Undeb â diffyg hyder yn is-ganghellor Prifysgol Abertawe

Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau undeb wedi pleidleisio nad oes ganddyn nhw hyder yn is-ganghellor Prifysgol Abertawe.

Yn ôl UCU Prifysgol Abertawe roedd y bleidlais wedi'i sbarduno gan y cyhoeddiad o doriadau o £30m dros y flwyddyn academaidd hon, a £25m o hynny'n dod o gostau staff.

Dywedodd llywydd yr undeb fod y toriadau'n "creu sefyllfa waith amhosibl i staff".

Yn ymateb, dywedodd Prifysgol Abertawe fod heriau prifysgolion wedi gwaethygu ar draws y Deyrnas Unedig oherwydd "newidiadau sylweddol i'r cyd-destun recriwtio myfyrwyr rhyngwladol".

Paul Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle

Mae'r is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle, hefyd yn gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi Prifysgolion Cymru ac yn Aelod o Fwrdd Prifysgolion y DU.

Dywedodd yr undeb, sy'n cynrychioli academyddion a phobl mewn gwasanaethau proffesiynol, nad oes ganddyn nhw hyder yn ei arweinyddiaeth a'r "cyfeiriad strategol a gymerwyd mewn ymateb i sefyllfa ariannol ddifrifol barhaus y brifysgol".

Cafodd y bleidlais ei chynnal ddydd Mercher diwethaf.

Fis Tachwedd diwethaf, dywedodd y brifysgol yn eu hadolygiad blynyddol y bydd angen gwneud toriadau gwerth £30m oherwydd "gostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig o dramor".

Daw hyn wrth i brifysgolion ledled Cymru wynebu anawsterau ariannol.

Ychwanegodd UCU Abertawe fod bron i 400 o staff wedi gadael y brifysgol fel rhan o gynllun diswyddo gwirfoddol, ochr yn ochr â chael gwared â bron i 200 o swyddi gwag.

Yn ôl yr undeb, dydyn nhw ddim yn credu bod modd datrys yr "argyfwng ariannol" yn y brifysgol trwy golli mwy o swyddi.

Dywedodd Estelle Hart, llywydd UCU Abertawe: "Mae'r bleidlais yma yn adlewyrchu'r dicter a'r rhwystredigaeth sy'n cael ei deimlo gan ein haelodau, sy'n wynebu blwyddyn arall gyda'r bygythiad o ddiswyddo tra bod disgwyl iddyn nhw gyflawni mwy a mwy gyda llai a llai.

"Mae anallu'r brifysgol i ddiystyru diswyddiadau gorfodol neu i gynnig unrhyw sicrwydd y bydd y rownd ddiweddaraf yma o doriadau yn ddigon i gydbwyso'r llyfrau yn creu sefyllfa waith amhosibl i staff, sydd nid yn unig yn poeni am eu swyddi ond am ddyfodol y brifysgol ei hun.

"Nid staff cyffredin na myfyrwyr sydd wedi achosi'r argyfwng ariannol yn Abertawe, ac ar draws y sector, ac mae'n gwbl annerbyniol eu bod nhw'n parhau i deimlo ei effeithiau mwyaf llym.

"Rhaid bod atebolrwydd i'r rhai sydd ar frig y sefydliadau."

'Penderfyniadau anodd wedi'u gwneud'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe fod angen iddyn nhw wneud arbedion "er mwyn sicrhau ein cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol".

"Dros y tair blynedd diwethaf rydyn ni wedi gweithio'n galed i wneud yr arbedion hanfodol yma trwy leihau ein gwariant, trwy reoli swyddi gwag ar bob lefel, a thrwy staff yn gadael yn wirfoddol.

"Oherwydd maint yr her ar draws y sector, rydyn ni'n cydnabod fod penderfyniadau anodd wedi eu gwneud, ac fe fyddan nhw'n parhau i gael eu gwneud.

"Rydyn ni'n llwyr ymwybodol o'r effaith y mae hyn wedi'i gael o bosib ar ein staff, a'n blaenoriaeth trwy'r broses yw cefnogi ein cydweithwyr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.