Toriadau archifdy Bangor yn 'ergyd drom i'n diwylliant'

Dywedodd Myrddin ap Dafydd bod toriadau posib i'r archifdy yn "ergyd i bopeth sy'n bwysig i'n treftadaeth Gymraeg ni"
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i ostwng nifer y staff sy'n gweithio yn adran archifau Prifysgol Bangor yn "ergyd drom iawn i'r diwylliant a'r dreftadaeth Gymraeg a Chymreig", yn ôl cyn-archdderwydd.
Mae nifer wedi mynegi pryderon am ddyfodol adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn sgil cynlluniau posib i ostwng nifer y staff yno o bedwar i un.
Mae'r brifysgol wedi cadarnhau bod yr adran yn rhan o ymgynghoriad ehangach i geisio arbed tua £5.3m, sy'n golygu colli tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.
Mae dros 1,800 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw ar y brifysgol i achub yr archifdy rhag y toriadau.
Dywedodd y brifysgol mai cynigion yw'r cynlluniau ar hyn o bryd, a bod cyfnod ymgynghori'n parhau.
'Ergyd arall i'n diwylliant'
Yn ôl y bardd, awdur a chyn-archdderwydd Myrddin ap Dafydd, mae toriadau posib i'r archifdy ym Mhrifysgol Bangor yn "bryderus iawn – mae'n golygu colli swyddi fydd yn torri ar y gwasanaeth".
"Mae'n ergyd arall i'n diwylliant ac i bopeth sy'n bwysig i'n treftadaeth Gymraeg ni."
Ychwanegodd fod yr archif yn cynnwys casgliadau gwerthfawr fel papurau Hedd Wyn, cylchgronau cynnar yr Urdd, ac ymchwil fanwl am enwau lleoedd Cymru.

Mi fyddai colli'r archifdy yn "golled enfawr," medd Alex Ioannou
Mae deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun wedi'i sefydlu gan Alex Ioannou, myfyriwr doethuriaeth sydd wedi gweithio fel intern yn yr archifdy.
"Rwyf ar hyn o bryd yn archwilio'r berthynas rhwng pobl gogledd-orllewin Cymru a'i thirwedd," meddai.
"Drwy'r ymchwil yn archifdy Bangor rwy'n gallu cwblhau fy mhrosiect.
"Mae Prifysgol Bangor wedi ei hymddiried i ddal casgliadau Ystâd Penrhyn, sy'n dros 700 mlynedd o ddogfennau.
"Os bydd toriadau, efallai na fydd modd cadw'r dogfennau. Mi fyddai'n golled enfawr."

"Mae'r archif yn hollbwysig ar gyfer myfyrwyr," meddai Mallt Lewis
Mae Gerwyn Williams, Athro Emeritws yn Ysgol y Gymraeg, sy'n defnyddio'r archif ers blynyddoedd, hefyd wedi mynegi pryder.
"Mae'r cynnig i leihau nifer y staff o bedwar i un yn peri pryder gwirioneddol," meddai.
"Dyma gasgliad unigryw a chyfoethog sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.
"Cyhoeddais gofiant i Cynan yn 2020 gan ddefnyddio papurau'r bardd a gedwir yn yr adran – llyfr na fyddwn erioed wedi gallu ei gwblhau fel arall.
"Mae'n anodd dychmygu dim ond un aelod o staff yn gofalu am y casgliadau. Go brin y gallai wneud gwaith datblygol o bwys."

"Dwi'n credu'n gryf y dylai pob ymdrech gael ei wneud i sicrhau nad yw'r toriadau'n effeithio ar yr archifdy," medd Huw Williams
Mae myfyrwyr hanes hefyd wedi siarad am bwysigrwydd yr archif i'w hastudiaethau.
"Dwi'n credu yn gryf y dylai pob ymdrech gael ei wneud i sicrhau nad yw'r toriadau'n effeithio ar yr archifdy," meddai Huw Williams, myfyriwr trydedd flwyddyn.
"Mae'r archif yn llawn o ffynonellau hanesyddol unigryw, ac mae'r staff yn hanfodol i'w gwneud nhw'n hygyrch."
"Dwi'n really poeni," meddai Elin Rowlands, myfyrwraig sydd ar ddiwedd ei hail flwyddyn.
"Dwi wedi dibynnu ar yr archif ers dwy flynedd ac rŵan dwi'n dechrau meddwl am fy nhraethawd hir, mae'r archifdy yn hanfodol i hwnnw."
"Mae lleihau staff yn sicr yn mynd i greu her," meddai Mallt Lewis, myfyriwr blwyddyn gyntaf.
"Mae angen pobl i gynorthwyo ymchwilwyr a chatalogio'r dogfennau. Mae'r archif yn hollbwysig ar gyfer myfyrwyr ac ar gyfer diogelu hanes gogledd Cymru."

Dywedodd Elin Rowlands fod yr archif yn "llawn o ffynonellau hanesyddol unigryw"
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod y brifysgol wedi lansio ymgynghoriad ynghylch newidiadau i leihau costau.
"Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ac mae'r targed arbedion bellach yn tua £5.3m.
"Mae'r Archifau a'r Casgliadau Arbennig yn rhan o'r ymgynghoriad, ond dim ond cynigion yw'r rhain ar hyn o bryd ac rydym yn ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024