Bron yn amhosib cynnal y Senedd heb basio'r gyllideb - Llywydd

Elin JonesFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gallai talu cyflogau ASau fod yn broblem os nad yw'r gyllideb yn pasio, meddai Elin Jones

  • Cyhoeddwyd

Byddai hi "bron yn amhosibl" i gadw'r Senedd i fynd pe bai Llywodraeth Cymru yn methu â phasio ei chyllideb, yn ôl Llywydd y sefydliad.

Awgrymodd Elin Jones y gallai talu cyflogau Aelodau'r Senedd fod yn broblem pe bai hynny'n digwydd.

Mae cwestiynau ar hyn o bryd ynghylch sut y byddai gweinidogion yn pasio'u cynlluniau gwario pe bai Llafur yn colli'r is-etholiad hollbwysig yng Nghaerffili yn ddiweddarach fis yma.

Pe bai Llywodraeth Cymru'n methu â phasio'i chyllideb, yna byddai hynny'n arwain at doriad i gyllideb y Senedd ei hun.

Mae Comisiwn y Senedd, sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, wedi dweud eu bod angen £19m yn ychwanegol i'w gyllideb – cynnydd o 21% - ar gyfer 2026-27.

Mae hynny yn bennaf er mwyn talu cyflogau a chostau'r 36 o aelodau ychwanegol fydd yn cael eu hethol i'r Senedd ym mis Mai.

Os ydy Aelodau'r Senedd yn cymeradwyo'r cynlluniau byddai cyllideb y Senedd yn cael ei gynnwys yng nghynnig cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, fyddai wedyn angen cefnogaeth mwyafrif o Aelodau'r Senedd (ASau).

Pe bai'r llywodraeth yn methu ag ennill y bleidlais yna, byddai cyllideb Comisiwn y Senedd yn cael ei dorri i 95% o werth ei gyllideb yn 2025-26.

Byddai hynny'n gadael y comisiwn gyda £79.6m yn lle'r £102.3m mae'n ceisio'i sicrhau i dalu am y Senedd mwy o faint a'r costau ychwanegol fydd yn gysylltiedig â'r etholiad ei hun.

adeilad y SeneddFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer yr Aelodau o Senedd Cymru yn cynyddu o 60 i 96 ym mis Mai

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi cydnabod yn barod y gallai hi fod yn "anodd" i'w llywodraeth basio'i chyllideb os nad ydy Llafur yn ennill yr is-etholiad yng Nghaerffili - fyddai'n gadael y blaid ddwy bleidlais yn brin yn y Senedd.

Yn wynebu cwestiynau gan bwyllgor cyllid y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Elin Jones efallai y byddai'n "bosib ymdopi" gyda chyllideb yn werth 95% o gyllideb y flwyddyn bresennol ar drothwy blwyddyn gyffredin.

Ond o ystyried y cynnydd sylweddol mae'r comisiwn wedi gofyn amdano ar gyfer y flwyddyn "eithriadol" sydd i ddod, byddai'r toriad yn creu sefyllfa "bron yn amhosib", meddai.

"Byddai hi mor anodd meddwl am beth allai hynny ei olygu i staff y comisiwn, nifer y staff, ac os feiddia'i awgrymu talu cyflogau Aelodau'r Senedd."

Mae cynlluniau gwario'r comisiwn ar gyfer 2026-27 yn cymryd yn ganiataol y bydd ASau yn cael codiad cyflog o 5% fyddai'n cynyddu cyflog AS cyffredin i £80,199.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.