren

Donna RoseFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y prop profiadol, Donna Rose yn dechrau gêm am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth eleni yn erbyn yr Eidal

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi gwneud tri newid ymhlith y blaenwyr ar gyfer eu gêm olaf yn y Chwe Gwlad eleni yn erbyn yr Eidal.

Fe fydd Donna Rose yn dechrau gêm am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth eleni ar ôl cymryd lle Jenni Scoble yn y rheng flaen.

Mae Gwen Crabb - oedd ar y fainc ar gyfer y golled yn erbyn Iwerddon - wedi ei dewis yn yr ail reng.

Mae Georgia Evans yn symud i safle'r wythwr, gydag Alex Callender yn cael ei chynnwys ymhlith yr eilyddion.

Dywedodd y prif hyfforddwr, Sean Lynn ei fod yn gobeithio gweld y garfan yn ymateb wedi'r perfformiad siomedig yn erbyn y Gwyddelod.

Mae'r gêm yn erbyn yr Eidal wedi cael ei gohirio oherwydd angladd y Pab Ffransis, a bydd yn cael ei chynnal bellach am 11:30 (amser Cymru) ddydd Sul.

Mae Cymru wedi colli pob un o'u gemau yn y bencampwriaeth hyd yn hyn, ac os ydyn nhw'n colli yn erbyn yr Eidal, maen nhw'n wynebu derbyn y llwy bren - fel wnaeth tîm y dynion yn gynharach eleni.

Tîm Cymru i herio'r Eidal

Jasmine Joyce, Lisa Neumann, Hannah Jones (capten), Courtney Keight, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Donna Rose, Abbie Fleming, Gwen Crabb, Kate Williams, Bethan Lewis, Georgia Evans

Eilyddion: Carys Phillips, Maisie Davies, Jenni Scoble, Natalia John, Alex Callender, Sian Jones, Hannah Bluck, Catherine Richards.

Pynciau cysylltiedig