Peredur Glyn yn ennill Medal Daniel Owen am ei nofel 'Anfarwol'

Mae Peredur Glyn - a enillodd gyda'r ffugenw Ozymandias - yn ysgrifennu o fewn y genre arswyd cosmig
- Cyhoeddwyd
Mae Peredur Glyn wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam am ei nofel 'Anfarwol'.
Roedd 14 wedi ymgeisio eleni gyda'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Ar lwyfan y Pafiliwn, dywedodd un o'r beriniaid eleni, Mari Emlyn: "Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o'r cychwyn yng nghwmni'r llenor penigamp hwn er nad dyma'r math o nofel sydd fel arfer at fy nant."
Bydd Peredur Glyn Cwyfan Webb-Davies yn ennill medal a £5,000 o Gronfa Goffa I D Hooson.
Pwy yw'r enillydd?
Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy.
Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.
Mae'n darlithio yn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor erbyn hyn, gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Peredur Glyn hefyd yn aelod o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog
Mae'n nofelydd sydd yn ysgrifennu o fewn y genre arswyd cosmig.
Enillodd ei daid, y bardd a'r llenor T Glynne Davies, y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951.
Alun Ffred Jones oedd enillydd diweddaraf y gystadleuaeth hon, a hynny yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.
Nid oedd teilyngdod yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.
'Un o'r goreuon': Beth ddywedodd y beirniaid?
Mari Emlyn: "Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o'r cychwyn yng nghwmni'r llenor penigamp hwn er nad dyma'r math o nofel sydd fel arfer at fy nant.
"Strwythurir y nofel yn glyfar iawn fel drama glasurol Shakespearaidd gyda'i phump act, er bod yr awdur hwn, diolch i'r drefn, yn gwrthod y demtasiwn i gynnwys y dénouement, gan gyfiawnhau hynny ar y diwedd drwy ddweud, 'Nid yw bywyd go-iawn yn dwt.'
"Mae'r nofel yn daith drwy amser gan rychwantu bron i ddwy ganrif ac mae'n batrwm o sut i ddefnyddio stôr eithriadol o ymchwil i greu nofel hanesyddol ffantasïol heb i'r ymchwil hwnnw lyncu'r stori... Mae Ozymandias yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen."
Haf Llewelyn: "Mae hon wedi bod yn gystadleuaeth arbennig eleni. Hynod felly yw dweud bod 'Anfarwol' wedi neidio i'r brig, ac aros yno o'r darlleniad cyntaf un.
"Rydym yng nghwmni awdur arbennig yma, a theimlaf hi'n fraint fod ymysg y bobl gyntaf i gael darllen y gwaith hwn.
"O'r dechrau gallwn ymlacio, gan wybod na fyddai Ozymandias yn baglu, a fy mod yng nghwmni awdur hyderus, saernïwr stori gelfydd a dewin geiriau sy'n trin ein hiaith yn goeth ac ystwyth.
"Mae hon yn nofel lwyddiannus iawn a bydd yn ychwanegiad gwerthfawr tu hwnt i fyd y nofel Gymraeg. Llongyfarchiadau mawr i Ozymandias ar ddod i'r brig mewn cystadleuaeth gref.
"Mentraf ddweud hefyd fod hon yn dod i blith goreuon enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen dros y blynyddoedd."

Mae'r fedal yn cael ei rhoi yn flynyddol yn enw Daniel Owen - nofelydd o'r 19eg ganrif a oedd yn dod o'r Wyddgrug
Alun Davies: "Gall barnu 14 o nofelau mewn cyfnod cymharol fyr fod yn dasg heriol, ond y wobr i feirniad yw darganfod stori fel 'Anfarwol'.
"O ystyried safon yr ymgeiswyr eleni mae'n glod mawr dweud bod stori Ozymandias yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw'r cystadleuwyr eraill, ac nid yn unig yn haeddu ennill eleni, ond mae'n debyg y byddai wedi codi i'r brig nifer o flynyddoedd eraill hefyd.
"Mae hon wir yn stori syfrdanol sy'n anodd i'w chrynhoi: antur hanesyddol, goruwchnaturiol a gwyddoniasol sydd yn ddoniol, yn gyffrous, yn ysgogol ac yn heriol.
"Mae'r nofel yn cyffwrdd â marwoldeb, Cymreictod, a'r hyn mae'n ei olygu i fod yn rhan o'r ddynol ryw, a chefais f'ysgogi i fyfyrio ar nifer o gwestiynau rhyfedd a diddorol wrth ddarllen...
"Mi allwn i ysgrifennu llawer mwy am 'Anfarwol', ond dim ond ei darllen all wneud cyfiawnder â'r nofel hon. Enillydd cwbl haeddiannol o'r wobr eleni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl