'Byddwch wyliadwrus' cyn mynd ag anifeiliaid i'r Sioe Fawr

Sioe FawrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw o'r newydd i bawb gymryd gofal cyn dewis mynd ag anifeiliaid i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd oherwydd perygl clefyd y tafod glas.

Mae prif weithredwr y Sioe, Aled Rhys Jones, yn dweud ei bod hi'n "bwysig iawn edrych yn fanwl ar eich stoc cyn dod â nhw i'r sioe a byddwch yn wyliadwrus iawn am unrhyw arwyddion o'r clefyd".

Mi fydd y Sioe yn dechrau ddydd Llun ond oherwydd clefyd y tafod glas ni fydd arddangoswyr o'r Alban na Lloegr yn cael dod â'u da byw eleni.

Yn ôl trefnwyr y Sioe maen nhw'n gwneud popeth posib i leihau'r risg o ledu'r clefyd.

Alun Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Rhys Jones fod croeso i bawb ond bod angen i bawb sy'n mynd ag anifeiliaid fod yn wyliadwrus o'r clefyd

Mae'r feirws yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybed yn pigo da byw heintiedig, yn hytrach na chael ei ledaenu'n uniongyrchol o anifail i anifail.

Mae'r symptomau'n amrywiol gan gynnwys:

  • rhannau o wyneb yr anifail yn chwyddo (y gwefusau a'r tafod, fel arfer);

  • syrthni;

  • hylif yn llifo o'r trwyn a'r geg;

  • problemau anadlu;

  • tymheredd uwch;

  • erthylu.

Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y Sioe na fydd defaid, gwartheg na geifr yn cael teithio drwy unrhyw barth tafod glas i gyrraedd Llanelwedd.

Ar y pryd dywedodd trefnwyr y Sioe Frenhinol na fu'n "benderfyniad hawdd", ond eu bod wedi ei wneud er mwyn "diogelu ein harddangoswyr a'r digwyddiad".

Mae prif weithredwr y Sioe, Aled Rhys Jones nawr am bwysleisio eto i bawb fod ar eu gwyliadwraeth ac yn dweud os ydych yn ansicr o gwbl i "siarad â'ch milfeddyg".

John Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Owen yn hyderus eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir

Mae cyflwyno rhybuddion am symptomau a chyhoeddi gwaharddiadau'n siom i'r trefnwyr, ac mae disgwyl y bydd tua 40% yn llai o wartheg yn Llanelwedd eleni.

Ond mae John Owen, llywydd newydd y Sioe yn dweud fod yn rhaid dilyn y wyddoniaeth a'r cyngor milfeddygol: "Dwi'n llwyr gredu, fel cymdeithas, ein bod ni wedi ymateb yn y ffordd cywir.

"Yn amlwg ry' ni wedi cael lot fawr o drafodaeth a galwadau ffôn.

"Ond dwi yn dweud wrth bobl am droi hyn ar ei ben, a holi be' fydde wedi digwydd os bydde ni wedi caniatau i bawb ddwad a'n bod ni wedi cael achos yn ystod yr wythnos? Lle fase ni wedyn?"

Cyn gwahardd arddangoswyr da byw o Loegr a'r Alban roedd y trefnwyr wedi ystyried opsiynau fel profi da byw am y clefyd cyn dod i Lanelwedd.

Ond, fe benderfynon nhw bod hynny ddim yn ymarferol gan ddweud y gallai "anifail gael ei brofi heddiw a phigo'r haint fory".

Mae ymateb rhai i'r penderfyniad wedi bod yn galonogol yn ôl Aled Rhys Jones, yn enwedig yn yr adran ddefaid.

Dywedodd: "Mae'n dda i weld ymateb arbennig gan yr arddangoswyr o Gymru.

"Mae nifer y defaid os edrychwn ni lawr trwy'r bridiau cynhenid, mae'r niferoedd wedi cynyddu", ychwanegodd.

Fe fydd y Sioe eleni yn Llanelwedd yn wahanol iawn i'r arfer i'r arddangoswyr a'r ymwelwyr.

Ond mae'r trefnwyr yn hyderus mai blaenoriaethu diogelu'r diwydiant a'r bobl sy'n cystadlu, ynghyd â pheidio ag ychwanegu at ledaeniad y clefyd, yw'r penderfyniad cywir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig