Cymeradwyo cynllun am arena £150m ym Mae Caerdydd

Mae disgwyl i'r arena agor yn 2028
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i arena fydd yn dal hyd at 16,500 o bobl i agor ym Mae Caerdydd yn 2028.
Daw wedi i'r grŵp sydd tu ôl i'r cynlluniau gyhoeddi eu bod wedi cwblhau'r broses ariannol, sy'n galluogi i'r gwaith adeiladu gychwyn.
Yr arena dan-do gwerth £150m yw'r cam gyntaf o brosiect ailddatblygu yn yr ardal, fydd hefyd yn cynnwys tai newydd, swyddfeydd, cyfleusterau hamdden a gwesty.
Fe wnaeth consortiwm a gafodd ei benodi i gwblhau'r prosiect gyhoeddi ddydd Iau eu bod nhw wedi "cwblhau'r agweddau ariannol".
Yn ôl y grŵp - sy'n cynnwys cwmni Live Nation a datblygwyr Robertson Property - bydd yr arena yn creu 1,000 o swyddi ac yn denu dros filiwn o ymwelwyr yn flynyddol.

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas yn dweud bydd yr arena newydd yn "trawsnewid economi ymwelwyr" y ddinas
Bydd y safle yn cael ei adeiladu yn lle Canolfan y Ddraig Goch yng Nglanfa'r Iwerydd.
Fe fydd yr ailddatblygid cyfan yn ymestyn o ardal Canolfan y Mileniwm, i lawr Rhodfa Lloyd George yn Nhre-biwt, ac ar draws i ble mae Neuadd y Sir.
Gobaith Cyngor Caerdydd yw y bydd yr arena newydd yn denu artistiaid mawr i Gymru ac yn hybu'r economi leol.
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas y bydd yr arena yn "trawsnewid economi ymwelwyr Caerdydd mewn ffordd sydd heb ddigwydd ers i'r stadiwm agor yn 1999".
"Dyw e ddim jest am y brics a mortar, mae am osod sylfaen a chyfoethogi statws Caerdydd fel safle bywiog a dynamig ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant."