Pryder y byddai datblygiad tai yn gwaethygu llygredd i'r môr

Byddai'r datblygiad yn cael ei adeiladu ar y caeau yma, yn edrych dros Aberllydan
- Cyhoeddwyd
Mae pryder y gallai cynlluniau i adeiladu 76 o gartrefi newydd yn Sir Benfro waethygu llygredd ym Mae Sant Ffraid, yn ôl gwrthwynebwyr.
Mae cwmni Mill Bay am godi fflatiau a thai ger Marine Parade yn Aberllydan, gyda rhyw 34% yn dai fforddiadwy.
Mae nofwyr yn cwyno bod carthion yn cael eu gollwng i afonydd ac yna i'r môr, sy'n eu hatal rhag nofio yn y bae ger traeth Aberllydan.
Yn ôl cwmni Mill Bay, mi fyddan nhw yn ariannu gwelliannau i garthffosiaeth yn yr ardal.
Mae ymgynghoriad wedi ei gynnal gan gwmni Asbri Planning ar ran y cwmni, cyn bod cais cynllunio ffurfiol yn cael ei gyflwyno i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Kate Freeman o'r farn bod angen gwella'r gwaith trin carthion cyn adeiladu mwy o dai
Mae Kate Freeman yn bryderus am effaith y tai ychwanegol ar ansawdd dŵr.
"Mae nofio yn boblogaidd iawn yma, ond yn aml mae yna broblem gyda charthion - yn enwedig pan mae'r tywydd yn wael," meddai.
"Mae angen mwy o dai ond mae angen gwella y gwaith trin carthion cyn bod hynny yn digwydd."
Mae Kate Evans hefyd yn nofio yn lleol.
"Mae angen tai ar bobl yr ardal ond mae'n rhaid i gwmnïau dŵr gymryd cyfrifoldeb," meddai.
"Mae'n wrth-resymegol, os nad yw'n ddigon da yn barod, i godi mwy o dai."

Mae Kate Evans yn cydnabod yr angen am fwy o dai, ond yn dweud nad yw'n gwneud synnwyr adeiladu mwy heb wella'r isadeiledd carthion
Mae data diweddaraf Dŵr Cymru yn dangos bod y gwaith trin carthion lleol wedi rhyddhau carthffosiaeth am bron i 602 awr yn 2023, ar 47 achlysur.
Cafodd carthion eu rhyddhau hefyd o safle De Aberllydan am gyfanswm o 53 awr ar 21 achlysur yn yr un flwyddyn.

"Os oes yna fwy o dai, yna mae'n rhaid ehangu'r gallu i drin carthion," medd Andy Drumm
Yn ôl yr ymgynghorydd amgylcheddol Andy Drumm, sy'n byw yn Aberllydan, mae angen mwy o fuddsoddiad.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae yna fwy o dai wedi cael eu codi yn y pentref, ond dyw'r gwaith trin carthion ddim wedi ehangu," meddai.
"Mae yna fwy a fwy o garthion yn cael eu rhyddhau i'r afon, sydd yn llifo i'r môr.
"Os oes yna fwy o dai, yna mae'n rhaid ehangu'r gallu i drin carthion."
Mewn datganiad, dywedodd Mill Bay y byddai yna fesurau i "leihau unrhyw bwysau ychwanegol ar y system garthffosiaeth" ac y byddai'r cwmni'n ariannu gwelliannau i'r isadeiledd carthffosiaeth.

Byddai Mill Bay yn casglu dŵr ffo o'r safle newydd mewn pwll ger gwarchodfa natur leol o'r enw 'Slash Pond'
Mae Mr Drumm hefyd wedi codi pryderon am gynlluniau gan y cwmni i gasglu dŵr ffo o'r safle newydd mewn pwll ger gwarchodfa natur leol o'r enw 'Slash Pond'.
"Mae'n gynefin pwysig iawn i fywyd gwyllt," meddai Mr Drumm.
"Maen nhw am glirio tir er mwyn creu pwll fyddai'n derbyn dŵr ffo o'r ystâd newydd, ac yna byddai'r dŵr yn draenio i mewn i'r Slash Pond.
"Does yna ddim astudiaethau wedi cael eu cynnal ar effaith hyn."
Dywedodd cwmni Mill Bay y byddai'r dŵr yn y pwll yn cael ei "hidlo'n naturiol" ac y byddai'n "lleihau'r perygl o lifogydd pellach".

Tra'n cefnogi'r angen am dai, dyw Nick Neumann ddim eisiau gweld hynny ar draul yr amgylchedd
Mae'r cynghorydd sir lleol, Nick Neumann yn dweud ei fod yn "llwyr gefnogol" i'r syniad o dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol, ond ei bod yn bwysig nad oes "effaith andwyol ar gymunedau lleol, y tirlun a'r amgylchedd".
"Rwy'n annog Dŵr Cymru i ganolbwyntio ar y mater hwn a buddsoddi mwy," meddai.
Dywedodd Dŵr Cymru nad oedd wedi bod yn rhan o ymgynghoriad ffurfiol eto, ond eu bod wedi cynnig "cyngor" i'r asiant ar gyfer Mill Bay.
Ychwanegodd Dŵr Cymru bod angen cynnal "asesiad model hydrolig", ond bod y gwaith trin carthion lleol yn medru ymdopi gyda'r garthffosiaeth o'r datblygiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2024