Claddu llwch un o gewri Hollywood yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog gyda'r annibynwyr wedi bod yn adrodd ei hanes ar ôl derbyn cais i gynnal gwasanaeth annisgwyl i gladdu llwch un o gewri cyfnod oes aur Hollywood yng ngorllewin Cymru.
Ym mis Ebrill eleni cafodd llwch yr actores Glynis Johns, a fu farw yn 100 oed, ei gludo o'r Unol Daleithiau i Gapel Jerusalem ym Mhorth Tywyn.
Dywedodd gweinidog Jerusalem, Mr Chris Owen, er ni chafodd ei geni yng Nghymru, roedd ewyllys yr actores yn ei gwneud yn gwbl glir ei bod eisiau ei chladdu ym mynwent y teulu ym Mhorth Tywyn.
Mae ei theulu estynedig yn cofio hanesion ei dyddiau cynnar yng Nghymru, ac yn falch ei bod wedi parhau i werthfawrogi ei gwreiddiau ar hyd y blynyddoedd.
"Fi’n cofio clywed pan yn grwt am yr actores Glynis Johns. Rwy’n cofio hi fel actores a chofio ei thad, yr actor Mervyn Johns, a’i ran mewn ffilmiau ond o'n i ddim yn gwybod am unrhyw gysylltiad â Phorth Tywyn," meddai Mr Owen.
Mae Ms Johns yn cael ei chydnabod fel un o'r olaf o oes aur ffilmiau Hollywood - yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Ymddangosodd mewn dros 60 o ffilmiau, gan ei henwebu am y Golden Globe ac Academy Award. Roedd hefyd yn gantores â llais chofiadwy. Enillodd wobr Tony, gyda'r gân 'Send in the Clowns' wedi ei chyfansoddi yn benodol ar ei chyfer gan Stephen Sondheim.
Cafodd ei gyrfa ei aildanio yn y 1960au gyda'i rhan y ffilm Mary Poppins.
Y Cysylltiad Cymreig
Ei thad oedd yr actor Mervyn Johns. Yn ddyn ifanc gadawodd Borth Tywyn gan briodi ac ymuno â chwmni drama teithiol. Roedd y cwmni ar ymweliad â De Affrica pan gafodd Glynis Johns ei geni yn Pretoria yn 1923.
Ar ôl dychwelyd i Brydain ac yn ystod y cyfnod cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, fe ddaeth Mervyn Johns yn actor lled-adnabyddus gyda ffilmiau fel The Captive Heart, Easy Money a Scrooge. Bu farw yn 1992, yn 93 oed a'i gladdu yng nghapel Jerusalem.
Fe wnaeth Glynis Johns ddilyn ôl traed ei thad i fyd y ffilmiau.
Y daith olaf i seren Hollywood
Fe gysylltodd teulu a chyfeillion yr actores yn yr Unol Daleithiau â Chyngor Tref Porth Tywyn i ofyn os oeddent yn gwybod ble roedd beddi'r teulu. Wrth lwc roedd un o flaenoriaid Capel Jerusalem yn aelod o'r Cyngor ac yn gwybod am fedd Mervyn Johns.
"Dymuniad yr ewyllys oedd bod ei llwch yn cael ei gladdu ym medd y teulu ym Mhorth Tywyn," meddai Mr Owen.
"Ei dymuniad oedd bod ei gweddillion yn cael eu claddu gyda’i thad a dyna ddigwyddodd."
Un a'r rhai fu'n bresennol yn y gwasanaeth yng Nghapel Jerusalem ym mis Ebrill oedd Rachael Nicholson - roedd ei Mamgu, Margaret Nicholson, yn gyfnither cyntaf i Glynis Johns.
"Mam Mamgu - oedd Enid May John - a hi oedd chwaer Mervyn Johns," meddai Rachael, sy'n athrawes Gymraeg yn ysgol Gymraeg Tregwyr ac yn gyn-ohebydd gyda rhaglenni Pnawn Da a Wedi 3.
"Fi'n cofio Mamgu yn sôn ei bod hi'n edrych ymlaen at pan fyddai Glynis yn dod draw.
"Roedd y ddwy yn agos o ran oed, Glynis wedi ei geni yn Hydref 1923 a Mamgu mis Rhagfyr felly dim ond ychydig fisoedd oedd rhyngddynt. Ro'n nhw'n hoff iawn o fynd gyda'i gilydd - pan fyddai draw - i wersi dawnsio a balet ym Mhen-bre."
"Roedd y cyswllt gyda Phorth Tywyn yn amlwg yn gryf yn ystod ei dyddiau cynnar ac wedi aros.
"Gwasanaeth bach oedd e, gwasanaeth bach yn y capel i'r teulu a'r rhai ddaeth draw o'r Unol Daleithiau. Bach o ystyried bod hi'n un o sêr mawr Hollywood ond mae'n amlwg mai dyma oedd ble roedd hi'n ystyried ei gwreiddiau, ac ei bod eisiau dod yn ôl i'w theulu."
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021