Angen £19m arall ar gyllideb y Senedd yn sgil cynyddu'r aelodau

Bydd nifer yr Aelodau o Senedd Cymru yn cynyddu o 60 i 96 ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Bydd angen cynnydd o bron i £19m i gyllideb y Senedd wedi'r etholiad yn sgil cynnydd yn nifer yr aelodau, yn ôl y corff sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd.
Bydd nifer yr Aelodau o Senedd Cymru (ASau) yn cynyddu o 60 i 96 ym mis Mai.
Mae cynlluniau gwario Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27 yn cynnwys £12.7m i dalu am gyflogau a chostau'n gysylltiedig â'r 36 AS ychwanegol a'u staff - gan gyfrannu at godiad o 21% i'r gyllideb gyfan o £83.8m yn 2025-26 i £102.7m yn 2026-27.
Bydd pwyllgor cyllid y Senedd yn craffu ar y manylion.

Dywedodd Elin Jones AS wrth y Senedd bod y gost i'r trethdalwr wedi codi i £4.22m
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ddydd Iau, ar ôl i Lywydd y Senedd ddweud wrth ASau ddydd Mercher bod y gost o addasu siambr yr adeilad i greu lle i'r aelodau ychwanegol wedi cynyddu o 30%.
Yn ôl ymateb i gais rhyddid gwybodaeth o fis Mai, yr amcangyfrif ar y pryd oedd y byddai'r gwaith yn costio £3.25m.
Ond, dywedodd Ms Jones wrth y Senedd bod y gost i'r trethdalwr wedi codi i £4.22m.
"Bydd y gost yma'n cael ei hariannu'n llawn o gyllideb diwygio seneddol y flwyddyn gyfredol yma," meddai.
Comisiwn y Senedd sy'n gyfrifol am redeg y Senedd o ddydd i ddydd, gan gynnwys cynnal swyddfeydd y gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn ogystal âg adeilad y Senedd ei hun.
Mae'r comisiwn hefyd yn talu am gyflogau'r ASau a'u staff, gan gynnwys unrhyw gostau ychwanegol.
Daw ei gyllid o Lywodraeth y DU drwy Gronfa Gyfunol Cymru, sydd hefyd yn ariannu Llywodraeth Cymru.

Cafodd y 'Cynulliad' gynt ei ailenwi i fod yn 'Senedd' Cymru ym mis Mai 2020
Mae'r gyllideb ddrafft yn neilltuo £33.9m ar gyfer cyflogau a chostau ASau a'u staff.
Mae hynny'n cymryd yn ganiataol bydd ASau'n cael codiad cyflog o 5% - fyddai'n cynyddu cyflog AS cyffredin i £80,199.
Mae £4.5m wedi ei neilltuo ar gyfer costau'n gysylltiedig â'r etholiad ei hun hefyd.
Dywed y comisiwn y bydd yr arian yma'n helpu i dalu costau cau swyddfa ASau sydd wedi dewis peidio sefyll eto, neu'n colli eu seddi, yn ogystal â thaliadau diswyddo staff cynorthwyol.
Bydd hefyd yn talu am offer i ASau newydd ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r newidiadau sy'n dod i'r Senedd.

Y diweddar Hefin David oedd yn gyfrifol am lawer o'r gwaith o baratoi'r gyllideb cyn ei farwolaeth
Mae'r gyllideb yn cynnwys £3.1m ar gyfer cynllun Bae 32 fydd yn penderfynu ble y bydd ASau a staff y Senedd yn gweithio pan fydd y brydles ar yr adeilad presennol yn dod i ben yn 2032.
Mae'r opsiynau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys prynu neu ymestyn y brydles ar yr adeilad presennol a chodi adeilad newydd.
Yn ôl y comisiwn "yr opsiwn a ffefrir fydd yr ateb sy'n bodloni gofynion y comisiwn orau ac sy'n cynnig y gwerth gorau am arian i'r trethdalwr".
Mae disgwyl penderfyniad yn gynnar yn 2026.
Yr AS Llafur Hefin David, fu farw'n sydyn ym mis Awst, oedd yn gyfrifol am lawer o'r gwaith o baratoi'r gyllideb yn rhinwedd ei swydd fel y comisiynydd cyllid.
Cafodd ei ddisgrifio yn nogfen y gyllideb fel un oedd "yn wybodus, yn gefnogol ac yn angerddol am waith y comisiwn ac am sicrhau'r adnoddau sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaethau seneddol rhagorol i Aelodau o'r Senedd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Mai