Mwy nag erioed yn derbyn addysg y tu allan i'r brif ffrwd

Disgybl yn gwneud gwaith ysgol Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae 2,279 o ddisgyblion Cymru yn derbyn eu haddysg y tu allan i ysgolion prif ffrwd

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y disgyblion sy'n derbyn eu haddysg y tu allan i ysgolion prif ffrwd, gan gynnwys mewn unedau cyfeirio, wedi codi i'r lefel uchaf erioed yng Nghymru.

Mae cyfradd y disgyblion sy'n derbyn eu haddysg y tu hwnt i'r ysgol hefyd ar ei uchaf erioed, yn ôl ffigyrau blynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae'r duedd wedi cynyddu yn ystod y 14 blynedd ddiwethaf, ond credir bod mwy o atgyfeiriadau ynghylch anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl disgyblion ers cyfnod Covid-19.

Mae 2,279 o ddisgyblion yn cael eu dysgu y tu allan i'r brif ffrwd, sef y nifer uchaf erioed - mwy na dwbl y nifer yn 2009-10, a 28% yn uwch na'r ganran cyn y pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, dan yr amgylchiadau hynny, bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda theuluoedd er mwyn sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth sydd ei angen.

15 sir wedi gweld cynnydd

Ym Merthyr Tudful gwelwyd y gyfradd ar ei huchaf, lle'r oedd wedi codi i 10.4 ym mhob 1,000 o ddisgyblion.

Roedd y cyfraddau hefyd yn uchel yn Sir Benfro a Wrecsam.

Wrth edrych ar holl siroedd Cymru, mae 15 o'r 22 sir wedi gweld cynnydd yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod y bwlch wedi cynyddu rhwng y disgyblion o ardaloedd breintiedig a difreintiedig.

Roedd cyfradd y rheiny sy'n derbyn eu haddysg y tu allan i'r brif ffrwd yn fwy na 11 i bob 1,000 o ddisgyblion sy'n gymwys i brydiau ysgol am ddim, o'i gymharu ag ond tri i bob 1,000 o'r rheiny sydd ddim yn gymwys.

Mae'r cynnydd mwyaf wedi bod ymysg pobl rhwng 13 a 15 oed.

Am y tro cyntaf erioed, mae'r nifer sydd wedi cael cynnig lle mewn unedau cyfeirio wedi mynd heibio 1,000 o ddisgyblion.

Mae'r ffigwr hwn tua 46% o'r holl blant sy'n derbyn eu haddysg y tu allan i'r brif ffrwd, er ychydig yn is na'r flwyddyn flaenorol.

Er hyn, mae twf wedi bod yn nifer y disgyblion sy'n derbyn addysg gan diwtoriaid.

Mae nifer helaeth o'r rheiny sy'n derbyn eu haddysg y tu allan i'r brif ffrwd gydag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion arbennig.

'Canran fechan iawn'

Ar Dros Frecwast fore Mercher bu Julian Jones - cyn-bennaeth ac yn ymgynghorydd addysg gyda'r asiantaeth athrawon cyflenwi CyfleDysgu - fu'n egluro beth yw unedau cyfeirio disgyblion.

"Mae unedau cyfeirio yn fannau arbenigol sy'n delio gyda disgyblion sydd â thueddiad i fod yn wrthgymdeithasol mewn dosbarth arferol mewn ysgol.

"Dyw'r disgyblion yma ddim am fod yn y dosbarthiadau hynny, a'r unig le arall allan nhw fod yw mewn uned, ac ateb y peth yw'r twf ni'n gweld.

"Ond mae'r nifer hyn - rhyw 2,000 - yn ganran fechan iawn o'r holl ddisgyblion mewn ysgolion."

Ychwanegodd fod y galw ar y system unedau cyfeirio disgyblion yn cynyddu, a bod y system yn ei chael hi'n anodd ymdopi.

