Reform angen cryn dipyn o ail-adeiladu momentwm - Richard Wyn Jones

Roedd yr Athro Richard Wyn Jones yn siarad ar bodlediad Gwleidydda y BBC
- Cyhoeddwyd
Mae gan blaid Reform UK gryn dipyn o waith i "ail-adeiladu momentwm" ar ôl dod yn ail yn isetholiad Caerffili, yn ôl arbenigwr blaenllaw.
Ar bodlediad diweddaraf Gwleidydda BBC Radio Cymru, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones bod hynny oherwydd methiant y blaid i "reoli disgwyliadau".
Fe gipiodd Plaid Cymru'r sedd oddi ar y blaid Lafur gyda 47% o'r bleidlais, tra bod Reform UK yn ail gyda 36%.
Yn ôl Cai Parry-Jones o Reform UK, mae angen ystyried datblygiad y blaid ers "rhai blynyddoedd yn ôl".
Wrth drafod canlyniad yr isetholiad yng Nghaerffili ar 23 Hydref, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones bod canlyniad oedd yn "wrthrychol yn dda iawn" i Reform, wedi troi'n "siom" gan eu bod wedi methu â rheoli disgwyliadau.
"Dwi wedi bod yn feirniadol iawn o Blaid Cymru dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd eu bod nhw wedi bod yn gwbl analluog i reoli disgwyliadau," meddai.
"Tro hwn, fe welsom ni Plaid Cymru yn gwneud job wych wrth reoli disgwyliadau. Cadw'r neges yn gyson.
"Yn achos Reform, fe ddaru nhw wneud yr union yr un camgymeriad a 'da ni wedi gweld gan Plaid Cymru yn y diwedd."
Ychwanegodd bod gan Reform UK "gryn dipyn o waith ail-adeiladu momentwm i'w wneud".
"A hynny yn union oherwydd eu bod nhw ddim wedi llwyddo i reoli disgwyliadau cyn mynd mewn i'r isetholiad.
"O'dd y ffaith eu bod nhw ddim wedi rheoli disgwyliadau just yn ffôl dwi'n meddwl."

Mae Cai Parry-Jones yn credu mai Reform yw'r blaid fwyaf trefnus ar hyn o bryd
Daeth ymgeisydd Reform UK, Llŷr Powell yn ail yn y bleidlais yng Nghaerffili, 3,848 y tu ôl i Lindsay Whittle o Blaid Cymru.
Roedd Llafur yn drydydd gydag 11% o'r bleidlais.
Wrth ymateb ar y podlediad, dywedodd Cai Parry-Jones o Reform UK ei bod hi'n bwysig ystyried twf diweddar y blaid.
"Mae angen yn gynta' meddwl am lle oedden ni fel plaid rhai blynyddoedd yn ôl," meddai.
"'Oedden ni efo rhai pleidiau yn dweud 'peidiwch â votio am Reform, does dim pwynt votio am Reform achos 'neith Reform ddim curo, felly votiwch amdanom ni'.
"'Da ni'n trio cael gwared ar y stigma yna a dwi'n meddwl ein bod ni wedi bod reit effeithiol efo hynny yng Nghaerffili."
Ar ôl isetholiad Caerffili, dywedodd ymgeisydd Reform UK, Llŷr Powell bod ei blaid yn mynd i adeiladu ar y canlyniad
Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod Reform bellach y blaid fwyaf trefnus o'r holl bleidiau.
"I fynd yn ôl rhai blynyddoedd pan oedden ni'n scrappy start-up, mi oedd pobl yn dweud 'wel ia mae Reform efo lot o bwyntiau da ond ydyn nhw ddigon proffesiynol i wneud hyn?'
"Wel, dwi'n meddwl ein bod ni wedi profi efo sut 'da ni wedi rhedeg campaign ni yn Caerffili, 'da ni probably y mwya' organised o'r pleidiau i gyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024

- Cyhoeddwyd5 Mehefin

- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2024
