Yr Eisteddfod yn ysbrydoli gŵyl yn Seland Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae tipyn o drafod am waddol yr Eisteddfod yn ardal Rhondda Cynon Taf wedi bod yr wythnos yma, ond a wyddoch chi fod dylanwad y Brifwyl yn barod i'w weld ar ochr arall y byd?
Yn Seland Newydd, mae gŵyl newydd Toitū Te Reo yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yr wythnos yma er mwyn dathlu iaith, diwylliant a hunaniaeth Māori.
Yn ôl y trefnwyr mae’r ŵyl yn seiliedig ar yr Eisteddfod Genedlaethol wedi i'r academydd ac arbenigwr ar ddiwylliant Māori, Sir Tīmoti Kāretu gael ei ysbrydoli gan y Brifwyl.
Mae tua 130,000 yn siarad Te Reo Māori erbyn hyn, a hynny wedi adfywiad yn yr 20fed ganrif pan oedd pryderon dwfn am ei dyfodol. Yn dilyn ymgyrchu fe sefydlwyd gorsafoedd radio a theledu yn yr iaith, ac ysgolion trochi i'w dysgu i genedlaethau newydd.
Mae gŵyl Toitū Te Reo yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod, ar y 8fed a'r 9fed o Awst, ac fel yr Eisteddfod mae gweithgareddau amrywiol gan gynnwys arddangosfa gelf a pherfformiadau cerddorol a barddonol.
Heriau cyffredin?
Yn ôl trefnwyr Toitū Te Reo, mae heriau cyffredin yn wynebu’r Gymraeg a Te Reo Māori.
“Yn Seland Newydd mae Te Reo Māori yn wynebu heriau newydd, gyda newidiadau diweddar gan y llywodraeth yn effeithio ar fesurau sydd wedi cefnogi ymdrechion i adfywio'r iaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf; yng Nghymru er gwaethaf rhethreg cadarnhaol mae erydiad cymunedau Cymraeg yn parhau i gyflymu yn wyneb heriau economaidd a mewnfudo.”
Un sy'n gyfarwydd â sefyllfa'r ddwy iaith yw'r Athro Gareth Schott. Yn wreiddiol o Gaerdydd mae bellach yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Waikato.
Fe ddywedodd wrth Cymru Fyw: "Yn ystod fy nghyfnod yma yn Aotearoa (sef yr enw Te Reo Māori ar Seland Newydd) mae'r mudiad iaith Māori wedi mynd o nerth i nerth, wedi'i alluogi i raddau sylweddol gan gyfryngau cymdeithasol sy'n darparu llwyfannau ar gyfer hyrwyddo mentrau allweddol fel Te Wiki o te Reo Māori (wythnos iaith Māori)"
Mae'r Athro wedi cyfrannu i ymdrechion i boblogeiddio defnydd o iaith Te Reo Māori, gan gynnwys bod yn rhan o wyliau cerddorol ac annog eraill i ddefnyddio'r iaith mewn gweithleoedd.
Mae'n gobeithio bydd gŵyl Toitū Te Reo yn gam cadarnhaol arall tuag at dyfu'r iaith:
"Mae Toitū Te Reo yn debygol o ddarparu man diogel cryf arall yn ogystal â dathliad o ddiwylliant dwfn a chyfoethog.
"Mae cael llwyddiant yr Eisteddfod fel nod neu nod arweiniol yn debygol o yrru trefnwyr i dyfu a datblygu'r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Aotearoa."
Mae sawl cynllun diwyllianol wedi ceisio atgyfnerthu’r berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru a Seland Newydd yn ddiweddar.
Gyda chymorth gŵyl Focus Wales, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato fe ddaeth y band pync Half/Time i Gymru yn 2023, gan berfformio caneuon yn iaith Te Reo Māori mewn gigs yng Nghymru.
Ac ym mis Mawrth eleni, fe deithiodd cerddorion o Gymru gan gynnwys Georgia Ruth a Carwyn Ellis i Auckland er mwyn cydweithio gyda cherddorion Mãori.
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
Cyfarchion o Bontypridd
Fe ddymunodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood yn dda i drefnwyr gŵyl Toitū Te Reo yr wythnos yma o barc Ynysangharad, gan ddweud:
"Uwch ben y cae hwn mae safle arbennig lle cynhaliwyd Gorsedd y Beirdd yn 1814.
"Wrth i chi gynnal eich gŵyl gyntaf, rydym yn gobeithio bydd eich menter yn mynd o nerth i nerth, ac y bydd hithau hefyd yma ymhen dau gant a mwy o flynyddoedd.
"Rydych chi fel ni yn gweithio er mwyn cadw eich iaith yn fyw. Ac fel ninnau rwy'n siŵr, yn gwneud hynny am ein bod ni'n gwybod bod pob iaith - waeth faint sy'n ei siarad - yn cyfrannu at amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas."
Ac ar drothwy cynnal Toitū Te Reo am y tro cyntaf, roedd gan Sir Tīmoti neges hefyd i drefnwyr gwyliau tebyg sy’n rhoi llwyfan i ieithoedd lleiafrifol:
"Rhowch eich holl egni i'r rhai sy'n fodlon, y rhai sy'n llwglyd. Peidiwch â rhoi sylw i'r rhai sy'n feirniadol nac yn taflu cerrig. Dilynwch yr iaith yn egnïol. Meddyliwch am y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst
- Cyhoeddwyd7 Awst