Tyst arbenigol yn gwadu ei fod wedi newid barn yn achos Lucy Letby

Disgrifiad,

Dywedodd Dr Dewi Evans bod dim amheuaeth ganddo dros ei dystiolaeth i achos Lucy Letby

  • Cyhoeddwyd

Mae tyst arbenigol o Gymru yn achos y llofrudd Lucy Letby wedi ymateb i feirniadaeth o'i dystiolaeth fel sylwadau "di-sail" ac "anghywir".

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Llun, fe ddatgelodd tîm cyfreithiol y nyrs uned babanod newydd-anedig eu bod am ofyn i'r Llys Apêl adolygu ei holl euogfarnau.

Fe wnaethon nhw honni bod prif dyst arbenigol yr erlyniad, y cyn-ymgynghorydd pediatrig Dr Dewi Evans, wedi newid ei farn ynghylch sut y bu farw tri babi yn Ysbyty Countess of Chester rhwng 2015 a 2016.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Dr Evans na chafodd rybudd ffurfiol ynghylch eu cyhoeddiad nag unrhyw ohebiaeth gan fargyfreithiwr Letby, Mark McDonald, nag unrhyw aelod o'i dîm.

Fe gafodd Letby 15 o ddedfrydau o garchar am weddill ei hoes am lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio saith yn rhagor rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Sir Gaer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy Letby ymhlith nifer fach o garcharorion sydd wedi cael eu dedfrydu i dreulio gweddill eu hoes dan glo heb obaith o geisio am barôl

Dywedodd Mr McDonald wrth gynhadledd newyddion yn Llundain bod Dr Evans "yn rhyfeddol... wedi newid ei feddwl nawr ynghylch achos marwolaeth tri o'r babanod: Babi C, Babi I a Babi P".

Fe gafwyd Letby yn euog ym mis Awst 2023 ac mae dau gais i apelio yn erbyn ei heuogfarnau wedi cael eu gwrthod.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron bod y llys wedi gwrthod y ddadl bod yr erlyniad wedi cyflwyno tystiolaeth arbenigol "ddiffygiol".

'Hynod amharchus i'r teuluoedd'

Dywedodd Dr Evans ei fod "ond yn briodol fy mod yn ymateb gyda'r ffeithiau o ran fy nghyfraniad i achos Lucy Letby," gan fod ei thîm cyfreithiol wedi ei enwi yn eu cyhoeddiad.

Yn achos Babi C, fe gyfeiriodd at ddryswch a gododd ynghylch union amseriad penodol y digwyddiad gan ddweud ei fod wedi anfon "adroddiad manwl i Heddlu Sir Gaer sy'n egluro'r sefyllfa" o ran amseriad yr ymosodiad ac achos y farwolaeth.

Roedd y dystiolaeth o rôl Letby yn achos dirywiad a marwolaeth Babi I, meddai, "yn rymus ac aruthrol", ac "yn gyson ac yn sylweddol" yn achos Babi P.

"Mae sylwadau Mark McDonald ynghylch fy nhystiolaeth heb ei brofi, yn ddi-sail, ac yn anghywir," dywedodd.

"Ni allaf gofio unrhyw KC yn cyflwyno dadleuon ar ran cleient trwy gynhadledd newyddion, yn enwedig mewn achos o'r fath sensitifrwydd... Mae'n hynod amharchus i deuluoedd babanod a gafodd eu llofruddio a'u niweidio gan Lucy Letby."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd bargyfreithiwr Letby, Mark McDonald, ei fod yn gofyn i'r Llys Apêl adolygu euogfarnau'r gyn-nyrs

Ychwanegodd: "Yr unig le priodol i ddelio ag unrhyw apêl bosib yw'r Llys Apêl.

"Os fydd angen, byddwn yn falch o roi tystiolaeth yn y ffordd arferol: ar lw, yn destun croesholiad, a ble mae fy nhystiolaeth yn gyhoeddus."

Roedd barnwyr Llys Apêl sydd wedi adolygu'r achos eisoes, meddai, "yn gefnogol o fy nhystiolaeth" ac "yn cefnogi dyfarniad yr achos ym Manceinion yn ddiamod".

Ychwanegodd bod angen, "o gwrteisi a pharch", gadael i'r Fonesig Thirlwall gwblhau ei hymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd yn Ysbyty Countess of Chester, a bod angen i ymchwiliad heddlu "i ragor o ddigwyddiadau amheus" yn yr ysbyty ac yn Ysbyty Merched Lerpwl, barhau "heb unrhyw beth i dynnu eu sylw".

Mae Dr Evans hefyd wedi penderfynu bod hi'n bryd i stopio rhoi cyfweliadau i'r wasg a'r cyfryngau am y tro "gan fod rhywun ond yn ailadrodd yr un wybodaeth".

'Rhaid cael rheswm eithafol i apelio'

"Mae 'na gymaint am yr achos yma sy'n anarferol, yn enwedig difrifoldeb ofnadwy y cyhuddiadau a'r dyfarniadau yn y diwedd," dywedodd y barnwr Llys y Goron, Niclas Parri, ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth.

"Ond be' sydd angen i'r gwrandawyr i ddeall yw be sydd ddim yn anarferol ydy'r broses - y broses sy'n cael ei weithredu yw'r un broses ag unrhyw apêl.

"Hynny yw mae gan y diffynnydd hawl i wneud cais o fewn wyth diwrnod ar hugain am hawl i apelio ac mae un barnwr yn Llys yr Apêl yn ystyried hynny.

"Os yw'n dweud 'Na' a dyw'r drws heb gau, gewch chi fynd eto a fydd dau neu dri barnwr yn edrych.

"Mae'r drws ond yn ailagor wedyn o dan amgylchiadau eithriadol, a fydde rhaid bod 'na rheswm eithafol. Felly, a ydy hwn yn rheswm eithriadol? Dim ond y rhai sy'n gyfarwydd â holl ffeithiau'r achos a all fynegi barn ar hynny."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n dal yn edrych i ragor o achosion posib yn Ysbyty Countess of Chester ac yn Ysbyty Merched Lerpwl

"Hyd yn oed os gallen nhw berswadio unrhyw un i ailystyried hyn," ychwanegodd, "yr unig lys ar ôl ydy'r Goruchaf Lys a dydy'r llys yna ddim yn delio ag achosion oni bai bod llys yr apêl wedi'i perswadio nhw y dylen nhw.

"Fel arfer os oes egwyddor cyfreithiol sydd angen ei ddatrys, dim ond y Goruchaf Lys sydd yn gallu gwneud y penderfyniad hynny."

Ychwanegodd: "Fel mae barnwr yn gorfod dweud yn ddyddiol wrth reithgorau, rhowch eich barn ar sail y dystiolaeth, ddim ar farn bobl eraill.

"Yr unig bobl sydd â'r hawl wedyn i fynegi unrhyw farn neu ddod i unrhyw gasgliad mewn achos fel hwn ydy'r rheiny sydd wedi cael eu trwytho yn y dystiolaeth gyfan."

Pynciau cysylltiedig