Cyngherddau mawr Caerdydd: Oes angen camau i warchod y stoc dai?

Rhan o'r dorf ar eu ffordd i Stadiwm Principality ar gyfer cyngerdd Oasis ddechrau Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Ar ôl haf prysur o gerddoriaeth yng Nghaerdydd, mae 'na rybudd am effaith bosib poblogrwydd cynyddol prifddinas Cymru ar y stoc dai.
Ers dechrau cyfnod cyngherddau'r haf nôl ym mis Mehefin, mae ymwelwyr wedi heidio yn eu miloedd i wylio sêr fel Oasis, Stereophonics, Will Smith a Stevie Wonder mewn amryw leoliadau ar draws y ddinas.
Mae rhai dinasoedd Ewropeaidd eisoes wedi penderfynu cyfyngu ar nifer y trwyddedau i bobl droi tai yn lety gwyliau yn sgil pryderon nad oes digon o dai ar gael i bobl leol.
Mae galw nawr am wneud yr un peth yng Ngaherdydd, cyn i'r broblem waethygu.
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Ebrill
"Gyda'r haf 'dan ni newydd gael yng Nghaerdydd, mae Caerdydd yn codi fel safle, fel rhywle i ddod ar eich gwyliau," dywedodd yr ymgynghorydd tai, Sioned Hughes.
"Felly dwi'n credu dyle bo' ni'n edrych ar faint o drwyddedau sy'n cael eu rhoi mewn rhai ardaloedd, a falle mynd o flaen y gad, ac yn osgoi'r broblem yn hytrach na thrio ymateb i'r broblem, cyn bo' chi wedyn yn gorfod ailadeiladu cymunedau a bod cost rhenti yn mynd mor uchel."

Mae'n gwestiwn, medd yr arbenigwr tai Sioned Hughes, a yw'n bryd i Gaerdydd ddilyn esiampl dinasoedd fel Barcelona a chyfyngu ar yr hawl i droi tŷ'n lety gwyliau
Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd mae gyda ni rhyw 3,500 o dai ar y farchnad rhentu preifat, ond mae gyda ni dros 7,000 o bobl yn aros i fynd ar y rhestr tai cymdeithasol.
"Felly mae'r gwahaniaeth rhwng be' allan nhw fforddio, a be' sydd ar gael yn mynd yn fwy fwy, a dyna mae mwy o Airbnbs yn 'neud, yw codi costau."
Mae Cyngor Caerdydd wedi cael cais am eu hymateb.

Roedd miloedd yn bresennol ar gaeau Blackweir i weld perfformiadau gan artistiaid byd-enwog fel Stevie Wonder ac Alanis Morrissette
Eleni, am y tro cyntaf, fe gafodd cyngherddau eu cynnal yng nghaeau Blackweir, y tu ôl i'r castell - datblygiad oedd yn golygu bod modd denu mwy fyth o artistiaid i Gaerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd wedi gwrthod ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth diweddar ynglŷn â faint o arian gafodd ei godi o gynnal y cyngerddau yn Blackweir, gan ddadlau bod yr wybodaeth yn rhy sensitif yn fasnachol.
Mae ehangu'r arlwy yn poeni rhai trigolion lleol.

Dywed Dr Paul Barrett bod sawl un yn cwestiynu'r angen i gynnal cyngherddau ar gaeau Blackweir
"Dwi'n eitha siomedig, i ddweud y gwir," dywedodd Dr Paul Barrett, Cadeirydd Ffrindiau Parc Bute.
"Maen nhw'n cynnal cyngherddau yn y castell, yn Coopers Field, ac yn [stadiwm] y Principality, ac yn y Bae, a dwi ddim yn deall pam bod angen iddyn nhw gynnal cyngherddau yn caeau Blackweir.
"Mae'r ffaith bo' nhw wedi 'neud hyn yn siom mawr i ni.
"Dwi'n credu bod lot o bobl sy'n byw o gwmpas y lle yn siomedig. Roedd y traffig yn ofnadwy, a nawr ni'n ffeindio'n hunain yn amddiffyn y parc yn erbyn y cyngor."
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf
Er y feirniadaeth, does dim dwywaith bod y cyngherddau wedi denu miloedd o bobl i'r brifddinas.
Roedd disgwyl y byddai dros 900,000 o bobl yn mynychu dros 30 o gyngherddau mawr mewn amrywiol leoliadau ar draws y ddinas dros yr haf ac mae effaith hynny eisoes i'w deimlo.

Mae sawl busnes wedi gwneud yn dda iawn dros yr haf yn sgil y cyngherddau, medd Nia Wood-Gaiger, o'r grŵp Caerdydd am Byth
Dywedodd Nia Wood-Gaiger, o'r grŵp Caerdydd am Byth, sy'n ceisio dabtlygu canol Caerdydd: "Ni 'di clywed o busnesau ni, sy'n rhan o Caerdydd am Byth, bod e 'di bod yn haf really dda.
"Mae rhai ohonyn nhw 'di cael biti pedwar gwaith y faint o'r busnes ma'n nhw fel arfer yn cael, felly mae hwnna'n dangos maintais ni 'di cael o gynnal y digwyddiadau yma.
"'Dyn nhw ddim just yn llefydd fel bars, llefydd bwyta, ond mae gwestai, a hefyd y busnesau twristiaeth wedi elwa o'r digwyddiadau mawr yma."

Mae siop Gareth Owens wedi bod yn brysur yn y misoedd diwethaf hefyd
"Mae 'di bod yn good, mae 'di bod yn consistent - ar y cyfan haf dda," dywedodd Gareth Owens, perchennog y siop gwerthu peis, Donald's.
"Mae'n dda i weld nawr - mwy o bobl sy'n chwarae fan hyn, mwy o bobl bydd isie dod.
"Neithon ni weld Oasis a Stereophonics yn dod, ond yn y castell hefyd - mae lot o bands o seis yn chwarae 'ma."

Roedd diddordeb arbennig yng nghyngherddau Oasis ddechrau Gorffennaf gan mai yng Nghaerdydd oedd y perfformiadau cyntaf mewn rhyw chwarter canrif
Mae'n anodd pwyso a mesur union effaith cynnal yr holl gyngherddau ar Gaerdydd ar hyn o bryd.
Yn ôl y cyngor, maen nhw'n dal yn casglu'r holl ffigyrau ac yn dadansoddi'r data, wedi i'r gyngerdd olaf gael ei chynnal nos Lun.
Ond y gobaith yw gallu rhyddhau mwy o ffigyrau am union werth y cyngerddau mawr, cyn hir.