Y Goron yn 'chwerwfelys' ond yn 'gwneud cyfiawnder â bywyd Mam'

Owain RhysFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Owain Rhys bod y cerddi buddugol am ei fam yn "llawn cariad a thynerwch"

  • Cyhoeddwyd

Mae enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud ei fod "wedi gwneud cyfiawnder" â bywyd ei fam, a'i phrofiad o fyw gyda dementia, yn ei waith buddugol.

Owain Rhys o Gaerdydd ddaeth i'r brig ym mhrif seremoni ddydd Llun, am ei gerddi ar y testun 'Adfeilion'.

Ei fam, y Prifardd Manon Rhys, oedd enillydd y Goron yn Eisteddfod 2015, a'i phrofiad hi o fyw gyda dementia oedd yr ysbrydoliaeth i'r gwaith eleni.

Yn siarad ar raglen Tocyn Wythnos ar BBC Radio Cymru, dywedodd Owain Rhys bod "pob cerdd yn seiliedig ar brofiad go iawn" ac yn gofnod o fywyd "er mwyn eu pasio nhw 'mlaen i'r cenedlaethau nesaf".

Er bod eu hysgrifennu'n waith emosiynol i'r bardd, dywedodd bod y cerddi'n "llawn cariad, yn llawn tynerwch ac maen nhw o bosib yn mynd i fod yn gysur i deuluoedd eraill".

Disgrifiad,

Dywedodd Owain Rhys ei fod yn "teimlo bod rhaid i fi ganu am y profiad oedd gen i - Mam yn colli ei chof"

Dywedodd Owain Rhys mai ei fwriad oedd "sgwennu rhywbeth oedd yn hygyrch i bawb... gan gynnwys fy mhlant fy hun", wrth ddogfennu'r profiadau.

"Mae pob cerdd yn seiliedig ar brofiad go iawn.

"Mae 'na ychydig bach o drwydded y bardd yma ac acw i ystwytho pethe neu i wneud pethe i lifo ychydig bach yn well, ond straeon byrion ydyn nhw, o brofiadau 'da ni wedi eu cael.

"Er enghraifft, yn hebrwng Mam i wneud ei gwallt, a wedyn mynd â hi am dro i Gastell Coch, mynd i angladd yn Arberth… maen nhw i gyd yn seiliedig ar brofiadau go iawn."

Cafodd y cerddi eu hysgrifennu dros gyfnod o naw mis, ond maen nhw'n "seiliedig ar brofiadau sy'n dyddio 'nôl tua saith mlynedd, ond hefyd yn adlewyrchu ein hatgofion ni yn tyfu lan yn yr 80au ac atgofion Mam yn tyfu yn blentyn yn y 50au".

"Cofnod ydyn nhw ac mae'r gerdd olaf yn dweud hynny, yn rhoi pethe ar glawr er mwyn eu pasio nhw 'mlaen i'r cenedlaethau nesaf."

Manon Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Manon Rhys oedd enillydd y Goron yn 2015

Ychwanegodd Owain Rhys bod y cerddi cyntaf yn y casgliad, Llys a Llwybr Taf, "wedi eu sgwennu cyn i fi weld y testun felly oedd y cerddi yn dod yn naturiol".

"Ond o gael y testun, ychydig wythnosau mewn i ddechra' eu sgwennu nhw, fe wnaeth hwnnw roi fframwaith a strwythur i fi wedyn a tharged i anelu ato... ac o'n i'n gallu cuddio tu ôl i ffugenw nes mod i wedi clywed mod i wedi ennill, a dyna pryd wnaeth y panic setio mewn."

Dywedodd ar y rhaglen nad oed wedi rhannu'r cerddi gyda'i fam cyn cystadlu.

"Ers i fi gael clywed bo' fi wedi ennill, dwi wedi eu rhannu nhw ac mae hi yn browd iawn ohona' i.

"Ond, efallai bod gwir ystyr y cerddi ddim yn cael eu prosesu yn llwyr."

Tocyn Wythnos

Gwrandewch ar gyfweliad llawn Owain Rhys

Mae'r profiad wedi bod yn "rollercoaster emosiynol", meddai, "ond erbyn hyn dwi'n dawel fy meddwl mod i wedi gwneud cyfiawnder â bywyd fy Mam a phrofiadau dwi'n sôn amdanyn nhw".

"Maen nhw yn llawn cariad, yn llawn tynerwch ac maen nhw o bosib yn mynd i fod yn gysur i deuluoedd eraill.

"Nid un teulu yn unig sy'n mynd drwy hyn – mae 'na sawl teulu arall yn mynd drwyddo fo.

"Roedd hi'n broses chwerwfelys. Wrth gwrs, dwi'n orfoleddus o ennill y goron, ond mae'r tinc bach na o dristwch yna hefyd."

Ac oes arwyddocâd arbennig i ddewis "Llif 2" fel ffugenw felly?

Atebodd: "O'n i'n gweld y cerddi fel llif yr ymennydd, felly mae hynny yn un ystyr.

"Ond hefyd yr un llif â llifio, llifio'r cof a llifio'r berthynas rhwng dau math o beth – dyna'r gwir anniddorol am y ffugenw."