Capten Cymru, Aaron Ramsey, i ymuno â thîm ym Mecsico

Dim ond 24 o gemau mae Ramsey wedi gallu chwarae i Gaerdydd ers ail-ymuno â'r clwb dwy flynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae capten Cymru, Aaron Ramsey, wedi arwyddo cytundeb gyda thîm pêl-droed ym Mecsico, Club Universidad Nacional - Pumas UNAM - yn ôl asiant newyddion PA.
Ramsey fydd y chwaraewr cyntaf â phroffil uchel o Brydain i chwarae yng nghynghrair Mecsico, os bydd y symud yn digwydd.
Cafodd Ramsey - oedd dan gytundeb fel chwaraewr tan yr Haf - ei benodi yn rheolwr dros dro i Gaerdydd ar ddiwedd y tymor diwethaf yn dilyn ymadawiad Omer Riza.
Fe fethodd y chwaraewr 34 oed atal Caerdydd rhag disgyn i'r drydedd haen, ond roedd 'na adroddiadau y byddai'n cymryd yr awenau dros y tîm yn llawn amser yr haf hwn.
Mae Ramsey yn rhannu'r un asiant â rheolwr Pumas, Efrain Juarez.
- Cyhoeddwyd18 Mai
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Ebrill
Mae Ramsey eisoes wedi nodi'n glir ei fod eisiau parhau gyda'i yrfa o chwarae pêl-droed ac arwain Cymru yng nghwpan y byd haf nesaf.
Fe ail-ymunodd Ramsey â Chaerdydd ddwy flynedd yn ôl yn dilyn cyfnodau llwyddiannus gydag Arsenal, Juventus yn yr Eidal a Nice yn Ffrainc.
Byddai Ramsey wedi gobeithio cyfrannu mwy ar y cae yn ystod ei ail gyfnod gyda'r clwb - ond mae anafiadau wedi ei gyfyngu i lond llaw o ymddangosiadau.
Fe wnaeth y Pumas orffen yn chweched yn nhabl Mecsico 2024-25 a chymhwyso ar gyfer Cwpan Pencampwyr Concacf.