'Ymddygiad wedi gwaethygu'

Ychwanegodd Sion Amlyn o undeb athrawon NASUWT ei fod yn credu bod y cynnydd yn y nifer sy'n cael eu haddysg y tu allan i'r brif ffrwd yn bryder.

"Dwi'n credu mai'r bwriad a'r dyhead ydy bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael addysg prif lif, ond yn naturiol mae 'na amryw o resymau pam fysa disgyblion angen addysg amgen - boed i 'neud efo anabledd neu beth bynnag," meddai.

"Ond un o'r prif ffactorau mae ein haelodau ni yn d'eud sydd wedi cynyddu, yn enwedig ers y pandemig, ydy eithrio disgyblion oherwydd camymddwyn difrifol.

"Maen nhw wedi gweld gwaethygiad yn yr ymddygiad ymhlith disgyblion uwchradd yn bennaf, a mae hynny'n amlwg yn cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau sydd wedi cael eu cyhoeddi rŵan."

Ond ychwanegodd fod elfen bositif yn y cynnydd mewn defnydd o'r unedau cyfeirio, gyda'r ffigyrau'n awgrym fod plant sy'n cael eu heithrio yn mynychu'r unedau yn hytrach na pheidio bod mewn addysg o gwbl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r ffigyrau yma yn cynnwys disgyblion sy'n derbyn eu haddysg y tu allan i'r ysgol yn sgil dewis rhieni

Dywedodd Llywodraeth Cymru, ers y pandemig, fod galw cynyddol wedi bod am ddarpariaeth addysg y tu allan i ysgolion prif ffrwd.

"Gall hyn fod am amryw o resymau, gan gynnwys problemau corfforol neu iechyd meddwl a gorbryder, ac ry'n ni'n gwybod fod hyn yn bryder cynyddol i blant a phobl ifanc," meddai llefarydd.

"Pan fo addysg yn cael ei roi mewn lle y tu allan i'r ysgol, mae'r awdurdod lleol yn gweithio gyda'r teulu a'r darparwr addysg er mwyn sicrhau bod y plentyn yn cael y gefnogaeth sydd ei angen."

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, fod y ffigyrau yn "dystiolaeth o'r newid cymdeithasol yn dilyn y pandemig".

"Rwy’n cydnabod bod pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol, ysgolion, rhieni a phlant a adlewyrchir yn y ffigurau hyn, ond mae’n bwysig inni ddeall mwy gan blant yn uniongyrchol am eu profiadau o’r ysgol ac unrhyw anawsterau sy’n ymwneud â’u llesiant," meddai.

"Mae cynllun gwaith o dan y Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sy'n ffocysu ar waith ymgysylltu pobl ifanc, ond nid yw hyn wedi symud ymlaen y tu hwnt i’r camau cychwynnol hyd yma, i glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau.

"Mae’n hollbwysig bod y gwaith hwn yn cychwyn o’r tymor newydd, fel ein bod yn gallu deall yn well y cyd-destun y tu ôl i’r ffigurau hyn, ac i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a heriau y mae plant yn eu hwynebu wrth gael mynediad i’w haddysg."

Beth am y rhai sy'n derbyn eu haddysg adref?

Nid yw'r ffigyrau yma yn cynnwys disgyblion sy'n derbyn eu haddysg y tu allan i'r ysgol yn sgil dewis rhieni.

Er hyn, mae'r ffigwr ar gyfer y disgyblion sy'n derbyn eu haddysg adref wedi cynyddu fesul blwyddyn hefyd.

Yn 2023/24 gwelwyd bod 13 i bob 1,000 o ddisgyblion yn gwneud hynny - cyfanswm o 5,330 o ddisgyblion.

Mae'r gyfradd ar ei huchaf yng Ngheredigion (26 i bob 1,000) ac wedi codi yn ystod y 14 mlynedd ddiwethaf ym Mlaenau Gwent (bellach yn 19 i bob 1,000).

Pynciau cysylltiedig