Rhai yn poeni y gallai dawnsio gwerin a chlocsio ddiflannu

Dawnsio gwerin yn Eisteddfod Pontypridd 2024Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud bod gostyngiad wedi bod yn y nifer sy'n cystadlu yn y clocsio a'r dawnsio gwerin mewn eisteddfodau

  • Cyhoeddwyd

Mae adroddiad wedi mynegi pryder bod cefnogaeth i ddawnsio traddodiadol yng Nghymru yn "docenistaidd", a bod diffyg buddsoddiad a chydnabyddiaeth i'r maes.

Yn ôl rhai a gyfrannodd, mae pryder y gallai dawnsio gwerin a chlocsio ddiflannu yn llwyr heb fwy o gefnogaeth.

Daw'r pryderon fel rhan o adroddiad ehangach am gyflwr byd dawns yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y maes ar "adeg dyngedfennol", a bod "angen cymorth strategol ac ariannol" arno.

Mae'n gwneud sawl argymhelliad "gyda'r nod o greu diwylliant dawns bywiog a chynaliadwy drwy Gymru".

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod wedi ymateb i'r adroddiad trwy roi cynllun gweithredu ar waith, gyda £350,000 yn ychwanegol ar gael i ddatblygu'r maes.

Dawnsio gwerin yn Eisteddfod Pontypridd 2024Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gorddibyniaeth ar ymdrechion gwirfoddolwyr ym myd dawnsio gwerin, medd yr adroddiad

Fe wnaeth Cyngor y Celfyddydau gomisiynu'r adroddiad fel rhan o addewid i edrych ar faes dawns yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr heriau yn gymunedol.

Mae'n ddadansoddiad o fyd dawns yng Nghymru, gan gynnwys ar lefel broffesiynol, gymunedol, yn yr ysgol, er iechyd ac fel rhan o'n treftadaeth.

Daw yn dilyn adroddiadau tebyg ar fyd drama yn y gwanwyn, a chanu gwerin yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Karen Pimbley, bod yr "adolygiad yn dangos yn glir yr angen brys am ail-ddychmygu ac ailgodi'r sector a buddsoddi ynddo".

Galw am wneud mwy o ran y Gymraeg

Mae'r adroddiad yn galw am wneud mwy i integreiddio'r iaith Gymraeg mewn digwyddiadau dawns.

Un o argymhellion yr adroddiad yw i "ymgorffori'r Gymraeg a'n diwylliant yn ein hymarfer dawns".

Dywed yr adroddiad hefyd bod angen "datblygu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan a gwneud gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg".

Dawnsio gwerin yn Eisteddfod Pontypridd 2024Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn canmol digwyddiadau fel y Twmpdaith fel modd o ddenu mwy o bobl ifanc i fyd dawns

Dywed yr adroddiad bod aelodau Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn awyddus i gymryd rhan yn yr adolygiad, gan fynegi pryder bod dawnsio traddodiadol wedi cael ei anghofio yn y gorffennol.

Dywedwyd bod pryder am danfuddsoddi yn y maes, a bod rhai yn poeni y gallai dawnsio gwerin a chlocsio ddiflannu yn llwyr heb fwy o ymyrraeth.

Roedd pryder hefyd bod dawnsio gwerin yn cael ei weld fel rhywbeth hen ffasiwn, yn hytrach na chael ei ddathlu fel portread bywiog o'n diwylliant.

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd bod gostyngiad wedi bod mewn grwpiau ac unigolion sy'n cystadlu yn y clocsio a'r dawnsio gwerin mewn eisteddfodau.

Mae'n feirniadol hefyd bod diffyg isadeiledd proffesiynol a gorddibyniaeth ar ymdrechion gwirfoddolwyr.

'Dibynnu ar bobl i wirfoddoli'

Ond dyw'r adroddiad ddim yn negyddol i gyd am ddawnsio traddodiadol.

Mae'r adroddiad yn dweud bod ganddo botensial i fod yn arf allweddol o ran dysgu Cymraeg, a bod dawnswyr fel Angharad Harrop, Meinir Siencyn, Tudur Phillips ac Osian Meilir yn gwneud gwaith clodwiw yn hyrwyddo'r maes.

Dawnsio gwerin yn Eisteddfod Pontypridd 2024Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod dawnsio gwerin yn cael ei weld fel rhywbeth hen ffasiwn

Mae cynllun Prosiect Wyth yn un sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad fel enghraifft o arfer da yn y maes dawnsio gwerin - cynllun dwy flynedd er mwyn hybu'r maes a dathlu dawnsio traddodiadol, a gafodd ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau.

Yn ôl Dr Angharad Harrop, cyfarwyddwyr Cywaith Dawns yng ngogledd Cymru, dyma'r math o brosiectau sydd angen eu hariannu.

"Mae'n wir be' maen nhw'n dweud yn yr adroddiad - bod dawnsio gwerin yn dibynnu ar bobl i wirfoddoli eu hamser nhw," meddai ar Dros Frecwast.

"'Da ni'n sector amatur rhan fwyaf, ond mae'n bosib i chi gael gyrfa allan ohono fo hefyd.

"Ond fel rhywun sydd weithia'n dysgu dawnsio gwerin mewn ysgolion - am bob awr dwi'n cael fy nhalu i wneud y gwaith yma, dwi'n gwneud tua 10 lle dwi'n gwirfoddoli.

"Dim jest traddodiad ydi o - ma'n rhywbeth sy'n gallu ein helpu ni i fod yn hapus, ma'n gwneud gymaint i'n lles ni.

"Dim jesd sbïo yn ôl 'da ni, ond ymlaen hefyd."

'Gwytnwch rhyfeddol'

Dywedodd Dafydd Rhys, prif weithredwr Cyngor y Celfyddydau, fod "y gymuned ddawns yng Nghymru wedi dangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb heriau strwythurol dwfn".

"Rydym yn ddiolchgar i Karen Pimbley a phawb a gymerodd ran wrth greu'r adroddiad hwn ac awgrymu ffyrdd inni gefnogi'r artistiaid ymroddedig sy'n cynnal y rhan hanfodol hon o'n hunaniaeth ddiwylliannol," meddai.

Dywedodd Cyngor y Celfyddydau eu bod wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith "gyda chyllideb ddatblygu o £350,000 ar gyfer dawns wedi'i glustnodi ar gyfer 2025/26"

Dywedon nhw fod hyn ar ben y cyllid sy'n cael ei ddarparu i gwmnïau dawns drwy gyllid craidd ac i brosiectau drwy grantiau sy'n cael eu hariannu gan y Loteri.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut i ddosbarthu ein harian i sefydliadau celfyddydol, gan gynnwys y sector dawns".

Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi cynyddu eu cefnogaeth ariannol i Gyngor y Celfyddydau 9.2% eleni.

Pynciau cysylltiedig