Lluniau: Cymeriadau Merthyr Tudful

cymeriad bogey roadFfynhonnell y llun, James William Mahoney
  • Cyhoeddwyd

Merthyr Tudful; tref a gafodd ei hadnabod fel prifddinas haearn y byd.

Mae olion diwydiant yn parhau'n drwm ar y dref ond beth allwn ni ei ddweud am ei phobl?

Un sy'n adnabod Merthyr fel cefn ei law yw'r ffotograffydd James William Mahoney a fagwyd yn Twynyrodyn, Merthyr Tudful.

 hithau'n dymor Merthyr BBC Cymru, yma mae James yn rhannu ei hoff luniau o ddau gasgliad ganddo: casgliad sy'n gofnod o fywyd sipsiwn ym Merthyr yn yr 1990au a chasgliad sy'n gofnod o rai o gymeriadau'r dref heddiw.

Sipsiwn Bogey Road

Roedd Bogey Road, hen safle gwastraff ar gyrion Merthyr yn fan lle roeddwn i'n chwarae'n blentyn, yn y mynyddoedd a'r cymoedd o amgylch y dref.

Roedd e'n rhywle ro'n i'n ei adnabod yn dda, ac yno'n byw roedd cymuned o sipsiwn oedd yn fy adnabod i.

Es i yn ôl yno pan o'n i'n hŷn gyda fy nghamera i dynnu lluniau. Roedd y bobl yma'n ymddiried yndda i, ac wrth siarad gyda nhw fe wnes i sylwi nad oedd llawer ohonyn nhw wedi cael llun wedi ei dynnu ohonyn nhw o'r blaen.

Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn portreadu cymunedau sydd wedi profi rhagfarn a sydd wedi byw ar gyrion cymdeithas.

Dyma rai o fy hoff luniau o'r casgliad a dynnwyd gen i yn y 90au cynnar.

Annie ShawFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Dyma'r ddiweddar Annie Shaw. Pan fu farw Annie, cafodd ei charafán a'i heiddo ei llosgi gyda hi, yn hen draddodiad y sipsiwn Romani.

Arferai ddweud ffortiwn ac arferai wthio ei phram i ben bryn Trwynyrodyn bob dydd, er ei hymddanogsiad bregus.

Bu farw Annie pan oedd hi dros ei 80 ond doedd neb yn siŵr o'i hoedran. Roedd hi'n ddisgynydd i linach hir o sipsiwn Romani.

Starmey ShawFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Starmey Shaw, brawd Annie. Roedd yntau hefyd yn byw yn y gwersyll.

AmosFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Roedd pawb yn Merthyr yn adnabod y gŵr chwedlonol yma. Roedden ni'n ei alw'n Darkcloud ond ei enw iawn oedd Amos Price.

AmosFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Llun arall o Amos neu 'Old Amos' fel fyddai'n cael ei alw hefyd.

Bogey Road KidsFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Plant direidus Bogey Road.

cariadon Bogey RoadFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Cariadon Bogey Road. Roedd y gwersyll yn gymysg o'r hen sipsiwn Romani a theithwyr.

Cymeriadau heddiw

Heddiw rwy'n parhau i dynnu lluniau o amgylch Merthyr Tudful, o'i thirlun a'i phobl.

Er bod degawdau ers i mi ddogfennu cymuned unigryw Bogey Road, mae cymeriadau heddiw yn nhref Merthyr ei hun, yr un mor lliwgar.

cymeriadau heddiwFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Mae'r ddau gymeriad lliwgar yma'n adnabyddus yn y dref am eu gwisgoedd anarferol ac am fynd am dro mewn gwisgoedd o bob math o amgylch Merthyr.

Maen nhw wastad yn rhoi pobl mewn hwyliau da gyda'u hagwedd at fywyd a'r wên groesawgar sydd ar eu hwynebau.

Pedwar dyn yn eistedd ar faincFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Mae'r pedwar gŵr bonheddig yma'n canu gyda Chôr Dowlais. Dyma John Combs, Meurig Price, Cledwyn Price a Richard Cole.

Mae Meurig a Cledwyn wedi bod yn aelodau o Gôr Dowlais ers dros 50 o flynyddoedd.

AmberFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Amber Wendl-Berry sydd yn y llun yma. Mae Amber yn gwneud gwaith anhygoel yn gofalu am ein parc hyfryd, Parc Thomastown.

Joan, cymdogesFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Roedd yn bwysig i mi dynnu llun fy nghymdoges annwyl, Joan.

bocsiwrFfynhonnell y llun, James William Mahoney

Bocsiwr o fri, David Harris. Mae gan Merthyr draddodiad cryf mewn bocsio ac mae rhai o'r mawrion yn cynnwys Eddie Thomas, Howard Winstone a Johnny Owen.

Pynciau cysylltiedig