Efydd i dair Cymraes ar y trac seiclo ym Mharis

SeicloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tair Cymraes yn rhan o'r tîm o bedwar i Brydain

  • Cyhoeddwyd

Mae tair Cymraes wedi ennill medal efydd i Brydain yn y Gemau Olympaidd ar y trac seiclo nos Fercher.

Fe wnaeth Elinor Barker, Anna Morris a Jess Roberts - ynghyd â Josie Knight - drechu'r Eidal er mwyn sicrhau'r trydydd safle yn y ras cwrso tîm.

Yr Unol Daleithiau enillodd aur, tra mai Seland Newydd sicrhaodd yr arian.

Roedd Barker eisoes wedi ennill aur yng ngemau Rio 2016 ac arian yn Tokyo, tra mai dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf i Morris a Roberts.

Fe wnaeth Emma Finucane o Gaerfyrddin ennill aur i Brydain ddydd Llun yn y ras wib i dimau.

Bydd hi'n ceisio sicrhau medal arall ddydd Iau, a hynny yng nghystadleuaeth y Keirin.

Pynciau cysylltiedig